Cofrestr sgriniadau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb
Rhannu'r dudalen hon:
Summary
Rydym yn cynnal sgriniadau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i asesu effaith polisïau neu brosiectau newydd neu ddiwygiedig er mwyn penderfynu p’un a oes angen Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb llawn. Mae’r broses hon yn helpu i sicrhau y gwneir penderfyniadau mewn modd sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal
Byddwn yn diweddaru’r gofrestr gydag unrhyw sgriniadau newydd bob chwarter (ym mis Ebrill, mis Gorffennaf, mis Medi a mis Ionawr).
Cofrestr sgriniadau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb
Teitl sgriniad | Polisi | Dyddiad |
---|---|---|
Bwrdd Prosiect Diwygio Etholiadol yr Alban | Bwrdd prosiect i reoli darpariaeth a gweithrediad mewn ymateb i Fil Etholiadau'r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio) | Mai 2024 |
Cymorth gyda phleidleisio i bobl anabl yn yr orsaf bleidleisio: Canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau | Canllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Etholiadau 2022 | Cymeradwywyd yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2022; diweddarwyd i adlewyrchu monitro mis Awst 2023 |
Cyflwyno ID Pleidleisiwr mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau Llywodraeth y DU | Y gofyniad bod ID ffotograffig yn cael ei ddangos mewn gorsafoedd pleidleisio fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Etholiadau 2022 | Rhagfyr 2022; diweddarwyd Mehefin 2024 |
Arolwg rheoli perfformiad | Diweddaru ein cynllun rheoli perfformiad | Mawrth 2023 |
Prentisiaethau | Polisi ar gynnig prentisiaethau yn fewnol ac yn allanol | Mehefin 2023 |
Cyflwyno ffonau symudol | Cyflwyno ffôn symudol i bob aelod o staff sydd am gael un | Awst 2023 |
Ceisiadau ar-lein am bleidlais absennol a hawliau pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy | Newidiadau i'r ffordd y gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy sy'n ofynnol o dan Ddeddf Etholiadau 2022 | O 31 Hydref 2023 ymlaen |
Hawliau pleidleisio newydd i Etholwyr Tramor | diddymu'r terfyn 15 mlynedd ar hawliau pleidleisio i ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor ac ymestyn y cyfnod cofrestru ar gyfer y pleidleiswyr hyn fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Etholiadau 2022 | O fis Ionawr 2024 ymlaen |
Newidiadau i hawliau pleidleisio a chymhwysedd ymgeiswyr i rai o ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU | Ni fydd rhai dinasyddion yr UE bellach yn gallu pleidleisio na sefyll mewn etholiadau Llywodraeth y DU fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Etholiadau 2022 | O fis Mai 2024 ymlaen |