Cynllun Corfforaethol
Foreword
Mae’r Cynllun Corfforaethol pum mlynedd o hyd hwn, ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2026/27, yn disodli ac yn datblygu’r cynllun dros dro a roddwyd ar waith ar ôl etholiad cyffredinol y DU ym mis Rhagfyr 2019. Mae gennym hefyd Gynllun Corfforaethol i Gymru sy’n cynnwys ein gweithgareddau yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2026/27.
Ein gweledigaeth a’n nodau
Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sector cyhoeddus o’r radd flaenaf sy'n arloesol, yn sicrhau gwerth gwych ac yn cyflawni’r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr a deddfwyr.
Bwriadwn gyflawni’r weledigaeth hon drwy raglen waith pum mlynedd â phedwar nod:
Nod 1
Galluogi’r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
Nod 2
Sicrhau system releiddio gadarn a chynyddol dryloyw ym maes cyllid gwleidyddol, goruchwylio cydymffurfiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y rhai a reoleiddir a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
Nod 3
Bod yn ganolfan arbenigedd annibynnol uchel ei pharch, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth i wella tryloywder, tegwch ac effeithlonrwydd ein system ddemocrataidd ymhellach, a helpu i’w haddasu i’r oes fodern, ddigidol
Nod 4
Darparu gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau a’n harbenigedd er mwyn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr. Mae’r nod hwn yn sail i’n holl waith
Y cyd-destun newidiol
Bu newidiadau sylweddol yn y cyfnod ers cyhoeddi'r cynllun corfforaethol diwethaf.
Mae effeithiau'r pandemig COVID-19 ond megis dechrau dod i'r amlwg, gan gynnwys gohirio'r etholiadau a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2020. Cam i'w groesawu yw hyn, ond un sy'n creu her fawr o ran cynnal yr etholiadau ym mis Mai 2021.
Caiff etholiadau eu cynnal yn llwyddiannus o hyd, er gwaethaf y pwysau a roddir ar weinyddwyr etholiadol gan etholiadau annisgwyl. Mae boddhad y cyhoedd â'r broses cofrestru i bleidleisio, a phleidleisio ei hun, yn uchel o hyd. Mae ein gwaith rheoleiddio mewn perthynas â chyllid gwleidyddol wedi parhau i ddangos ei werth.
Ond mae straen i'w gweld yn ein system. Mae pwysau sylweddol ar adnoddau a gallu awdurdodau lleol. I'r cyhoedd, mae'r system yn dibynnu ar hyder, y gellir ei golli'n gyflym os bydd amheuon yn dechrau codi.
Er bod ein hymchwil gyda'r cyhoedd yn dangos bod y mwyafrif o'r bobl yn teimlo'n hyderus bod etholiadau mis Mai 2019 wedi cael eu cynnal yn llwyddiannus, a bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses bleidleisio, roedd lefelau hyder pleidleiswyr yn gyffredinol yn y gwaith o gynnal Etholiad Seneddol Ewrop ac etholiadau lleol mis Mai yn is nag mewn etholiadau blaenorol.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yn hanfodol buddsoddi mewn diwygiadau i gefnogi'r broses o gynnal etholiadau'n effeithiol, sicrhau bod ymgyrchoedd yn effeithiol a thryloyw, a chryfhau hyder y cyhoedd.
Un o'r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu yw cyfreithiau etholiadol o'r oes flaenorol, hen system gofrestru sydd angen ei moderneiddio, a'r llwyth o ddeddfau y mae angen i weinyddwyr etholiadol gyfeirio atynt wrth cynnal sawl etholiad ar yr un pryd.
Mae cynigion presennol gan Gomisiynau'r Gyfraith yn y DU wedi cynnig sail gref dros waith pellach, ac rydym yn parhau i alw ar lywodraethau'r DU i weithredu ar y rhain.
Mae natur ymgyrchu gwleidyddol yn newid o hyd. Caiff mwy o arian ei wario ar hysbysebion digidol. Mae angen i reoleiddwyr, a'r gyfraith, newid yn unol â'r datblygiadau hyn.
Wrth i waith ymgyrchu newid, mae angen i ni sicrhau bod y pwerau a'r adnoddau cywir gennym i reoleiddio cyllid gwleidyddol yn effeithiol. Rydym yn gweithio'n galed i annog cydymffurfiaeth â phawb dan sylw.
Nid yw'r materion hyn yn newydd, ond mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw yn cynyddu, a hefyd yr angen i weithredu ar fyrder. Mae ein cynllun yn amlinellu'r ffordd rydym yn bwriadu chwarae rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â'r heriau hyn. Rydym hefyd yn bwriadu gweithio gyda holl lywodraethau'r DU i'w helpu i ddatblygu eu cynlluniau diwygio eu hunain.
Ein nodau a’n blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf
Mae'r nod hwn yn cynnwys ein rôl ganolog wrth oruchwylio'r broses o gynnal etholiadau a refferenda yng ngwledydd y DU. Rydym yn cefnogi gweinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr a phleidiau ledled y DU drwy roi canllawiau a chyngor wedi eu teilwra, yn ogystal â gwybodaeth i bleidleiswyr am gofrestru a phleidleisio.
Mae 23 o ddigwyddiadau etholiadol arfaethedig yn ystod cyfnod y cynllun corfforaethol hwn. Yn y cyfnod cyn y digwyddiadau hyn, byddwn yn buddsoddi yn y gwaith o gefnogi gweinyddwyr etholiadol, ymgeiswyr a phleidiau ledled y DU.
Yn ogystal, byddwn yn sicrhau ein bod yn hollol barod i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau etholiadol annisgwyl sy'n codi yn ystod cyfnod y cynllun hwn.
Ar 12 Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y caiff yr etholiadau a drefnwyd ar gyfer mis Mai 2020 eu gohirio tan fis Mai 2021. Er bod y penderfyniad hwn i'w groesawu, sy'n golygu na fyddwn yn wynebu'r dasg o gynnal yr etholiadau mewn amgylchedd heriol iawn ym mis Mai 2020, mae'n golygu y bydd yr etholiadau arfaethedig ym mis Mai 2021 yn fwy na'r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl yn flaenorol. Erbyn hyn, caiff digwyddiadau eu trefnu ym mhob rhan o Brydain Fawr, a bydd cyfuniadau mwy sylweddol o etholiadau.
Rydym eisoes yn gweithio i helpu'r gymuned etholiadol i ddeall goblygiadau'r penderfyniad i ohirio, ac i roi trefniadau ar waith i gefnogi'r broses o gynnal yr etholiadau hyn yn effeithiol, a bydd y gwaith hwn yn parhau drwy gydol 2020-21.
Cynnal digwyddiadau etholiadol yn effeithiol
Yn ystod cyfnod y cynllun corfforaethol hwn, byddwn yn cefnogi'r gwaith o gynnal y 23 o etholiadau arfaethedig. Yn y cyfnod cyn yr etholiadau hyn, byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, ymgeiswyr ac asiantiaid.
Rydym yn cynnig y dylem fuddsoddi mewn gwasanaeth cymorth arwain ychwanegol. Mae hyn yn golygu y gallem gynnig mwy o gyngor ac adnoddau. Byddwn hefyd yn symud mwy o'n canllawiau i fformat sy'n fodern ac yn hygyrch.
At hynny, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wneud etholiadau'n fwy hygyrch, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a phrosesau ar gael i bawb yn gyfartal.
Ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr
Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr cyn pob etholiad mawr, gan godi ymwybyddiaeth ynghylch yr angen i gofrestru ymysg yr holl bleidleiswyr cymwys, ond gan dargedu'n benodol grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol.
Cefnogi diwygiadau Llywodraethau'r DU i'r canfasiad blynyddol ym Mhrydain Fawr
Byddwn yn rhoi cyngor, arweiniad ac adnoddau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn eu cefnogi yn y gwaith o roi'r newidiadau hyn ar waith yn effeithiol.
Byddwn hefyd yn gweithio i gefnogi canfasiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd i dynnu sylw at yr hyn y mae angen i bobl ei wneud er mwyn sicrhau eu bod wedi'u cofrestru i bleidleisio.
Gwella gwdnwch gwasanaethau etholiadol lleol
Byddwn yn datblygu strategaeth i gefnogi mwy o wytnwch o ran darparu gwasanaethau etholiadol lleol.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn y gymuned etholiadol i ystyried mentrau, megis rhaglen sefydlu a mentora ar gyfer Swyddogion Canlyniadau newydd, a phecyn cymorth gwasanaethau etholiadol.
Safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Byddwn yn cyhoeddi safonau perfformiad newydd, a gaiff eu defnyddio gennym ni a gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol i ddeall a gwella eu perfformiad, gan sicrhau bod y cofrestrau mor gywir a chyflawn â phosib a bod pawb sy'n gymwys ac sydd am bleidleisio yn gallu gwneud hynny.
Newidiadau i'r etholfraint
Byddwn yn ymateb i agendâu polisi a deddfwriaethol llywodraethau Cymru a'r Alban mewn perthynas â newidiadau i'r etholfraint a'u trafod, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn fodlon arnynt. Byddwn hefyd yn buddsoddi mewn ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r newidiadau hyn.
Gwaith ar dwyll etholiadol
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol. Cefnogir y gwaith hwn drwy weithgarwch cyhoeddus, megis ein hymgyrch 'Dy Bleidlais Di a Neb Arall'.
Beth fydd effeithiau a buddiannau yr hyn a gyflawnir?
Bydd y gwaith hwn yn sicrhau y gallwn roi cymorth gwell i awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu gwasanaethau etholiadol, a gwella ein hymwneud â phartneriaid allweddol yn y gymuned etholiadol, megis Solace a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol.
Bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bleidleiswyr a chynnal etholiadau a systemau cofrestru effeithiol.
Bydd ein gwaith yn helpu i sicrhau y bydd pobl yn ymddiried fwyfwy yng nghanlyniadau etholiadau ac yn eu derbyn, ac y bydd nifer yr heriau cyfreithiol llwyddiannus mor isel â phosib.
Mae'r nod hwn yn cynnwys ein rôl reoleiddio, ac mae'n hanfodol i sicrhau'r tryloywder sydd wrth wraidd unrhyw ddemocratiaeth iach. Mae ein gwaith yn y maes hwn eisoes yn eang ei gwmpas, ac yn gynyddol ragweithiol, gan sicrhau cydymffurfiaeth drwy gefnogi bleidiau ac ymgeiswyr, drwy ymyriadau amser real a chamau gorfodi pan fydd angen.
Sicrhau tryloywder
Rydym yn cynnal cofrestrau pleidiau gwleidyddol a gaiff eu cyhoeddi ar-lein, gan roi hyder mai dim ond pleidiau sy'n bodloni'r profion cofrestru cyfreithiol sy'n cael ymddangos ar bapurau pleidleisio.
Rydym hefyd yn cynnal cofrestr o ymgyrchwyr sy'n gwario symiau sylweddol o arian wrth ymgyrchu mewn etholiadau.
Rydym yn sicrhau tryloywder o ran cyllid gwleidyddol y DU drwy gyhoeddi manylion am roddion a benthyciadau, cyfrifon blynyddol gan bleidiau cofrestredig, a gwariant ar ymgyrchu y mae'n ofynnol i bleidiau ac eraill roi gwybod i ni amdanynt.
Rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel er mwyn helpu pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r rheolau. Ac rydym yn cymryd camau, gan roi cosbau lle y bo'n briodol pan dorrir y rheolau, yn unol â Pholisi Gorfodi statudol y Comisiwn.
Rydym o'r farn bod gweithio i sicrhau cydymffurfiaeth cyn digwyddiad etholiadol yn well o lawer na gorfod cymryd camau gorfodi yn ddiweddarach. Felly rydym yn cynnig y dylid buddsoddi yn y gwaith o gefnogi cydymffurfiaeth drwy adnodd ar-lein sy'n hawdd i'w ddefnyddio a gwasanaeth rheoleiddio sy'n fwy ymatebol.
Parhau i gynnal y cofrestrau o bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr
Mae hyn yn sicrhau bod pleidleiswyr yn glir ynghylch y pleidiau cofrestredig a'r ymgyrchwyr ar y papur pleidleisio. Mae'n cynnwys cwblhau adolygiad o ddisgrifiadau cofrestredig i sicrhau mai dim ond y sawl sy'n bodloni'r profion cyfreithiol a gaiff eu cynnwys, ac ystyried sut y caiff cyfansoddiadau a chynlluniau ariannol pleidiau eu llunio.
Cyhoeddi data ariannol gan bleidiau ac ymgyrchwyr
Byddwn yn parhau i hyrwyddo tryloywder o ran cyllid gwleidyddol drwy gyhoeddi data ariannol gan bleidiau ac ymgyrchwyr, gan gynnwys data sy'n gysylltiedig ag etholiadau.
Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn darparu system Cyllid Gwleidyddol Ar-lein newydd i helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gyflwyno eu ffurflenni ariannol yn effeithlon.
Rhoi cyngor amserol o ansawdd uchel
Er mwyn sicrhau cyfraddau uchel o gydymffurfio â'r rheolau a, thrwy hynnny, dryloywder i bleidleiswyr, byddwn yn parhau i roi cyngor ac arweiniad amserol o ansawdd uchel i bleidiau ac ymgyrchwyr er mwyn eu helpu i fodloni eu gofynion cyfreithiol.
Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi canllawiau ar gyfer yr etholiadau mawr yn 2021 fel y bo'n briodol, a fydd yn ystyried effeithiau'r cyfuniad cymhleth o etholiadau, a datblygu codau ymarfer i ategu'r gyfraith mewn perthynas ag adrodd ar wariant etholiad.
Gan weithio gyda phleidiau ac ymgyrchwyr, byddwn yn datblygu fframwaith strategol newydd a fydd yn sicrhau cymorth rhagweithiol sy'n effeithiol ac yn effeithlon.
Gorfodi rheolau cyllid gwleidyddol
Byddwn yn gorfodi'r rheolau ynglŷn â chyllid gwleidyddol yn effeithiol, gan sicrhau bod pleidleiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr yn hyderus y caiff y rheolau eu gorfodi yn gymesur ac yn effeithiol, o fewn ein pwerau presennol.
Byddwn yn parhau i gyhoeddi canlyniad pob ymchwiliad, gan gynnwys cyhoeddi adroddiadau llawn pan fydd rheswm da dros wneud hynny, er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr weld yr hyn rydym yn ei wneud i orfodi'r rheolau.
Er mwyn rhwystro pobl rhag cyflawni troseddau, a sicrhau y gallwn ymateb mewn modd cymesur os byddant yn gwneud hynny, byddwn yn parhau i ddatblygu ein gallu i erlyn troseddau a amheuir. Byddwn yn ymgynghori ar y ffordd rydym yn defnyddio erlyniadau.
Ymateb i'r amgylchedd sy'n newid
Byddwn yn ymateb i'r amgylchedd sy'n newid wrth i fwy o arian gael ei wario ar ymgyrchu digidol, drwy ymateb i bolisïau'r llywodraeth a'i hagendâu deddfwriaethol ar gyfer cyllid gwleidyddol a'u trafod, er mwyn sicrhau eu bod yn gwella tryloywder ar gyfer y cyhoedd a'u bod yn ymarferol ar gyfer ymgyrchwyr.
Byddwn yn cryfhau ein hymwneud â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol a darparwyr hysbysiadau digidol eraill er mwyn sicrhau bod eu gwasanaethau a'u polisïau yn cefnogi tryloywder ar gyfer gweithgarwch ymgyrchu mewn etholiadau a refferenda.
Grantiau datblygu polisi
Byddwn yn gweinyddu'r cynllun grantiau datblygu polisi a sicrhau ei fod yn gweithio'n effeithiol drwy wneud argymhellion amserol i Lywodraeth y DU ar gyfer unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Beth fydd effeithiau a buddiannau yr hyn a gyflawnwn?
Bydd y gwaith hwn yn cynnig ymgysylltu cyflymach a mwy ymatebol â rhanddeiliaid, ac arweiniad sy'n edrych fwyfwy i'r dyfodol ac yn achub y blaen ar broblemau rheoleiddio posibl.
Dylem ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach ac ehangach o gyfreithiau cyllid ymgyrchu ymysg pleidiau ac ymgyrchwyr, gan arwain at gyfraddau uwch o gydymffurfiaeth.
Byddwn yn darparu amrywiaeth ehangach o adnoddau sy'n cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr yn uniongyrchol, sy'n ddigon hyblyg i gael eu defnyddio gyda gwahanol strwythurau a meintiau, ac sy'n cefnogi meysydd penodol o'r rheolau ynglŷn â chyllid ymgyrchu, ar sail cudd-wybodaeth strategol a gwaith sganio'r gorwel.
Gyda'i gilydd, dylai hyn arwain at welliannau o ran ansawdd a dibynadwyedd y data ariannol a gaiff eu darparu gan bleidiau ac ymgyrchwyr a'u cyhoeddi gennym.
Bydd y cyhoedd yn gweld, a byddant yn hyderus, fod gwariant a chyllid pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn etholiadau'r DU yn dryloyw, ac y byddwn yn cymryd camau cymesur os bydd unrhyw un yn torri'r rheolau ar gyllid ymgyrchu.
Mae'r nod hwn yn cyfleu ein rôl o ran arwain y sector drwy'r heriau y mae'n eu wynebu.
Byddwn yn darparu'r dystiolaeth, y gwaith dadansoddi a'r mewnwelediad sydd eu hangen arnom ni ac ar eraill sy'n gweithio yn y maes, i nodi'r materion pwysicaf sy'n wynebu system ddemocrataidd y DU a mynd i'r afael â nhw.
Byddwn hefyd yn monitro newidiadau i'r system cofrestru etholiadol ac yn defnyddio arolygon barn ar ôl etholiad a'n harolwg blynyddol ar gyfer y DU gyfan i fonitro barn y cyhoedd am faterion etholiadol a'u profiadau wrth gymryd rhan mewn etholiadau.
Mae'r data hyn yn llywio ein penderfyniadau a'n hargymhellion polisi, yn ein helpu i ddylanwadu ar ddatblygiadau ym meysydd deddfwriaeth, polisi ac ymarfer, ac yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn sydd bwysicaf i bleidleiswyr.
Byddwn yn parhau i wneud gwaith ymchwil a chyflwyno adroddiadau ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol y DU. Mae dyletswydd statudol arnom i gyflwyno adroddiadau ar etholiadau a refferenda a pharhau i adolygu'r gyfraith etholiadol.
Byddwn hefyd yn parhau i graffu ar ddeddfwriaeth etholiadol newydd a darparu briffiadau arbenigol i lywodraethau a deddfwrfeydd ar gynigion deddfwriaethol.
Mae hyder pleidleiswyr yn ein system etholiadol yn hanfodol, ac mae'n dibynnu ar hyder yn y wybodaeth a gynigir. Felly rydym yn bwriadu buddsoddi yn y gwaith o ddatblygu ymwybyddiaeth pleidleiswyr ac addysg, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymgyrchu digidol.
Rhoi cyngor arbenigol a chymorth i bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, llywodraethau a'r cyhoedd
Byddwn yn rhoi cyngor arbenigol i'r grwpiau hyn er mwyn llywio newidiadau i bolisïau, addysgu'r cyhoedd a rhoi gwybodaeth iddynt, a hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth ym mhob rhan o'r sector etholiadol.
Bydd hyn yn cynnwys cymorth cysylltiadau cyhoeddus a materion cyhoeddus ar gyfer polisïau cyllid gwleidyddol y Llywodraeth a'r gwaith o ddiwygio cyfraith etholiadol, swyddogaeth swyddfa'r wasg i reoli ymholiadau gan y cyfryngau a'r cyhoedd, a rhoi cyngor arbenigol a thystiolaeth i lywio ymgyngoriadau polisi ac adolygiadau.
Adrodd ar etholiadau
Byddwn yn parhau i adrodd ar y broses o weinyddu etholiadau er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio gwersi a ddysgwyd i wella'r broses o gynnal digwyddiadau yn y dyfodol.
Newid y gyfraith etholiadol
Byddwn yn parhau i hyrwyddo newidiadau i'n prosesau democrataidd ac ennyn cefnogaeth iddynt drwy ymgyrchoedd penodol a chydweithio â phartneriaid allweddol a rhanddeiliaid.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried opsiynau ar gyfer gwneud etholiadau'n fwy hygyrch a moderneiddio'r system gofrestru drwy wneud defnydd gwell o gofnodion data cyhoeddus sy'n bodoli eisoes.
Datblygu ein sail dystiolaeth
Byddwn yn datblygu ein sail dystiolaeth er mwyn sicrhau dealltwriaeth well o'r amgylchedd etholiadol, materion sy'n datblygu, risgiau a chyfleoedd a allai effeithio ar ein gwaith yn y tymor canolig i'r hirdymor, a'n galluogi i gynllunio yn unol â hynny.
Byddwn yn casglu data a gwybodaeth ar ôl etholiadau, gan gynnwys data ar agweddau'r cyhoedd yn ogystal â phrofiadau gweinyddwyr etholiadau ac ymgeiswyr, er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r materion a wynebir gan ein cwsmeriaid, gan gynnwys y cyhoedd ac awdurdodau lleol.
Cynyddu ein gweithgarwch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd
Byddwn yn gwella ein gweithgarwch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y rheolau a'r systemau sydd ar waith mewn perthynas ag etholiadau a refferenda, a'r hyn y gallant ei wneud i godi pryderon a chymryd rhan.
Bydd hyn yn cynnwys gweithgarwch mewn perthynas ag etholiadau sy'n gysylltiedig â'r technegau ymgyrchu digidol a gaiff eu defnyddio fwyfwy i ymgysylltu â phleidleiswyr, a chynhyrchu adnoddau addysgu mwy hirdymor i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.
Hygyrchedd ein gwybodaeth
Un o'n gwerthoedd corfforaethol yw hyrwyddo tryloywder, a byddwn yn gweithio tuag at wneud ein gwybodaeth yn fwy hygyrch i bartneriaid a'r cyhoedd drwy ddatblygu ein gwefan gorfforaethol newydd ymhellach. Byddwn hefyd yn diweddaru ac yn addasu'r cynnwys ymchwil sydd ar gael.
Bydd hyn yn cynnwys prosiect i ddefnyddio data agored ac adnoddau digidol i sicrhau eu bod ar gael i bawb.
Ymchwil i dwyll etholiadol
Byddwn yn bwrw ymlaen â'n hymchwil a'n gwaith dadansoddi data mewn achosion o dwyll etholiadol er mwyn nodi unrhyw newidiadau a allai helpu i fynd i'r afael â'r mater, ac i hyrwyddo ymgysylltu â llywodraethau'r DU a'u hagendâu deddfwriaethol, megis cynnig Llywodraeth y DU y gyflawni profion adnabod i bleidleiswyr ledled Prydain Fawr.
Cynllun corfforaethol llawn
Drwy ddatblygu ein cynllun corfforaethol llawn, ac mewn ymgynghoriad â'r rhanddeiliaid, byddwn yn datblygu rhaglen newydd o waith ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Nod y gwaith hwn fydd gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i'r gwaith o helpu'r sector i nodi'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol a'r heriau y mae'n eu hwynebu, a chynllunio ar eu cyfer.
Beth fydd effeithiau a buddiannau yr hyn a gyflawnwn?
Cyfeirir at ein tystiolaeth a'n barn arbenigol mewn dadl gyhoeddus ar ein system a'n prosesau democrataidd, ac mae cynigion y llywodraeth yn adlewyrchu ein blaenoriaethau a'n hargymhellion ar gyfer newid
Fel corff sy'n atebol i Senedd y DU yn uniongyrchol, rydym yn destun disgwyliadau Senedd y DU o ran rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian, yn yr un modd ag y mae cyrff cyhoeddus eraill. Mae bodloni'r safonau hyn, neu ragori arnynt, yn hanfodol i'n dull rheoli beunyddiol.
Caiff ein hatebolrwydd i Senedd y DU ei arfer drwy Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol, sef un o bwyllgorau Tŷ'r Cyffredin, a gadeirir gan y Llefarydd ac sy'n cynnwys gweinidogion sy'n gwasanaethu ar sail ex-officio yn ogystal ag aelodau'r meinciau cefn a benodir gan y Llefarydd.
Yr hyn sy'n allweddol i'n llwyddiant dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt yw sicrhau bod yr adnoddau cywir ar waith gennym i gefnogi'r broses o gyflawni'r cynllun hwn, gan gynnwys yr angen cychwynnol am wytnwch i sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn briodol i'r pandemig COVID-19.
Mae'r nod hwn yn darparu ffocws ar gyfer gweithgareddau sy'n cefnogi'r sefydliad ac yn sicrhau bod y bobl a'r adnoddau priodol gennym, a bod y modd y darperir gwasanaethau yn effeithlon, effeithiol a darbodus; sicrha hefyd ein bod yn buddsoddi yn y gwaith o foderneiddio ein seilwaith a'n systemau i gynnig gwerth am arian yn gyson, a gwella o hyd. Mae hyn yn cynnwys darparu swyddogaethau adnoddau dynol, cyllid, cynllunio, cefnogaeth gyfreithiol, cymorth a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) o ansawdd uchel.
Strategaeth pobl
Byddwn yn rhoi ein 'strategaeth pobl' newydd ar waith er mwyn hyrwyddo diwylliant sy'n cynnig y ffordd orau i dimau staff allu cyflawni eu rolau'n effeithiol.
Gwelliannau i weithio'n ddigidol
Byddwn yn parhau i weithio ar ein prosiect 'ffyrdd o weithio' er mwyn sicrhau newidiadau busnes a weithredir yn ddigidol, i adlewyrchu disgwyliadau cyflogwr modern, gan sicrhau y gall TGCh gefnogi'r newidiadau hyn.
Ymysg y buddsoddiadau o ran systemau busnes a gynllunnir dros y blynyddoedd nesaf, mae system rheoli achosion rheoleiddio newydd gennym i gefnogi'r gwaith o ymgymryd ag erlyniadau, system rheoli achosion cleientiaid newydd i olrhain cysylltiadau â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, ac adnoddau adrodd ar ôl etholiadau.
Olrhain perfformiad corfforaethol
Rydym wedi llwyddo i roi system cynllunio a pherfformiad corfforaethol newydd ar waith, sy'n sicrhau bod y sefydliad yn cael un darlun integredig o weithgarwch busnes strategol a gweithredol, a gwaith cyflawni prosiectau, risgiau a pherfformiad.
Mae hyn bellach yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygu galluogrwydd a dealltwriaeth well o'r broses o gyflawni ein nodau strategol a'r effaith rydym yn ei chael ar gyfer ein cwsmeriaid.
Atebolrwydd yng Nghymru a'r Alban
Byddwn yn parhau i weithio gyda Senedd Cymru a Senedd yr Alban i roi ein trefniadau atebolrwydd newydd ar waith, gan gynnwys fformiwla cyllido newydd a chynlluniau busnes ar gyfer Cymru a'r Alban.
Gwasanaethau cyfreithiol
Mae ein gallu i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, deddfwrfeydd, pleidiau gwleidyddol a phob un o'n rhanddeiliaid eraill yn dibynnu'n anuniongyrchol ar y ffaith bod gwasanaeth cyfreithiol arbenigol gennym.
Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu ein ffordd o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol sy'n bodloni'r gofyniadau newidiol a chynyddol sydd arnom, ac yn lleihau'r defnydd ar arbenigedd allanol costus.
Bydd y fenter hon yn sefydlu sail greiddiol, fwy sefydlog o gyfreithwyr yn dilyn trefniadau gwaith newydd a gaiff eu hategu gan brosesau rheoli ansawdd a systemau rheoli achosion cadarn.
Rheoli ansawdd
Byddwn yn ymgorffori prosesau rheoli drwy bob un o'n gwasanaethau a'n swyddogaethau, gan adeiladu ar yr ymarfer cadarn sydd ar waith yn ein timau rheoleiddio. Bydd hyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu ein systemau a'n prosesau ac yn ymgorffori gwella ansawdd a gwella cyson yn ein diwylliant.
Beth fydd effeithiau a buddiannau yr hyn a gyflawnwn?
Bydd gwella ein gwaith adrodd ar gynllunio a pherfformiad yn sicrhau y gellir gwella gwaith monitro a rheoli ym mhob un o'n nodau, a thrwy hynny ysgogi effaith well ar y materion sy'n bwysicaf i bleidleiswyr.
Mae ein prosiect 'ffyrdd o weithio' yn cyfuno gwelliannau technolegol gwirioneddol a newidiadau i arferion ac amgylchiadau gwaith. Rydym yn disgwyl y bydd hyn yn arwain at welliannau gwirioneddol o ran cynhyrchiant drwy gynnig gwell ffyrdd o weithio ar draws timau sy'n fwy hygyrch.
Nod ein 'strategaeth pobl' yw sicrhau bod gennym staff sy'n llawn diddordeb a chymhelliant dros gyflawni ein hagenda uchelgeisiol. Rydym yn disgwyl y bydd hyn i'w weld mewn sgoriau uwch o ran ymgysylltu â staff a chyfraddau cadw staff uwch.
Fodd bynnag, caiff effaith wirioneddol y newidiadau hyn eu hadlewyrchu ym mesurau perfformiad ac effaith y nod hwn, yn ogystal â nodau eraill, wrth i ni sicrhau bod y nodau mewnol hyn yn arwain at welliannau o ran ein darpariaeth.