Cynllun Corfforaethol 2025/26 – 2029/30
Rhagair
Mae ein systemau etholiadol a democrataidd yn rhan o seilwaith cenedlaethol hanfodol y DU. Yn gyffredinol, mae etholiadau ledled y DU yn parhau i gael eu cynnal yn dda, ac mae’r cyhoedd yn ymddiried ynddynt.
Ond yn y DU, fel ledled y byd, mae democratiaethau’n wynebu bygythiadau cynyddol a heriau newydd, ac mae angen i ni amddiffyn, moderneiddio a buddsoddi yn y systemau hyn i wella cydnerthedd. Mae ein democratiaeth yn werthfawr ac mae angen inni ofalu amdani.
Yn unol â’n dyletswydd statudol, rydym yn paratoi Cynllun Corfforaethol pum mlynedd newydd ar ôl etholiad cyffredinol Senedd y DU.
Mae Cynllun Corfforaethol y DU yn nodi ein gwaith sy’n cael ei ariannu gan Senedd y DU. Mae’n ymwneud â sut byddwn yn cyflawni ein dyletswyddau statudol, yn parhau i gyflawni ein gwaith craidd, a’n blaenoriaethau strategol ar gyfer cyfnod Senedd y DU sydd newydd gael ei hethol. Mae Pwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol yn ystyried ein Cynllun Corfforaethol cyn iddo gael ei gyflwyno yn Senedd y DU.#
Mae’r Cynllun Corfforaethol pum mlynedd hwn wedi cael ei ddatblygu ar ôl etholiad cyffredinol Seneddol y DU ym mis Gorffennaf 2024, ac mae’n nodi’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud rhwng 2025/26 a 2029/30. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â phleidleiswyr a’u hysbysu, gan weithio i sicrhau bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu cymryd rhan mewn etholiadau. Byddwn yn parhau i sicrhau y cydymffurfir â chyllid gwleidyddol a chyfreithiau cofrestru ymgyrchwyr, a byddwn yn parhau i gefnogi’r gwaith o ddarparu etholiadau sy’n cael eu cynnal yn dda gan dimau gwasanaethau etholiadol lleol.
Yn ogystal â chyflawni’r gwaith craidd hwn, ein blaenoriaethau yn ystod y cyfnod hwn yw cynyddu mynediad a hyder pleidleiswyr, moderneiddio’r system etholiadol, mynd i’r afael â bygythiadau, arwain dadl wybodus ar newidiadau, a meithrin ein gwytnwch.
Yn benodol, nod y Cynllun Corfforaethol hwn yw goresgyn rhwystrau mynediad ac ymgysylltiad, gan gynnwys gwella gwybodaeth i bleidleiswyr ac addysg ddemocrataidd. Mae’r gwaith hwn yn arbennig o angenrheidiol gan fod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno pleidleisiau yn 16 oed ledled y DU, sydd eisoes yn berthnasol i etholiadau datganoledig yng Nghymru a’r Alban.
Ein nod yw mynd i’r afael â phroblemau hirsefydlog sy’n cael eu creu gan gyfraith etholiadol hen ffasiwn, gymhleth ac anghyson. Byddwn yn gweithio i ddiogelu ac amddiffyn y system rhag bygythiadau fel twyllwybodaeth etholiadol, ymosodiadau seiber, ymyrraeth dramor, twyll etholiadol a’r cam-drin a’r bygythiadau cynyddol a wynebir gan ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig.
Byddwn yn cynnull ac yn arwain y drafodaeth, gan weithio’n adeiladol gyda phartneriaid – gan gynnwys llywodraethau, gweinyddwyr etholiadol, sefydliadau cymdeithas sifil, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, rheoleiddwyr eraill, a’r heddlu.
Mae ein hannibyniaeth yn hanfodol i bopeth a wnawn – yr hyn sy’n ysgogi ymddiriedaeth a hyder ynom ni a’n gwaith – ac am y rheswm hwn, byddwn yn dadlau dros ddiddymu darpariaethau sy’n galluogi’r llywodraeth i lunio Datganiad Strategaeth a Pholisi a luniwyd i arwain gwaith y Comisiwn. Byddwn hefyd yn cryfhau ein sefydliad, gan fuddsoddi yn ein pobl a’n systemau i sicrhau ein bod yn barod i gyflawni’r hyn sy’n ofynnol gennym.
Rydyn ni wedi datblygu’r cynlluniau hyn mewn ymateb uniongyrchol i’r data a’r dystiolaeth rydyn ni wedi’u casglu a’u cyhoeddi, a thrwy wrando ar bryderon pleidleiswyr, pleidiau, ymgeiswyr a gweinyddwyr. Mae hyn wedi’i wreiddio’n gadarn yn ein profiad o gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddiol statudol a chyflawni ein gwaith craidd, a byddwn yn parhau i gryfhau hynny.