Yr hyn a wnawn mewn refferenda
Overview of what we do in referendums
Er mwyn i refferendwm gael ei gynnal yn y DU, bydd yn rhaid i Senedd y DU ei ddeddfu.
Byddwn yn dechrau gwaith refferendwm pan fydd Senedd y DU wedi pasio'r ddeddfwriaeth hon, a phan fyddwn yn gwybod beth yw ein rôl yn y refferendwm.
Mae ein rôl mewn refferenda yn wahanol i'n rôl mewn etholiadau. Er nad ydym yn cynnal etholiadau, rydym yn cynnal refferenda cenedlaethol a gynhelir yn ôl Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), neu fel arall, bydd gennym gyfrifoldebau eraill, yn ddibynnol ar y ddeddfwriaeth.
Ein Cadeirydd, neu'r unigolyn a benodir gan ein Cadeirydd, fydd y Prif Swyddog Cyfrif ar gyfer refferenda PPERA. Mae'r Prif Swyddog Cyfrif yn gyfrifol am gynnal y bleidlais. Gall roi cyfarwyddiadau i Swyddogion Cyfrif, a bydd hefyd yn cadarnhau canlyniadau'r refferendwm a'u cyhoeddi.
Cyn y refferendwm
Cyn y refferendwm, byddwn yn gwneud y canlynol:
- bwrw golwg ar eiriad cwestiwn y refferendwm arfaethedig er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd i bleidleiswyr ei ddeall, ac fel rhan o'n hasesiad, byddwn yn cynnal ymchwil gyhoeddus
- darparu canllawiau ac adnoddau ar gyfer y Swyddogion Cyfrif hynny sy'n gyfrifol am weinyddu'r refferendwm a rhoi cyfarwyddiadau yn ôl yr angen (yn achos refferenda PPERA)
- rhoi arweiniad i bobl sy'n ymgyrchu yn y refferendwm, fel eu bod yn gwybod beth yw'r rheolau
- cynnal ymgyrchoedd fel bod pobl yn gwybod beth yw'r dyddiadau cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio, a gwneud cais am bleidleisiau post neu bleidleisiau trwy ddirprwy
- penodi prif ymgyrchydd ar gyfer dwy ochr y ddadl yn yrefferendwm
- cyhoeddi gwybodaeth am y rhoddion mae pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn eu derbyn, a faint o arian maent yn ei wario
- dylunio'r papur pleidleisio
Yn ystod y refferendwm
Yn ystod y refferendwm, byddwn yn gwneud y canlynol:
- gweithio gyda'r Swyddogion Cyfrif er mwyn sicrhau y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal yn llwydiannus
- edrych ar ba mor llwyddiannus y mae'r Swyddogion Cyfrif yn gwneud eu gwaith, a ph'un a ydynt yn gweithio yn ôl ein safonau perfformiad
- sicrhau bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i bleidleisio, gan gynnwys sut i ddod o hyd i'w gorsaf bleidleisio
- ateb y cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i ni ar y diwrnod pleidleisio
- ymweld â gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, i weld pa mor llwyddiannus y cânt eu cynnal
Pan ddaw'r bleidlais i ben ar ddiwrnod pleidleisio'r refferendwm, byddwn yn cadarnhau canlyniadau'r refferendwm a'u cyhoeddi (yn achos refferenda PPERA).
Ar ôl y refferendwm
Ar ôl y refferendwm, byddwn yn gwneud y canlynol:
- cyhoeddi adroddiadau ar ba mor llwyddiannus y cafodd y refferendwm ei gynnal, ac argymell beth fyddai'n gwella refferenda yn y dyfodol
- cyhoeddi gwybodaeth am y rhoddion y gwnaeth pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn eu derbyn, a faint o arian y gwnaethant ei wario
- cyhoeddi data etholiadol, gan gynnwys nifer yr etholwyr, y nifer a bleidleisiodd, nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a gwybodaeth am bleidleisio drwy'r post