Yr hyn rydym yn ei wneud mewn etholiadau
Rhannu'r dudalen hon:
Overview of what we do in elections
Rydym yn sicrhau y caiff etholiadau eu cynnal yn llwyddiannus, a bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Nid ydym yn cynnal y gorsafoedd pleidleisio, cyfrif y pleidleisiau na chyhoeddi'r canlyniadau mewn etholiadau.
Y Swyddog Canlyniadau yn eich cyngor lleol sy'n gwneud hyn os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu'r Alban. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, y Prif Swyddog Etholiadol yn Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon sy'n cynnal yr etholiadau.
Mae gennym rôl wahanol mewn refferenda.
Cyn yr etholiad
Cyn yr etholiad, rydym yn gwneud y canlynol:
- rhoi arweiniad a chymorth i Swyddogion Canlyniadau, fel y gallant gynnal yr etholiad yn llwyddiannus
- rhoi arweiniad i bleidiau gwleidyddol a phobl sy'n sefyll yn yr etholiad, fel eu bod yn gwybod beth yw'r rheolau
- cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus fel bod pobl yn gwybod beth yw'r dyddiadau cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio, a gwneud cais am bleidleisiau post neu bleidleisiau trwy ddirprwy
- cyhoeddi gwybodaeth am y rhoddion mae pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn eu derbyn, a faint o arian maent yn ei wario
Yn ystod yr etholiad
Yn ystod yr etholiad, rydym yn gwneud y canlynol:
- edrych ar ba mor llwyddiannus mae'r Swyddogion Canlyniadau yn gwneud eu gwaith, a ph'un a ydynt yn gweithio i'n safonau perfformiad
- sicrhau bod gan bobl yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i bleidleisio, gan gynnwys sut i ddod o hyd i'w gorsaf bleidleisio
- ateb y cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i ni ar y diwrnod pleidleisio
- ymweld â gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, ac arsylwi ar ba mor llwyddiannus y cânt eu cynnal
Ar ôl yr etholiad
Ar ôl yr etholiad, rydym yn gwneud y canlynol:
- cyhoeddi adroddiadau ar ba mor llwyddiannus y cafodd yr etholiad ei gynnal, ac argymell beth fyddai'n gwella etholiadau yn y dyfodol
- cyhoeddi gwybodaeth am y rhoddion mae pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn eu derbyn, a faint o arian y gwnaethant ei wario
- cyhoeddi data etholiadol gan gynnwys nifer yr etholwyr, y nifer a bleidleisiodd, nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd, a gwybodaeth am bleidleisio drwy'r post