Cofnodion Bwrdd y Comisiwn 16 Ionawr 2024
About the meeting
Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Ionawr 2024
Lleoliad: Llundain (Bunhill Row) a thrwy gynhadledd fideo
Dyddiad cyfarfod nesaf y Bwrdd, dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024
Yn bresennol
John Pullinger, Cadeirydd
Elan Closs Stephens
Alex Attwood
Sarah Chambers
Roseanna Cunningham
Katy Radford
Sue Bruce
Stephen Gilbert
Carole Mills
Yn y cyfarfod:
Rob Vincent, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
David Moran, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyllid
Binnie Goh, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol a Diwygio a'r Cwnsler Cyffredinol
Zena Khan, Uwch-gynghorydd Llywodraethu
Carol Sweetenham, Pennaeth, Swyddfa Rheoli Prosiectau [eitem 2]
Monika Chwiedz, Rheolwr Cynllunio a Pherfformiad Dros Dro [eitem 2]
Shumina Faruk, Uwch-gynghorydd, Cynllunio a Pherfformiad [eitem 2]
Ben Mills, Uwch-gynghorydd, Cymorth Rhaglenni [eitem 2]
Iain Bell, Uwch-gynghorydd, Cynllunio a Pherfformiad [eitem 2]
Anesa Beasley, Swyddog Cymorth Prosiect [eitem 2]
Evan Smith, Swyddog Cymorth Prosiect [eitem 2]
Orla Hennessy, Rheolwr Cysylltiadau'r Cyfryngau a Chyfathrebu [eitemau 8 a 12]
Katy Knock, Pennaeth, Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydgysylltu[eitem 12]
Sesiwn gaeedig y Bwrdd
(Comisiynwyr yn unig, 9.00 – 9.30am)
Croeso ac ymddiheuriadau
Croesawodd Cadeirydd y Bwrdd bawb i'r cyfarfod, yn arbennig Carole Mills, a oedd yn ymuno â'i chyfarfod cyntaf ar ôl cael ei phenodi'n ffurfiol yn aelod o Fwrdd y Comisiwn. Nododd y Bwrdd na chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Cydnabu'r Bwrdd mai hwn fyddai cyfarfod Bwrdd olaf y Comisiynydd Alex Attwood wrth iddo gwblhau ei benodiad ar y Bwrdd. Diolchodd y Bwrdd i Alex am ei waith a dymuno'n dda iddo.
Ymunodd Pennaeth y Swyddfa Rheoli Prosiectau â'r cyfarfod, gyda chydweithwyr o'r tîm, er mwyn rhoi trosolwg i'r Bwrdd o waith y tîm i oruchwylio prosesau cynllunio a chyflawni prosiectau corfforaethol ym mhob rhan o'r Comisiwn a chynnal y fethodoleg rheoli prosiectau, olrhain cynnydd ac adrodd arno drwy Pentana yn yr Adroddiad Rheoli Misol a'r Adroddiad Perfformiad Chwarterol.
Cynhaliwyd trafodaethau am risgiau mewn perthynas â phrosiectau mawr yn gor-redeg, cyllideb ac arbenigedd. Gofynnodd y Bwrdd am i ddangosfwrdd o brosiectau gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg bob chwarter er mwyn darparu llinell welediad, eglurder a chyfrifoldeb.
Diolchodd y Bwrdd i Bennaeth y Swyddfa Rheoli Prosiectau a'r tîm am y cyflwyniad a'u gwaith gwerthfawr parhaus.
Datganiadau o fuddiannau
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd yn nodi datganiadau pellach o fuddiannau a fyddai'n cael eu darparu i'r tîm Llywodraethu er mwyn eu diweddaru ar y gofrestr a'u cyhoeddi ar y wefan.
Cofnodion (CE 248/24)
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd gytuno ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn (CE 249/24)
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd ac y dylai diweddariadau gael eu cynnwys ar y system olrhain camau gweithredu.
Diweddariad chwarterol y Prif Weithredwr (Ar lafar)
Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar lafar am baratoadau a chyflwyniadau mewn perthynas â'r gyllideb, y Cynllun Corfforaethol, paratoadau ar gyfer etholiadau 2024, materion staffio, prosiect Cyllid Gwleidyddol Ar-lein a'r Arolwg Pobl.
Roedd diweddariadau pellach yn cynnwys negeseuon allweddol ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2023/24, y wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb 2023/24 a'n Prif Amcangyfrif ar gyfer 2024/25 gyda thrafodaethau pellach i'w cynnal yn y Senedd wythnos nesaf.
Trafododd y Bwrdd y syniad o gael arsylwyr o'r Bwrdd mewn is-etholiadau, cael adroddiadau rheolaidd ar ymatebion i'r Arolwg Pobl, gwybodaeth am bryd y caiff Gwobrau'r Staff eu cynnal, a'r wybodaeth ddiweddaraf am sesiynau briffio'r Senedd mewn perthynas â'r Strategaeth a'r Datganiad Polisi.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r diweddariadau llafar ar weithrediadau a materion yn codi.
Blaengynllun busnes y Bwrdd 2023/24 a 2024/25 (CE 250/24)
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r Blaengynllun o fusnes y Bwrdd ar gyfer 2023/24 a 2024/25.
Negeseuon allweddol ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2023-24 (CE 251/24)
Gwnaeth y Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil, gyflwyno'r adroddiad a'r negeseuon a'r gweithgareddau allweddol y mae'r Comisiwn am eu hadlewyrchu yn yr adroddiad blynyddol. Nododd y Bwrdd fod gweithgarwch perthnasol wedi'i ddewis ar gyfer pob un o'r pum amcan strategol yn y Cynllun Corfforaethol, er mwyn adlewyrchu gwaith y Comisiwn.
Trafododd y Bwrdd y dylai'r adroddiad ddangos uchafbwyntiau'r Comisiwn yn ogystal â'r heriau a wynebwyd ganddo.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn cytuno â'r dull gweithredu mewn perthynas â negeseuon a gweithgareddau allweddol gyda'r cafeatau uchod.
Dangosyddion a thargedau perfformiad 2024/25 (CE 252/24)
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Bwrdd y Comisiwn.
Datganiad ar barodrwydd i dderbyn risg 2024-25 (CE 253/24)
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Bwrdd y Comisiwn.
Diweddariad ar y gyllideb: Amcangyfrif Atodol 2023-24 a Phrif Amcangyfrif 2024-25 (CE 254/24)
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn cytuno â chynnwys yr adroddiad, gan gytuno i ddirprwyo awdurdod i Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a'r Swyddog Cyfrifyddu, wneud unrhyw newidiadau i gyflwyniad y gyllideb sy'n dod i'r amlwg wrth iddo gael ei gwblhau.
Cyflawni Etholiad Cyffredinol nesaf Senedd y DU – adolygiad o risgiau strategol (Cyflwyniad)
Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol, a'r Pennaeth, Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydgysylltu, gyflwyniad a oedd yn cwmpasu'r risgiau strategol i etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU a sut y gall y Comisiwn, ynghyd â'i bartneriaid, ymateb iddynt.
Trafododd y Bwrdd y cyflwyniad, amrywiaeth a difrifoldeb y risgiau a nodwyd a mesurau lliniaru posibl. Dadleuodd rhai aelodau o'r Bwrdd y dylid gohirio mesurau'r Ddeddf Etholiadau, fel ID pleidleiswyr, tan ar ôl yr etholiad cyffredinol. Nododd y Bwrdd fod ymgysylltu â'r Gweinidog Etholiadau a'r Gweinidog Diogelwch yn bwysig a bod cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer dechrau mis Chwefror.
Diolchodd y Bwrdd i'r Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol, a'r Pennaeth, Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydgysylltu, am eu cyflwyniad.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r cyflwyniad ar y risgiau strategol i gyflawni etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU a chefnogi'r camau gweithredu a gynigiwyd yn y cyflwyniad.
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (Ar lafar)
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Bwrdd y Comisiwn.
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ac Adnoddau Dynol (Ar lafar)
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Bwrdd y Comisiwn.
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Ar lafar)
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Bwrdd y Comisiwn.
Adolygiad blynyddol o'r rhestr o bolisïau a chodau (CE 255/24)
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Bwrdd y Comisiwn.