Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 20 Mai 2024
Details
Dyddiad: Dydd Llun 20 Mai 2024
Lleoliad:: Swyddfeydd COSLA, Caeredin a thrwy gynhadledd fideo
Dyddiad cyfarfod nesaf y Bwrdd: Dydd Iau 25 Mehefin 2024
Yn bresennol
- John Pullinger: Cadeirydd
- Sue Bruce
- Sarah Chambers
- Roseanna Cunningham
- Stephen Gilbert
- Carole Mills
- Katy Radford
- Sheila Ritchie
- Chris Ruane
- Elan Closs Stephens
Yn bresennol:
- Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol
- Binnie Goh,Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Diwygio a Chwnsler Cyffredinol
- Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
- David Moran, Cyfarwyddwr Dros Dro Cyllid
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Tîm Llywodraethu [o eitem 5]
- Zena Khan Uwch Gynghorydd, Llywodraethu ac
- Elizabeth Youard, Pennaeth Llywodraethu
- Cyfathrebu [eitem 7.2 yn unig]
- Orla Hennessy, Rheolwr Cyswllt â’r Cyfryngau a Chyfathrebu
- Tîm Polisi ac Ymchwil [eitemau 4 ac eitem 5 yn unig]
- Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil
- Chris Chie, Cynghorydd Polisi
- Freya Fenn,Swyddog Ymchwil
- Helen Lyon, Uwch Swyddog Ymchwil
- Michela Palese, Rheolwr Polisi
- Charlotte Spiers, Uwch Swyddog Ymchwil
- Rachel Stephenson, Cynghorydd Polisi
- Cefnogaeth Rheoleiddio
- Denise Chick, Pennaeth Cefnogaeth Rheoleiddio
- Tîm yr Alban
- Andy O’Neill, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Yr Alban
- Alison Davidson, Uwch Swyddog, Gweithredu a Pherfformiad Etholiadol
- Kelsey Gillies Uwch Swyddog, Rheoleiddio ac Ymgyrchu
- Lindsey Hamilton, Swyddog Cefnogi Busnes
- Catherine Heggie Uwch Swyddog, Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Sarah Mackie,Rheolwr, Yr Alban
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd
Croesawodd Cadeirydd y Bwrdd bawb i’r cyfarfod ac i Gaeredin, gyda gwerthfawrogiad mawr i dîm yr Alban am gynorthwyo gyda gwneud y trefniadau ar gyfer ymweliad y Bwrdd â Chaeredin. Byddai nifer o gyfranwyr ac arsylwyr yn ymuno ar gyfer rhannau o'r cyfarfod, gyda chroeso yn cael ei ymestyn.
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Cyflwyniad i Dîm yr Alban
Nododd y Bwrdd gyfansoddiad tîm yr Alban a disgrifiad o'i weithgareddau. Disgrifiodd y tîm yr ystod o randdeiliaid y buont yn gweithio gyda nhw a thynnodd sylw at eu gwaith gyda'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn yr Alban. Mae'r Comisiwn yn mabwysiadu dull lleol o gefnogi pleidiau, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol i sicrhau bod cyngor yn cael ei deilwra i'w hanghenion. Roedd y tîm hefyd wedi meithrin partneriaethau gyda grwpiau addysg ac elusennol i godi dealltwriaeth o sut mae'r system ddemocrataidd yn gweithio. Nodwyd heriau penodol o ran meithrin dealltwriaeth well o'r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bu'r cyfarfod yn trafod diwygio cyfraith etholiadol sydd ar y gweill yn yr Alban ar hyn o bryd a chynlluniau i gyflwyno gofyniad am Gynllun Corfforaethol y Comisiwn ar wahân ar gyfer yr Alban.
Diolchodd y Bwrdd i'r tîm am eu gwaith yn trefnu'r rhaglen ymgysylltu ar gyfer ymweliad y Bwrdd.
Diweddariad y Prif Weithredwr ac adroddiad cyllid a pherfformiad Ch4 2023/24 (CE 277/24)
Rhoddodd y Prif Weithredwr y newyddion diweddaraf i'r Bwrdd ar ymgysylltu allanol diweddar, heriau, a phrosiectau corfforaethol. Roedd cyfarfod â’r Cydbwyllgor ar y Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol wedi archwilio’r heriau diogelwch y mae gweithrediad ein systemau democrataidd yn eu hwynebu. Roedd trafodaethau gyda rheoleiddwyr eraill, yn y DU ac yn rhyngwladol, wedi ymdrin â ffugiau dwfn a delio â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth. Roedd y Comisiwn Etholiadol a'r Post Brenhinol wedi bod yn adolygu paratoadau ar gyfer Etholiad Cyffredinol.
Nodwyd y ddadl ynghylch ehangu'r mathau o ID ffotograffig a dderbynnir ar gyfer pleidleisio. Roedd gan y Llywodraeth gynlluniau i ychwanegu Cardiau Cyn-filwyr at y rhestr o ID derbyniol. Roedd y Comisiwn wedi bod yn pwyso am ehangu'r rhestr honno ymhellach er mwyn ehangu hygyrchedd.
Trafodwyd y porth electronig newydd ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy’r post a thrwy ddirprwy. Rhoddodd y dangosfyrddau perfformiad fewnwelediadau gwerthfawr: rhoddwyd ystyriaeth i’r fframwaith priodol ar gyfer defnyddio’r data hwnnw.
Nododd y Bwrdd adroddiadau corfforaethol gan gynnwys y canlynol:
- diweddariad ar y trefniant sy'n cael ei roi ar waith i rannu swyddfa Llundain gyda'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Loegr
- golwg ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, gan gynnwys Paneli Pleidiau Seneddol a chyfarfodydd rhyngwladol
- yr Adroddiad Perfformiad a Chyllid ar gyfer Chwarter 4 2023/24.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn nodi'r diweddariad ar weithrediadau a materion yn codi ac adroddiad cyllid a pherfformiad chwarterol Ch4 2023/24.
Adrodd ar etholiadau mis Mai (CE 278/24)
Derbyniodd y Bwrdd adroddiadau cychwynnol ar y modd y cynhaliwyd yr etholiadau ar 2 Mai gan y timau Polisi ac Ymchwil. Ar y cyfan, aeth yr etholiadau’n dda, gydag ychydig o broblemau lleol. Byddai dau adroddiad ar ôl y bleidlais: y cyntaf yn adroddiad byr wedi'i dargedu ym mis Gorffennaf, ac yna ail adroddiad llawn ym mis Medi. Trafododd y Bwrdd y themâu a ddaeth i'r amlwg o arsylwadau ac arolygon gan weinyddwyr etholiadol ac ymgyrchwyr. Byddai gwaith polisi yn parhau dros y misoedd nesaf a gwahoddwyd y Comisiynwyr i helpu i ddatblygu'r argymhellion yn yr adroddiad terfynol.
Rhannodd y tîm Ymchwil rywfaint o ddata cychwynnol o’r gorsafoedd pleidleisio. Nid oedd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i gofnodi data’n llawn ar gyflwyno ID pleidleisiwr ac ar gyfraddau y pleidleiswyr a gafodd eu gwrthod ac roedd y data’n llai cyflawn nag yn 2023. Byddai angen dadansoddi a dilysu pellach. Roedd yn ymddangos bod data cychwynnol yn dangos bod cyfradd y pleidleiswyr a wrthodwyd ac na ddychwelodd yn cyd-fynd yn fras â chanfyddiadau 2023. Anogodd y Bwrdd fwy o bwyslais ar fewnwelediadau ansoddol yn ogystal â defnyddio data meintiol.
Cafodd ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ar ID pleidleisiwr ei hailadrodd ar gyfer etholiadau mis Mai. Canfuwyd ei bod wedi bod yn anoddach o gymharu â 2023 i dorri drwodd i'r cyfryngau cenedlaethol.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd wedi nodi diweddariad ar etholiadau Mai 2024 a themâu sy'n dod i'r amlwg ar gyfer adrodd arnynt.
Proses paratoi cynllun corfforaethol (CE 279/24)
Bu'r Bwrdd yn trafod yr opsiynau ar gyfer cyfeiriad a lefel yr uchelgais yn y dyfodol i'w gosod yn y Cynllun Corfforaethol. Roedd y Cynllun Corfforaethol yn cael ei ddatblygu yn erbyn yr ansicrwydd ynghylch dyddiad Etholiad Cyffredinol y DU ac roedd y Bwrdd yn cydnabod bod angen cynnwys hyblygrwydd. Fel fframwaith ar gyfer trafodaeth, archwiliodd a chefnogodd y Bwrdd waith yn y meysydd canlynol:
- cwblhau cofrestriad etholiadol cywir
- pleidleisio diogel a hygyrch, gyda gwerthusiad llawn o ID pleidleisiwr
- cyllid gwleidyddol a gwariant ymgyrchu tryloyw y gellir ymddiried ynddynt
- system etholiadol effeithiol a chynaliadwy sy’n gadarn yn erbyn bygythiadau a risgiau cynyddol
- cyfraith etholiadol deg, effeithiol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gan barhau i gefnogi Comisiwn y Gyfraith mewn meysydd ar gyfer cydweithio wrth symud ymlaen
- defnydd o ddata a thechnoleg ar draws y system etholiadol, gan edrych ar sut y gallwn alluogi ac arwain ar newid digidol
- risgiau a bygythiadau i'r system etholiadol, gan gynnwys risgiau diogelwch ac effeithiau amgylcheddol
- annog diwygio ac arloesi ac arwain dadl ar ein system ddemocrataidd, adeiladu ein sylfaen ymchwil ansoddol, gan gynnwys drwy gynulliadau dinasyddion, cynyddu ein cefnogaeth i ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr
- cael gweledigaeth eang ac uchelgeisiol a gosod amcan eang, trawsbynciol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- parhau i adeiladu gallu corfforaethol y Comisiwn, gan fuddsoddi yn ein pobl a systemau i wneud hyn. gyda llywodraethu da.
O ran y cynulleidfaoedd lluosog y mae'n rhaid i'r cynllun corfforaethol eu cyrraedd, gofynnodd y Bwrdd am ddadansoddiad manylach o'r costau, risgiau, amserlenni a gwaith partneriaeth arfaethedig.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd wedi cefnogi'r rhagdybiaethau cynllunio arfaethedig ar gyfer y meysydd allweddol a lefel yr uchelgais ar gyfer cynllun corfforaethol nesaf y Comisiwn.
Materion llywodraethu
Datblygu’r Bwrdd – y wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau gwaith hyfforddi’r bwrdd: (Ar lafar)
Soniodd y Comisiynwyr am gynnydd parhaus pellach o ran datblygu’r bwrdd. Parhaodd y tri grŵp ffrwd gwaith i archwilio ffyrdd yr oedd Comisiynwyr unigol ac aelodau'r Bwrdd yn cydweithio â'r sefydliad. Roedd cynigion yn dod i'r amlwg i alluogi eglurder rôl y Comisiynydd; cyfarfodydd bwrdd symlach, blaengynllun gwell a mwy o gyfnewid gwybodaeth; a chydweithio integredig. Roedd cael arweinwyr yn dangos dilysrwydd, didwylledd, gwerthoedd moesegol a pharch, a chynnig her adeiladol wedi cael ei gefnogi fel ymagweddau cadarnhaol. Er mwyn galluogi Comisiynwyr newydd i ymuno â'r sefydliad yn ddidrafferth, bwriadwyd ailstrwythuro'r broses sefydlu. Y bwriad oedd dod â'r ffrydiau gwaith at ei gilydd erbyn mis Gorffennaf.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau gwaith hyfforddi tîm y bwrdd.
Adolygu’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Adnoddau drafft ar gyfer 2023/24 a’r broses arfaethedig (CE 280/24)
Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Adroddodd y Cadeirydd ar gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 10
Mai pan oedd yr aelodau wedi:
- bod yn fodlon bod yr holl gamau angenrheidiol wedi'u cymryd ar yr asesiad blynyddol o reoli risg gwybodaeth
- wedi derbyn adroddiad boddhaol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar y broses archwilio allanol hyd yma
- nodi tri adolygiad archwilio mewnol terfynol RSM ar drefniadau sefydliadol ar gyfer dysgu a datblygu; caffael a rheoli contractau. Roedd y rheolwyr wedi derbyn holl argymhellion RSM a byddent yn mynd i'r afael â hwy
- derbyn cynllun tair blynedd heriol gan BDO fel yr archwiliwr mewnol newydd
- nodi bod y Bwrdd Gweithredol Sicrwydd Portffolio (PAB) wedi dechrau cyfarfod ac wedi derbyn y dangosfwrdd Asesiad Hyder Cyflawni (DCA) a gynigiwyd.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd yr adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Adolygu’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Adnoddau drafft ar gyfer 2023/24
Roedd y Bwrdd a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi'u gwahodd i adolygu'r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Adnoddau drafft ar gyfer 2023/24 a rhannu adborth. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn ac yn dilyn y broses archwilio allanol, roedd y Bwrdd i fod i dderbyn y ddogfen arfaethedig derfynol yn ei gyfarfod ar ddydd Mawrth 25 Mehefin i'w chymeradwyo fel y gellid gosod y ddogfen derfynol yn y Seneddau ym mis Gorffennaf.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn nodi'r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon Adnoddau drafft ar gyfer 2023/24 a gwahoddiad i ymgysylltu drwy'r broses adolygu.
Cofnodion (CE 281/24)
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2024.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn: (CE 283/24)
Fel cam a gyflawnwyd, cafodd ymweliadau â’r Senedd ar gyfer staff a drefnwyd gan Stephen Gilbert eu gwerthfawrogi’n fawr. Roedd blaengynllun y Bwrdd ar gyfer 2024/25 yn cael ei adolygu.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn camau gweithredu yr oedd wedi gofyn amdanynt a chytuno ar derfyniadau arfaethedig.
Cofrestr diddordebau, rhoddion a lletygarwch (CE 284/24)
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn nodi adroddiad blynyddol y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol ar gyfer 2023/24 i'r Bwrdd, yn amodol ar ychwanegu'r cyfeiriad at y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd.
Sesiwn gudd y Bwrdd
(Comisiynwyr a’r Prif Weithredwr yn unig, 4.10 – 4.30pm)
Daeth y cyfarfod i ben am 4.05pm
Dyddiad cyfarfod nesaf y Bwrdd: Dydd Iau 25 Mehefin 2024, i’w gynnal ar-lein.