Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 23 Mai 2023
Date and location
Dydd Mawrth, 23 Mai 2023, 9.30am
Bunhill Row, Llundain, a thrwy gynhadledd fideo
Who was at the meeting
John Pullinger Cadeirydd
Rob Vincent
Alex Attwood
Sarah Chambers
Roseanna Cunningham
Chris Ruane
Katy Radford
Sue Bruce
Elan Closs Stephens
Stephen Gilbert
Yn y cyfarfod:
Shaun McNally Prif Weithredwr
Craig Westwood Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Ailsa Irvine Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a
Shaun McNally Prif Weithredwr
Craig Westwood Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Ailsa Irvine Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a
Chanllawiau
Louise Edwards Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol
Binnie Goh Cwnsler Cyffredinol
David Moran Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyllid
Sal Naseem Cynghorydd Annibynnol i Fwrdd y Comisiwn ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Matt Pledger Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Zena Khan Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Laura Douglas Pennaeth Cymorth Rheoleiddio [eitem 1]
Denise Bottom Rheolwr Cymorth Rheoleiddio [eitem 1]
Natalie Mauchline Uwch-gynghorydd Cymorth Rheoleiddio, Gwasanaeth Cynghori [eitem 1]
Harry Wells Cynghorydd Cymorth Rheoleiddio [eitem 1]
Bola Raji Pennaeth Dros Dro, Cynllunio a Pherfformiad [eitem 6]
Katy Knock Pennaeth Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydgysylltu [eitem 7]
Michela Palese Rheolwr Polisi [eitem 7]
Tom Hawthorn Pennaeth Polisi [eitem 7]
Chris Chie Cynghorydd Polisi [eitem 7]
Rachel Stephenson Cynghorydd Polisi [eitem 7]
Niki Nixon Pennaeth Cyfathrebu Allanol [eitem 7]
Orla Hennessy Rheolwr Cyfathrebu a Chyswllt â'r Cyfryngau [eitem 8]
Croeso ac ymddiheuriadau, a chyflwyniad i Wasanaeth Cynghori'r Tîm Cymorth Rheoleiddio
Croesawodd y Bwrdd aelodau o Wasanaeth Cynghori'r Tîm Cymorth Rheoleiddio a ddarparodd amlinelliad o'u gwaith. Roedd lefel y cyngor a'r cymorth a ddarperir, ynghyd â gwelliannau diweddar i gyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol newydd sy'n fwy heriol, wedi creu argraff ar y Bwrdd.
Diolchodd y Bwrdd i aelodau'r tîm am eu hamser a'r diweddariad.
Datganiadau o fuddiannau
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd nad oedd unrhyw ddiweddariadau i'r datganiadau o fuddiannau ers cyfarfod y Bwrdd ym mis Ebrill 2023.
Cofnodion (CE 196/23)
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd gytuno ar gofnodion cyfarfod y Bwrdd ar 25 Ebrill 2023.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn (CE 197/23)
Dywedodd y Bwrdd y dylai'r system olrhain camau gweithredu gynnwys mwy o fanylion am yr amrywiaeth o eitemau sydd ar agor.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn camau gweithredu.
Blaengynllun busnes y Bwrdd 2023/24 (CE 198/23)
Nododd y Bwrdd fod rhai o gyfarfodydd y Bwrdd wedi cael eu hymestyn i gynnwys trafodaethau gwrthrychol strategol.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi Blaengynllun busnes y Bwrdd ar gyfer 2023/24
Diweddariad y Prif Weithredwr (CE 199/23)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei ddiweddariad gan ddiolch i'r Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil, y Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau, y Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol a'u timau am eu gwaith mewn perthynas ag etholiadau mis Mai 2023.
Nododd y Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau fod gwaith yn mynd rhagddo o hyd i adolygu is-ddeddfwriaeth ddrafft yn amlinellu manylion y newidiadau dilynol sy'n deillio o Ddeddf Etholiadau 2022. Nododd y Bwrdd fod y newidiadau sydd i ddod yn gymhleth ac yn dechnegol, a bod gwaith yn mynd rhagddo i drosi'r manylion yn ganllawiau a phrosesau ymarferol. Nododd y Bwrdd mai prif bryderon y gymuned gweinyddu etholiadau yw nifer y newidiadau sydd i ddod a'r effaith a gânt ar eu capasiti, sydd eisoes yn brin.
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan y Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol a nododd fod ymateb wedi dod i law i'r llythyrau a anfonwyd at y Gweinidogion Diogelwch ac Etholiadau ynghylch mesurau diogelu ychwanegol ar gyfer y gyfundrefn rhoddion i bleidiau gwleidyddol, a'r Bil Diogelwch Cenedlaethol. Atebodd y Gweinidog Etholiadau nad oedd o'r farn bod angen y mesurau diogelu. Bydd y Comisiwn nawr yn ystyried sut i sefydlu consensws ehangach dros ddiwygio ymhlith rhanddeiliaid allweddol.
Nododd y Bwrdd yr Adroddiad Cyllid a Pherfformiad ar gyfer Chwarter Pedwar 2022/23.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r diweddariad ar weithrediadau a materion sy'n codi, gan gynnwys diweddariad ar weithredu Deddf Etholiadau 2022 ac Adroddiad Cyllid a Pherfformiad Chwarter Pedwar 2022/23.
Adrodd ar etholiadau mis Mai 2023 (CE 200/23)
Nododd y Bwrdd fyfyrdodau'r Comisiynwyr ar eu harsylwadau ar y diwrnod pleidleisio yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Darparodd y Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau, drosolwg o fyfyrdodau lefel uchel cychwynnol ar yr etholiadau, gan nodi er bod yr etholiadau wedi cael eu rhedeg yn dda, bod nifer o heriau gweinyddol wedi codi, a bod cydnerthedd a chapasiti o ran staff a chyflenwyr yn themâu cyffredin unwaith eto.
Nododd y Bwrdd y data cychwynnol a gyflwynwyd ar weithrediad y system ID pleidleiswyr yn ystod etholiadau mis Mai 2023 yn Lloegr, a fydd yn sail i'r dadansoddiad interim a gyhoeddir ym mis Mehefin. Cafwyd diweddariad hefyd ar gynlluniau ar gyfer yr adroddiadau interim a therfynol ar ôl yr etholiadau – ym mis Mehefin ac ym mis Medi, yn y drefn honno – yn ogystal â'r gweithgareddau cyfathrebu a fyddai'n cefnogi'r adroddiadau hyn.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r diweddariad ar etholiadau mis Mai 2023 a chytuno ar y drefn ar gyfer cyhoeddi dadansoddiad interim o ddata ar y system ID pleidleiswyr.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2022/23 (CE 201/23)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft 2022/23 a gofynnodd am sylwadau gan aelodau o'r Bwrdd. Nododd y Bwrdd mai'r dyddiad cau ar gyfer adborth a sylwadau oedd 2 Mehefin 2023, ac y byddai'r adroddiad terfynol yn dychwelyd i'w gymeradwyo yn ystod cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin 2023.
Nododd y Bwrdd y gallai datganiad cryno fod yn ddefnyddiol er mwyn helpu darllenwyr yr adroddiad i ddeall sut mae'r Comisiwn yn gweithredu fel corff yn y DU, o ystyried y gofynion adroddiad ffurfiol gwahanol sy'n gymwys i'r adroddiadau blynyddol eu hunain.
Nododd y Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyllid y bu'n rhaid oedi o leiaf bythefnos cyn cau'r cyfrifon blynyddol ar gyfer 2022/23, yn bennaf o ganlyniad i broblemau cysoni â'r system gyfrifyddu newydd. Nododd y Bwrdd fod y rhan fwyaf o'r problemau wedi cael eu datrys ond y bydd yr oedi yn effeithio ar yr archwiliad cenedlaethol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a bod risg na chaiff yr archwiliad ei gwblhau o fewn yr amser dynodedig.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd adolygu drafft cyntaf o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022/23 a nodi'r amserlen ar gyfer gwneud sylwadau.