Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 23 Mehefin 2021
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Mehefin 2021
Amser: 9:30am - 12:00pm
Lleoliad: Trwy gynhadledd fideo
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd : Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021
Yn bresennol
- John Pullinger, Cadeirydd
- Sue Bruce (Ar gyfer eitemau 3, 7, 8, 9 a 5)
- Rob Vincent (Ar gyfer eitemau 3, 7, 8 a 9)
- Alex Attwood
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Joan Walley
Yn mynychu :
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr, Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Binnie Goh, Cwnsler Cyffredinol
- Zena Khan, Uwch Gynghorydd, Llywodraethu
- Hannah Kavanagh, Swyddog Cyfreithiol (pob eitem)
- Alicia Diaz, Swyddog Cyfreithiol (pob eitem)
- David Bailey, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad Strategol (eitem 4)
- Tracey Blackman, Pennaeth Cyllid a Chaffael (eitem 5)
Ymddiheuriadau a chroeso
Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod gan gynghori y byddai eitemau busnes yn cael eu haildrefnu ychydig i fodloni argaeledd y Comisiynydd.
Nododd y Bwrdd bod OBE wedi’i wobrwyo i’r cyn Comisiynydd Anna Carragher yng Ngwobrau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i’r celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon. Llongyfarchodd y Bwrdd Anna ar ei gwobr.
Datganiadau o fuddiant
Datganodd y Comisiynydd Joan Walley benodiad newydd fel Cadeirydd Bwrdd Cyflawni GIG Gwyrddach GIG Canolbarth Lloegr o fis Mehefin 2021 ymlaen.
Nododd y Bwrdd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yng Nghofrestr Buddiannau’r Comisiynwyr a’i uwchlwytho i wefan allanol y Comisiwn yn unol â Chod Ymddygiad y Comisiynwyr.
Cofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd (CE 41/21)
Penderfynwyd: Bod cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 19 Mai 2021 i'w cymeradwyo.
Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27 (Cyflwyniad)
Derbyniodd y Bwrdd gyflwyniad ar strategaeth ariannol y Comisiwn yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Ebrill. Roed y cyflwyniad hefyd yn cynnwys ein tybiaethau cynllunio, blaenoriaethau gwaith a dewisiadau ar gyfer cyfnod y Cynllun Corfforaethol, sef 2022/23 i 2026/27.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol gyflwyniad ar y strategaeth ariannol ar gyfer 2022/23 – 2026/27 gan ganolbwyntio ar yr amgylchedd ariannol, cyllidebau craidd ac opsiynau.
Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad ar y blaenoriaethau gwaith gan ganolbwyntio ar dybiaethau a dewisiadau cynllunio strategol.
Trafododd y Bwrdd yr angen i ganolbwyntio ar y pethau rydym am eu cyflawni ac yna i feddwl am ddatblygiad hir dymor.
Trafododd a nododd y Bwrdd ein bod yn uchelgeisiol yn ein gwaith craidd a’n gwaith o ran digwyddiadau, gan bwysleisio materion sy’n edrych ymlaen sy’n gysylltiedig â diwygiadau i’r gyfraith etholiadol, a nodi effaith y cymhlethdod a’r ymwahaniadau cynyddol yn y gyfraith etholiadol ar draws wledydd y DU. Roedd hyn yn pwysleisio gwneud y defnydd gorau o’n cyllidebau wrth sicrhau cywirdeb a gwariant rhesymol.
Penderfynwyd: Trafododd, nododd a chytunodd y Bwrdd ar y strategaeth ariannol a’r blaenoriaethau gwaith perthnasol ar gyfer 2022/23 – 2026/27
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 (CE 42/21)
Derbyniodd y Bwrdd drafft terfynol o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 y Comisiwn yn dilyn mewnbwn a roddwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai ynghylch cynnwys yr arolwg o berfformiad.
Nododd y Bwrdd bod y Pwyllgor Archwilio a Risgiau wedi adolygu’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2020/21, gan gynnwys y datganiad llywodraethiant yn y cyfarfod ar 22 Mehefin, a bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risgiau wedi argymell i’r Bwrdd:
1. ei fod wedi mabwysiadu’r cyfrifon, a
2. cymeradwyodd y swyddog cyfrifyddu’r datganiad llywodraethiant a llofnododd y cyfrifon fel sy’n briodol
Penderfynwyd: Cytunodd a mabwysiadodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2020/21, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth terfynol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, i gael eu llofnodi gan y Swyddog Cyfrifyddu a’u cyflwyno i’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i’w hardystio.
Mater llywodraethu (CE 43/21)
Cafodd y Bwrdd adroddiad oedd yn argymell bod y e-fusnes yn cael ei ddileu o Flaen-gynllun Busnes y Bwrdd heblaw am faterion eithriadol, na ddylid mynd ymlaen gyda phorth y bwrdd CMIS, cyflwyno gliniaduron i Gomisiynwyr a lle bo hynny’n bosibl, dychwelyd i gyfarfodydd personol neu gyfarfodydd sy’n rhannol bersonol.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd i roi’r gorau i gael cyfarfodydd e-fusnes ar gyfer materion arferol y Bwrdd a’u cadw ar gyfer materion eithriadol
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd na fydd platfform ar-lein CMIS yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd bod gliniaduron y Comisiwn i gael eu rhoi i’r Comisiynwyr hynny fyddai eu heisiau
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y byddai’n dychwelyd i gyfarfodydd personol neu gyfarfodydd sy’n rhannol berson, o bosib ym mis Medi 2021, pan fydd y Llywodraeth wedi ymlacio’r rheolau ar bellter cymdeithasol yn y gweithle
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risgiau (Ar Lafar)
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar lafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risgiau ynghylch eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021, yn diolch i’w chyd-Gomisiynydd Elan Closs Stephens am gadeirio’r cyfarfod yn ei habsenoldeb anosgoadwy.
Nododd y Bwrdd bod y Pwyllgor wedi cael yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2020/21 ac wedi’u hystyried i fod yn gyfres gref o gyfrifon, ynghyd â’r amserlen o argymhellion archwilio sydd wedi mynd yn bell gyda gweithrediadau cau.
Nododd y Bwrdd hefyd bod y Pennaeth Prosiectau wedi diweddaru’r Pwyllgor ar argymhellion dilynol arolwg o effeithiolrwydd y Pwyllgor, a diolchodd i’r Pennaeth Prosiectau a’r staff am y gwaith sylweddol sydd wedi’i gyflawni hyd yma.
Nododd y Bwrdd bod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (SAG) wedi rhoi adroddiad positif ac wedi llongyfarch y Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol a’r tîm am eu gwaith
Cynghorwyd y Bwrdd y byddai argymhelliad ar destun ymchwilio i hyfforddiant a datblygiad Comisiynwyr yn cael ei gynnwys yn Blaen-gynllun Busnes y Pwyllgor ac yn ffurfio rhan o’r trafodaethau yng nghyfarfod mis Hydref y Bwrdd ynghylch sut y gallai’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau wasanaethu’r Bwrdd orau.
Gweithred: I gynnwys ym Mlaen-gynllun Busnes y Bwrdd
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad ar lafar.
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Risgiau i Fwrdd y Comisiwn (CE 45/21)
Cafodd y Bwrdd adroddiad oedd yn crynhoi gwaith y Pwyllgor Archwilio a Risgiau yn ystod y flwyddyn ariannol, gan roi sicrwydd i Fwrdd y Comisiwn wrth gefnogi datganiad llywodraethiant 2020/21 a baratowyd gan y Swyddog Cyfrifyddu.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd gwaith y Pwyllgor Archwilio a Risgiau dros y 12 mis diwethaf.
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol i Fwrdd y Comisiwn (CE 45/21)
Cafodd y Bwrdd adroddiad oedd yn crynhoi gwaith y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol yn ystod y flwyddyn ariannol, gan roi sicrwydd i Fwrdd y Comisiwn wrth gefnogi datganiad llywodraethiant 2020/21 a baratowyd gan y Swyddog Cyfrifyddu.
Trafododd y Bwrdd drafodaethau sy’n mynd ymlaen ynghylch amrywiaeth ar y Bwrdd, a hoffai gael trafodaeth ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn cyfarfod yn 2021.
Gweithred: I gynnwys testun i’w drafod ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar y Bwrdd ym Mlaen-gynllun Busnes y Bwrdd.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd gwaith y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol dros y 12 mis diwethaf.
Diweddariad y Prif Weithredwr (CE 46/21)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan roi diweddariadau i’r Bwrdd ynghylch gweithrediadau a materion sy’n codi.
Nododd y Comisiynwyr bod adroddiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (CSPL) fod i gael ei gyhoeddi ar Orffennaf 7, gydag argymhellion ar agweddau o reoleiddio’r gyfraith o ran cyllid gwleidyddol.
Nododd y Bwrdd bod Gweinidog y Cyfansoddiad wedi ysgrifennu at y Comisiynwyr i gyd ynghylch agweddau o Fil Etholiadau Llywodraeth y DU sy’n cael effaith ar rôl a throsolwg y Comisiwn. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r Cadeirydd yn ymateb yn ysgrifenedig i’r Gweinidog ar ran y Comisiwn, gan groesawu craffu seneddol ond hefyd crynhoi’r prif ofidion sy’n gysylltiedig ag annibyniaeth angenrheidiol y Comisiwn o’r rheolau gweithredol gan y llywodraeth.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariadau, gwnaethant ddiolch i’r staff am eu gwaith a chroesawu trafodaeth bellach ar y Bil Uniondeb Etholiadol yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.
Traciwr gweithredu Bwrdd y Comisiwn (CE 47/21)
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn camau a ofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd.
Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd (CE 48/21)
Penderfynwyd: Adolygodd a nododd y Bwrdd Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd gan drefnu pynciau pellach ar gyfer y cyfarfodydd nesaf.