Cofnodion Bwrdd y Comisiwn 25 Chwefror 2025
Dyddiad: Dydd Mawrth 25 Chwefror 2025, 9.30am
Lleoliad: Bunhill Row a thrwy gynhadledd fideo
John Pullinger, Cadeirydd
Sue Bruce
Sarah Chambers
Roseanna Cunningham
Stephen Gilbert
Carole Mills
Katy Radford
Sheila Ritchie
Chris Ruane
Elan Closs Stephens
In attendance:
Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr
Binnie Goh, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Diwygio a Chwnsler Cyffredinol
Tom Hawthorn, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil Dros Dro
Jackie Killeen [absennol ar gyfer eitem 6], Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol
Niki Nixon, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Dros Dro
Chris Pleass, Cyfarwyddwr Corfforaethol
Elizabeth Youard, Pennaeth Llywodraethu
Tim Crowley [eitem 5 yn unig], Head of Digital Communications and Voter Engagement
James Lewis [eitem 5 yn unig], Interim FP&A Accountant
Michela Palese ag aelodau tîm [eitem 2 gyda’r tîm, eitemau 3 a 6], Pennaeth Polisi ag aelodau’r Tîm Polisi
Bola Raji [eitem 5 yn unig], Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad Dros Dro
Andrew Simpson [eitem 3 yn unig], Pennaeth Data Digidol, Technoleg a Chyfleusterau
Prisca Sinihelm [eitem 5 yn unig], Pennaeth Cynllunio Ariannol a Dadansoddi
Carol Sweetenham [eitem 5 yn unig], Pennaeth Prosiectau
Arsylwyr:
Antonia Merrick, Rheolwr Busnes i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Trosolwg o waith y Tîm Polisi (CE 320/25)
Nododd aelodau’r Tîm Polisi bod cyfraniad y Tîm drwy gynnig swyddogaeth bolisi cryf yn hanfodol i’r Comisiwn Etholiadol. Mae’r Tîm Polisi yn cefnogi’r Comisiwn i ragweld heriau, siapio’r ddadl a sicrhau bod y sefydliad yn rhagweithiol wrth ymateb i newidiadau yn y dirwedd etholiadol.
Mae gwaith polisi yn rhoi sail i’r Comisiwn wneud argymhellion gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac eiriol dros welliannau sy’n cryfhau democratiaeth. Pwrpas y swyddogaeth polisi yw sicrhau bod llais annibynnol y Comisiwn yn cael ei hystyried wrth ddatblygu polisïau.
Mae camau yn eu lle i sicrhau fod buddiannau’r gymdeithas etholiadol gyfan yn cael eu hystyried uwchlaw rhanddeiliaid penodol. Ein dull yw gweithredu’n adweithiol wrth ymateb i lywodraethau, seneddwyr, y cyfryngau neu sefydliadau allanol; a gweithredu’n rhagweithiol er mwyn dwyn ynghyd gwaith ymchwil ac arbenigedd y tîm i siapio’r ddadl a chynnig datrysiadau.
Mae’r tîm polisi yn gweithio gyda thimau ledled y Comisiwn a swyddogion y llywodraeth, partneriaid allanol a sefydliadau meis academyddion ac elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil. Mae’r tîm yn ymfalchïo mewn cynnig safbwynt cyfannol. Rhoddwyd enghreifftiau o senarios a gweithgareddau a gynhaliwyd yn y cyflwyniad.
Canmolwyd y tîm gan y Comisiynwyr am eu cynnydd cadarnhaol. Mewn trafodaeth, nodwyd y pwyntiau canlynol i'w hystyried ymhellach:
- roedd yr angen am ddigon o adnoddau i gwmpasu achosion gwahanol wedi’i gynnig ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2025/30. Roedd gan y Comisiynydd dros Ogledd Iwerddon ddiddordeb mewn gweithgareddau yn ymwneud â menywod a merched yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft;
- gallai meddwl yn strategol am effaith cyfryngau cymdeithasol fod yn gynhyrchiol, gan ddysgu gan reoleiddwyr eraill fel Ofcom yn ogystal â systemau etholiadol rhyngwladol;
- ehangu gwaith polisi i wella addysg ar lenyddiaeth wleidyddol; a
- bod cyngor a chymorth ar gael i Gomisiynwyr.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd trosolwg o waith y Tîm Polisi a’r blaenoriaethau sy’n cael eu rhoi yn eu lle a’r cymorth a gynigiwyd.
Diweddariad y Prif Weithredwr (CE 321/25)
Roedd ymgysylltu cadarnhaol ar y Cynllun Corfforaethol 2025/30 arfaethedig ymysg aelodau o Bwyllgor Llefarydd Senedd y DU, Corff Corfforaethol Senedd yr Alban ac aelodau o Bwyllgor y Llywydd.
Roedd tystiolaeth wedi'i pharatoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth lafar i Gynhadledd y Llefarydd ar gamdriniaeth a bygythiadau a fydd ar 26 Chwefror.
Roedd cyfarfod briffio gyda Chomisiynwyr ar ganfyddiadau’r arolwg olrhain barn y cyhoedd blynyddol yn cael ei sefydlu, gyda dadansoddiad o dueddiadau yn cael ei ddarparu. Roedd canfyddiadau a data i gael ei baratoi ar gyfer seneddwyr.
Trafodwyd y papur datganoli Saesneg a datblygiad polisi yn y maes hwn sy’n esblygu. Roedd y Comisiwn yn ymwybodol o’r amserlen y byddai ei hangen i fodloni gofynion is-ddeddfwriaeth gymhleth ac roedd yn monitro’r darlun oedd yn datblygu. Roedd yn ymwybodol o’r canllaw a’r cymorth a fyddai ei hangen ar gyfer yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn sgil y newid. Pe bai’r sefyllfa’n codi, dylid trafod unrhyw gostau ar gyfer hysbysebion ymgyrchoedd wedi'u canslo gyda’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth leol . Anogodd y Comisiynwyr i adolygu unrhyw feysydd dadleuol ac ystyried effaith datblygiadau ar bleidiau llai a allai gael eu herio i wrthsefyll cost y newidiadau.
Roedd cofnodion gwariant Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn cael eu cyhoeddi mewn cyfrannau ac roeddent ar amser o ganlyniad i gydymdrechion enfawr ar ymarferion cynhyrchu gan dimau o fewn y Comisiwn. Diolchodd y bwrdd y timau oedd yn rhan o’r gwaith.
Roedd y Tîm Gweithredol wedi cynnal diwrnod strategaeth yn asesu datblygiad sefydliadol i greu proses sy'n addas ar gyfer canlyniadau cyflawni'r Cynllun Corfforaethol hyd at 2027 o fewn amgylchedd macro y dyfodol.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr adroddiad perfformiad a chyllid trydydd chwarter. Roedd y Comisiwn yn rhagweld tanwariant sylweddol i ddiwedd 2024/25. Un o brif achosion hyn oedd y tanwariant o £1m o ganlyniad i oedi yn y broses recriwtio. Ni fydd y Comisiwn yn defnyddio’r £3m o arian wrth gefn a bydd yn lleihau’r arian wrth gefn hwn ar gyfer 2025/26. Byddai trafodaethau ar danwariant 2024/25 yn cael eu gwneud yn glir.
Roedd y Comisiwn am ganolbwyntio ar ei brosiect twf, rheoli perfformiad a risg, a chynllunio prosiectau wedi’u halinio ar gyfer 2025/26. Roedd lefel sylweddol o recriwtio mewnol wedi bod gan greu swyddi gwag. Dylai datblygiad a dyrchafiadau staff cael eu hadnabod. Ar yr un pryd, byddai'r prosiect twf yn arwain at ddatblygiad sefydliadol i ddefnyddio setiau sgiliau'n hyblyg, gyda mentrau recriwtio cydlynol. Byddai’r strategaeth recriwtio hwn yn canolbwyntio ar apêl allanol y sefydliad. Byddai’r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol yn ymchwilio’r maes hwn.
Roedd cynnydd mewnol cadarnhaol yn parhau o ran cyflwyno fframwaith tâl newydd i staff, cyflwyno uwchraddiadau TG a chreu amgylcheddau gwaith deniadol.
Cam gweithredu: Roedd y Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil i greu sesiwn ar-lein gyda’r Bwrdd i drafod canfyddiadau’r arolwg olrhain barn y cyhoedd blynyddol a darparu dadansoddiad o dueddiadau.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd diweddariad y Prif Weithredwr.
Arolwg Pobl (CE 322/25)
Roedd canlyniadau cadarnhaol yn Arolwg Pobl 2024 ac roedd sgôr ymgysylltu cyffredinol uwch. Roedd rhagor o waith i’w wneud i sicrhau bod staff yn ymwybodol o sut i adrodd ar achosion o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu ac i sicrhau bod cyfathrebu da ar yr agenda twf.
Cafodd y Tîm Gweithredol eu hannog i ystyried sut y gellid datblygu codi llais i nodi sefydliad aeddfed sy’n gwrando. Roedd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi trafod y fframwaith cyfreithiol a oedd yn cyfyngu’r polisi chwythu'r chwiban. Roedd y Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol yn bwrw ymlaen â deialog ar godi llais a chodi pryderon.
Anogodd y Comisiynwyr rhagor o ystyriaethau; pwysleisiwyd gwerth hyfforddiant i gynorthwyo’r broses o gyflwyno'r fframwaith tâl newydd; a mynegwyd pwysigrwydd galluogi'r tîm cyfan i weld eu cyfranogiad o ran rhoi’r Cynllun Corfforaethol newydd ar waith.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad Arolwg Pobl â’r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol i edrych ar gynlluniau codi llais.
Datganiad Strategaeth a Pholisi (CE 325/25)
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd bod llythyr y Cadeirydd i Lefarydd Senedd y DU a oedd wedi’i baratoi i adrodd ar weithgarwch a gyflawnwyd gan y Comisiwn yn ystod y 12 mis diwethaf, yn dilyn dynodiad y Datganiad Strategaeth a Pholisi (SPS) gan Lywodraeth y DU ym mis Chwefror 2024.
Cynllun Corfforaethol 2025/30 a Phrif Amcangyfrif 2025/26 Senedd y DU: Cymeradwyaeth terfynol (CE 323/25)
Ar ôl ymwneud â’r ymgynghoriad helaeth ar baratoi'r Cynllun Corfforaethol 2025/30 gan gynnwys y weledigaeth, y gwerthoedd a'r dangosyddion perfformiad allweddol cyn y cyfarfod, roedd y Comisiynwyr yn fodlon y gallai'r Bwrdd symud ymlaen i'r broses o'i gymeradwyo'n derfynol. Roedd llythyr cyflwyno ar gyfer Llefarydd y Pwyllgor yn gosod cymeradwyaethau a geisiwyd gan Bwyllgor y Llefarydd yn y cyfarfod sydd ar y gweill ar 19 o fis Mawrth.
O ran Prif Amcangyfrif 2025/26 a’r Memorandwm Esboniadol a adolygwyd gan y bwrdd, roedd y tair senedd wedi derbyn ac wedi bod yn ymwneud â’r gwaith cynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Roedd tîm ariannu’r Trysorlys wedi gweld y niferoedd ac nid oeddent wedi rhannu unrhyw sylwadau.
Roedd y Bwrdd wedi gwerthuso’r cynlluniau gweithredu a'r strwythurau cyflawni ar gyfer y cynllun uchelgeisiol a blaengar hwn. Y nod oedd ymbaratoi’r sefydliad i ddechrau ar y gwaith unwaith y derbynnir ymateb gan Bwyllgor y Llefarydd.
Roedd strwythur dylunio’r ddarpariaeth yn rhagweld yr angen am ddau bortffolio: un ar gyfer prosiectau diwygio etholiadol ac un ar gyfer prosiectau’r Cynllun Corfforaethol. Wrth i gynigion ar gyfer y Bil Diwygio Etholiadol grisialu, daeth yn amlwg y byddai gorgyffwrdd sylweddol yn y gwaith. Y bwriad oedd gweld strwythur y ddau brosiect portffolio i ryngweithio law yn llaw a’i gilydd yn effeithiol.
Byddai’r Bwrdd yn chwilio am y canlynol:
- trosolwg clir o’r prosiect gan Uwch Swyddogion Cyfrifol sydd â'r sgiliau a'r amser cywir i'w neilltuo i oruchwylio'r prosiectau hanfodol; a
- rheoli effeithiol o gynlluniau twf y Comisiwn.
Anogodd y Comisiynwyr i ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd y Bwrdd i gynorthwyo’r gwaith.
Roedd y Comisiynwyr yn galw am ragor o ystyriaethau ar gymhlethdodau sy’n deillio o Ddeallusrwydd Artiffisial o fewn y sefydliad ac o fewn democratiaeth.
Diolchodd y Bwrdd y Tîm o arweinwyr a oedd wedi paratoi’r cynlluniau.
Penderfynwyd
- Roedd y Bwrdd wedi cymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol 2025/30 Terfynol a dogfennau ategol; ac wedi cymeradwyo’r Prif Amcangyfrif 2025/26 i Senedd y DU.
Byddai’r dogfennau dan sylw yn cael eu cyflwyno gerbron Llefarydd Senedd y DU gyda Chorff Corfforaethol Senedd yr Alban a’r Senedd er gwybodaeth.
Diweddariad ar yr agenda datblygu polisi (CE 324/25)
Adlewyrchodd y bwrdd ar y cynnwys yn agenda Llywodraeth y DU o bwysigrwydd uniongyrchol a sylfaenol i'r Comisiwn a'i rôl a allai effeithio'n sylweddol ar randdeiliaid, gwaith a swyddogaethau'r Comisiwn. Roedd sawl maes yn cael eu hymchwilio drwy ymgysylltu cadarnhaol ymysg swyddogion y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth leol (MHCLG).
Amlygodd trafodaeth y gellid hogi’r achos dros gyfuno, moderneiddio a symleiddio’r gyfraith etholiadol. Byddai optimeiddio dealltwriaeth i wella proffil, pwysigrwydd ac atyniad y maes hwn o fudd ar gyfer datblygu polisi.
Trafododd y Bwrdd y sefyllfa polisi er mwyn gwella mynediad i bleidleiswyr dramor. Roedd y maes polisi hwn yn gymhleth a dylid parhau i'w archwilio, gan bwysleisio ar hyrwyddo'r defnydd o bleidleisiau dirprwyol i amlygu eu cyfraniad. Dylid cofio am y gorchymyn polisi i bleidleiswyr Gogledd Iwerddon.
Amlygodd y drafodaeth, ar y cyfan, cefnogaeth y Bwrdd i symud tuag at ragor o gofrestru pleidleiswyr awtomatig (AVR) fel maes polisi blaenoriaeth uchel i'r Comisiwn ganolbwyntio arno.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd a rhoddwyd barn ar yr adroddiad agenda datblygu polisi.
Cyfarfodydd y Pwyllgor ers Ionawr 2025 (CE 326/25)
Nododd y Bwrdd yr adroddiad ysgrifenedig ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2025.
Cyfarfodydd pwyllgor y bwrdd i ddilyn byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant terfynol i’w gynnal ar 11 Mawrth a’r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol i’w gynnal ar 20 Mawrth.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd yr adroddiad o gyfarfod mwyaf diweddar Y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Materion gweithdrefnol a llywodraethU (CE 327/24)
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2025.
Nodwyd statws y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd i ddod a cham weithredu o fis Chwefror 2024 ynghylch canlyniadau a dangosyddion i ben gan fod hyn bellach wedi’i ddatrys yn natblygiad y Cynllun Corfforaethol dangosyddion perfformiad allweddol.
Fel mater a godwyd o 26 Tachwedd, roedd cynnydd wedi'i wneud ar ddiweddaru arolwg sgiliau a gwybodaeth y Bwrdd. Byddai cyfnod cyflwyno ffurflenni cofnod wariant yn dod i ben 28 Chwefror ac ar ôl y dyddiad hwnnw byddai'r canfyddiadau'n cael eu rhannu a'u dilyn er mwyn eu defnyddio'n weithredol.
Fel mater a godwyd o 14 Ionawr ac adborth gan Gomisiynwyr i fframio naratif yr adroddiad blynyddol, byddai rhan gyntaf yr adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ar 12 Mai.
Nododd y Bwrdd flaengynllun o’r gwaith. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod Bwrdd oddi cartref ar 12 Mai i'w gynnal yn Nottingham ynghyd â digwyddiad i gwrdd â phartneriaid yng Nghanolbarth Lloegr.
Byddai cofrestru datganiadau a diweddariadau aelodau'r Bwrdd yn dilyn o fis Mawrth ymlaen i sicrhau bod cofnodion yn gyfredol ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn nodi’r adroddiad materion gweithdrefnol a llywodraethu.
Nodyn gwerthfawrogiad
Diolchodd y Bwrdd Elizabeth Youard am ei hymroddiad di-ben draw at waith y Bwrdd ac am ei gwaith fel Pennaeth Llywodraethu’r Comisiwn rhwng mis Mawrth 2024 - Mawrth 2025.
Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf
Dydd Llun 12 Mawrth 2025 o 2.00pm, Llyfrgell Dinas Nottingham.