Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 19 Ionawr 2022
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 19 Ionawr 2022
Amser: 9:30am -12:50pm
Lleoliad: Drwy gyfrwng fideo-gynadledda
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Bwrdd y Comisiwn, Dydd Mercher 23 Chwefror 2022
Yn bresennol
- John Pullinger, Cadeirydd
- Rob Vincent
- Sue Bruce
- Alex Attwood
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Joan Walley
- Katy Radford
Yn y cyfarfod:
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Binnie Goh, Cwnsler Cyffredinol
- Zena Khan, Ysgrifennydd y Bwrdd (Uwch-gynghorydd Llywodraethu)
- Lilly Malik,Swyddog Cyfreithiol (pob eitem)
- Tom Hawthorn, Pennaeth, Polisi (eitem 7)
- Niki Nixon, Head, Pennaeth, Cyfathrebu Mewnol (eitem 7)
- Dan Adamson, Pennaeth, Monitro a Gorfodi (eitem 9)
- Majella La Praik, Pennaeth, Cofrestru ac Adrodd (eitem 9)
- Laura Mcleod, Pennaeth, Cymorth Rheoleiddio (eitem 9)
- Jamie Weisz, Rheolwr Cofrestru (arsylwi, eitem 9)
Ymddiheuriadau a chroeso
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, a nododd bod yr amseroedd sydd wedi'u nodi gyferbyn ag eitemau'r agenda wedi newid ychydig, er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer trafodaeth strategol sy'n mynd at wraidd y mater tuag at ddiwedd y cyfarfod.
Datganiadau o fuddiant
Nad oedd y Bwrdd wedi nodi unrhyw ddatganiadau newydd a dderbyniwyd.
Cofnodion cyfarfod(ydd) blaenorol y Bwrdd (EC 80/22)
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod cyffredinol Bwrdd y Comisiwn ar 1 Rhagfyr 2021.
Penderfynwyd: Y dylid nodi cofnodion cyfarfod Eithriadol o Fwrdd y Comisiwn a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn (EC 81/22)
Nododd y Bwrdd ddiweddariad gan y Cwnsler Cyffredinol ar y datblygiad o ran penodi cynghorydd annibynnol i'r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a chynhaliwyd trafodaethau â'r Comisiynwyr Cysylltiedig ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Trafododd y Bwrdd y broses o olrhain materion na fyddai'n cael eu cynnwys yn rheolaidd yn y system dracio camau gweithredu misol megis, recriwtio cynghorydd annibynnol i'r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, seilwaith TG a chynllunio ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir oddi ar y safle.
Nodwyd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried sut i ddiweddaru'r Bwrdd ar faterion o'r fath.
Cam Gweithredu: Y Cwnsler Cyffredinol i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yr eitemau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn rheolaidd o fewn system dracio camau gweithredu misol y Bwrdd.
Perchennog y cam gweithredu: Cwnsler Cyffredinol
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi hynt y camau gweithredu y mae'r Bwrdd wedi gofyn amdanynt.
Blaengynlluniau o Fusnes y Bwrdd 2021/22 a 2022/23 (EC 82/22)
Nododd y Bwrdd bod adroddiad gan y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol wedi ei amserlennu ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror ond, os na fyddai ar gael, caiff ei drefnu ar gyfer y cyfarfod ym mis Ebrill.
Nododd y Bwrdd mai cyfarfod mis Chwefror fyddai cyfarfod Bwrdd olaf Bob Posner fel Prif Weithredwr.
Nododd y Bwrdd bod trafodaethau ar y gweill ynghylch trefniadau cyfarfod Bwrdd y Comisiwn a fydd yn cael ei gynnal yng Ngogledd Iwerddon.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd adolygu a nodi'r Blaengynllun o fusnes y Bwrdd ar gyfer 2021/22 a 2022/23.
Prif amcangyfrif 2022/23 a chyllidebau'r cynllun corfforaethol (EC 83/22)
Dywedodd y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y byddai angen ystyried nifer o bwysau ariannol wrth osod y gyllideb, cyn bod y Prif Amcangyfrif yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Llefarydd cyn cyfarfod Bwrdd mis Chwefror.
Trafododd y Bwrdd wybodaeth yn ymwneud â'r adnoddau staff ychwanegol ar gyfer y Comisiwn a oedd yn bennaf yn ymwneud â'r Bil Etholiadau.
Trafododd y Bwrdd hefyd faterion yn ymwneud â gwaith parhaus y llwyfan Cyllid Gwleidyddol newydd ar-lein.
Nodwyd y dylid trefnu adolygiad o'n seilwaith TG i'w gynnal ochr yn ochr ag oes y Cynllun Corfforaethol fel bod modd inni adnabod unrhyw bwysau wrth fynd ymlaen, wrth inni ddechrau dibynnu'n drwm ar ein TG ar gyfer busnes o ddydd i ddydd.
Nododd y Bwrdd bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Gweithredol, er mwyn cynnig sicrwydd i'r Bwrdd ar y gwaith parhaus o archwilio caffael gwasanaethau TG.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo'r gwaith o gwblhau cyllidebau CP2, gan gynnwys 2022/23, i'r Swyddog Cyfrifyddu drwy ymgynghori â'r Cadeirydd, a lle yr oedd yn briodol, â Chadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol (yn amodol ar gyfanswm y newidiadau i bob llinell gyllideb).
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd wedi cytuno i gwblhau'r Amcangyfrif, yn unol â'r gyllideb a osodwyd ac a ddirprwywyd i'r Swyddog Cyfrifyddu.
Blaenoriaethau polisi'r Comisiwn (EC 84/22)
Hysbysodd y Cadeirydd, o ganlyniad i bwysau amser ar yr agenda, y caiff yr eitem hon ei gohirio i'r cyfarfod nesaf.
Cam gweithredu: Cynnwys ar agenda cyfarfod Bwrdd mis Chwefror.
Perchennog y cam gweithredu: Ysgrifennydd y Bwrdd
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 85/22)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gweithredoedd a'r materion a godwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd.
Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar y Bil Etholiadau a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr, Rheoleiddio ynghyd â dull gweithredu strategol i helpu ein gwaith addysg dinasyddiaeth yn y dyfodol a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil.
Trafododd y Bwrdd Ddatganiad Polisi a Strategaeth y Bil Etholiadau, a bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal cyn sesiwn briffio'r Arglwyddi.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r adroddiad ynghyd â diweddariadau pellach.
Trafodaeth Strategol at Wraidd y Mater: ymagwedd at gyllid gwleidyddol (EC 86/22)
Rhoddwyd cyflwyniad i'r Bwrdd ar Reoleiddio gan y Cyfarwyddwr, Rheoleiddio ar y cyd â'r Pennaeth Monitro a Gorfodi, y Pennaeth Cofrestru ac Adrodd, y Pennaeth Rheoleiddio a'r Rheolwr Cofrestru.
Trafododd y cyflwyniad y meysydd canlynol:
• Dull gweithredu strategol, cyfyngiadau a dewisiadau
• Ein lle o fewn yr amgylchedd rheoleiddio
• Gwireddu deilliannau wrth ymarfer
• Ble rydym yn mynd o'r fan hyn?
Trafododd y Bwrdd sut y caiff adnoddau eu dyrannu er mwyn gwireddu'r dull gweithredu strategol ar gyfer gwaith rheoleiddio. Trafododd y Bwrdd hefyd y ffordd y mae'r gyfundrefn cyllid gwleidyddol wedi ei selio ar y pleidiau gwleidyddol yn hunanadrodd ar roddion datganedig a gwariant, ynghyd â phwysigrwydd tryloywder craffu ar hyn.
Diolchodd y Bwrdd i'r Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a'r tîm am eu gwaith, gan ganolbwyntio ar ddiwydrwydd parhaus, a gwaith agored a thryloyw.