Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 21 Gorffennaf 2021, 9:30am
Amser: 9:30am-12:45pm
Lleoliad: Trwy gynhadledd fideo
Dyddiad y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu: Dydd Mercher 22 Medi 2021
Yn bresennol
- John Pullinger, Cadeirydd
- Rob Vincent
- Alex Attwood
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Joan Walley
Yn mynychu:
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr, Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Binnie Goh, Cwnsler Cyffredinol
- Zena Khan, Uwch Gynghorydd, Llywodraethu
- Hannah Kavanagh, Swyddog Cyfreithiol (pob eitem)
- Alicia Diaz, Swyddog Cyfreithiol a Llywodraethu (pob eitem)
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil (Eitemau 4 a 7)
- Rhydian Thomas, Pennaeth, Comisiwn Etholiadol, Cymru (eitem 4)
- Sarah Mackie, Rheolwr, Comisiwn Etholiadol, Yr Alban (eitem 4)
- Katy Knock, Rheolwr Polisi (eitemau 4, 6 a 7)
- Tom Hawthorn, Pennaeth, Polisi (Eitemau 5, 7 ac eitem CSPL)
- David Bailey, Pennaeth, Cynllunio a Pherfformiad Strategol (eitem 5)
- Niki Nixon, Pennaeth, Cyfathrebu Allanol (eitemau 6 a 7)
- Laura Mcleod, Rheolwr Materion Cyhoeddus (eitem 6)
- Mark Williams, Rheolwr Polisi (eitem 6)
- Kate Engles, Rheolwr Polisi (eitemau 6 ac eitem CSPL)
- Orla Hennessey, Rheolwr Cysylltiadau â'r Cyfryngau a Gwybodaeth Gyhoeddus (eitem 7)
- Andreea Ghita, Uwch Swyddog Cyfathrebu (eitem 7)
- Susan Crown, Pennaeth, Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol (eitem 8)
- Dan Adamson, Pennaeth, Monitro a Gorfodi (eitem CSPL)
Ymddiheuriadau a chroeso
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Comisiynydd Sue Bruce.
Nododd y Bwrdd bod penodiad y Comisiynydd Sarah Chambers i Fwrdd y Comisiwn am ail gyfnod sy’n dod i ben yn 2026, wedi’i gadarnhau.
Nododd y Bwrdd hefyd bod penodiad Comisiynydd newydd Gogledd Iwerddon, Katy Radford, wedi’i gymeradwyo gan Dŷ’r Cyffredin erbyn hyn. Yn amodol ar y Gwarant Frenhinol yn cael ei derbyn yn amserol, bydd hi’n dechrau gyda’r Comisiwn ar 1 Medi 2021.
Datganiadau o fuddiant
Datganodd y Comisiynydd Joan Walley bod ei chyfnod swydd fel Cadeirydd Grŵp Aldersgate yn dod i ben ar 19 Gorffennaf 2021.
Nododd y Bwrdd y byddai Cofrestr Buddiannau’r Comisiynwyr yn cael ei diweddaru ac adlewyrchwyd hyn ar wefan allanol y Comisiwn yn unol â Chod Ymddygiad y Comisiynwyr.
Cofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd (CE 49/21)
Penderfynwyd: Bod cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 23 Mehefin 2021 yn cael eu cytuno.
Adrodd ar etholiadau mis Mai 2021 (EC 50/21)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol, yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth a gasglwyd ac a ddadansoddwyd gan weinyddwyr sy’n ffurfio rhan bwysig o’n sylfaen dystiolaeth ar gyfer adrodd ar yr etholiadau. Bydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2021.
Trafododd y Bwrdd y posibilrwydd o adolygu tueddiadau data cymharol ar feysydd megis y nifer a bleidleisiodd a hyder pleidleiswyr.
Trafododd y Bwrdd hefyd y posibilrwydd o gynnwys naratif wrth adrodd i roi cyd-destun o ran pleidleisio/etholiadau yng nghyd-destun COVID.
Nododd y Bwrdd ein bod yn parhau i ymgysylltu ar lefel ledled y DU, drwy fforymau cenedlaethol a rhanbarthol, ac yn unigol gyda phrif weithredwyr a thimau etholiadau awdurdodau lleol, i wella’r sylfaen dystiolaeth cyn i’r adroddiadau gael eu cwblhau.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y bydd y diweddariad ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r ymchwil ar ôl etholiadau mis Mai 2021, a’r themâu allweddol ar gyfer adrodd ar yr etholiadau, yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2021.
Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27 (EC 51/21)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr y fersiwn drafft o’r Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27, gan adeiladu ar y trafodaethau blaenorol ynghylch y strategaeth ariannol yng nghyfarfod mis Mehefin.
Croesawodd y Bwrdd sut roedd y cynllun yn datblygu a chytunodd i symud ymlaen o drafodaethau blaenorol, gyda rhai Comisiynwyr yn cynnig arolwg pellach o rannau datblygol y Cynllun drafft.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd bod y fersiwn drafft o Gynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27 yn amodol ar waith pellach sydd wedi’i gynllunio.
Diweddariad i’r Bil Etholiadau (EC 52/21)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil yr adroddiad, gan roi trosolwg o’r pwyntiau allweddol a’r diweddariadau ers iddynt gwrdd ddiwethaf ym mis Mehefin, ac ymhellach i gyhoeddiad y Bil ar 5 Gorffennaf 2021.
Trafododd y Bwrdd elfennau o’r darpariaethau allweddol, gan edrych ar yr effaith a’r dystiolaeth sy’n cefnogi safbwynt y Comisiwn.
Croesawodd y Bwrdd y diweddariad ac mae’n edrych ymlaen at ddiweddariadau pellach wrth i ffrydiau gwaith ddatblygu.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad ar y Bil a gweithrediadau sy’n codi.
Moderneiddio ymchwil pleidleisio (EC 53/21)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol, yr adroddiad, gan roi crynodeb o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil ar agweddau pleidleiswyr tuag at bleidleisio a gosod y camau arfaethedig nesaf ar gyfer y prosiect ar y dichonoldeb o gyflwyno diwygiadau i’r broses bleidleisio bresennol.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariad ar ganfyddiadau’r ymchwil a chytunodd ar gamau nesaf cychwynnol y prosiect.
Cynlluniau ymwybyddiaeth y cyhoedd ar gyfer etholiadau wedi’u trefnu ym mis Mai 2022 (EC 54/21)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil, yr adroddiad, gan roi gwybodaeth ar gynlluniau’r Comisiwn i gyflawni ei swyddogaeth o ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd cyn y gyfres nesaf o etholiadau sydd wedi’u trefnu ar draws y DU.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd ar y cynlluniau a’r gyllideb ar gyfer yr ymgyrch cofrestru pleidleiswyr, y problemau a’r peryglon y dylid eu cymryd i ystyriaeth.
Mater Llywodraethu – aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Risgiau (EC 55/21)
Cyflwynodd y Cwnsel Cyffredinol yr adroddiad gan roi diweddariad i’r newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Risgiau.
Gwnaeth y Bwrdd gydnabod gwaith da Alasdair Morgan ar y Pwyllgor Archwilio a Risgiau.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd ar benodiad Stephen Gilbert i’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau am gyfnod o dair blynedd o 1 Hydref 2021 ymlaen.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd i adnewyddu rôl yr Ymgynghorydd Annibynnol Paul Redfern ar y Pwyllgor Archwilio a Risgiau am ail gyfnod o dair blynedd o 1 Tachwedd 2021 ymlaen.
Traciwr Gweithredu Bwrdd y Comisiwn (EC 56/21)
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn camau a ofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd.
Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd (EC 57/21)
Trafododd y Comisiynwyr eitemau busnes ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Byddai’r rhain yn cael eu hadlewyrchu ym Mlaen-gynllun Busnes y Bwrdd yng nghyfarfod mis Medi.
Penderfynwyd: Adolygodd a nododd y Bwrdd Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd gan drefnu pynciau pellach ar gyfer y cyfarfodydd nesaf.
Cwblhawyd materion y Bwrdd ar y pwynt hwn. Dilynwyd hyn gan sesiwn briffio anffurfiol ar Argymhellion adroddiad CPSL.
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad ar yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn ei adroddiad ar y rheoliadau o ran cyfraith cyllid ariannol, gyda dadansoddiad cychwynnol. Y Cyfarwyddwr, Rheoleiddio wnaeth arwain ar y cyflwyniad.
Nododd y Bwrdd yr argymhellion yn yr adroddiad CSPL, a rhoddodd ddiolch i’r Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a’r timau.