Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 22 Ebrill 2020
Meeting overview
Dyddiad: Wednesday 22 April 2020
Amser: 9:30am to 12:25pm
Lleoliad: Trwy gynhadledd fideo
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Bwrdd y Comisiwn, dydd Mercher 20 Mai 2020
Yn bresennol
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Rob Vincent
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Sue Bruce
Bob Posner, Prif Weithredwr
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Louise Edwards, Cyfarwyddwr, Rheoleiddio
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol
Amanda Kelly, Cwnsler Cyffredinol Dros Dro
David Bailey, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad Strategol
Katharine Sparrow, Uwch Gynorthwyydd Gweithredol
Isabella Coventry, Ysgrifennydd Gweithredol y Bwrdd
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 18 Mawrth 2020
Penderfynwyd: Bod cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 18 Mawrth 2020 i'w cymerdadwyo.
Coronafeirws (COVID-19) - yr effaith ar y Comisiwn a chynnydd mewn meysydd gwaith allweddol (EC 33/20)
Nododd y Prif Weithredwr fod trosglwyddiad cyflym y sefydliad i weithio o bell wedi mynd yn dda ar y cyfan, a'i fod yn gobeithio hefyd ei fod wedi bod yn fuddiol i iechyd ein staff, gan nad oedd gennym adroddiadau o salwch helaeth.
Clywodd y Bwrdd fod Pwyllgor y Llefarydd wedi cymeradwyo ein Cynllun Corfforaethol dros dro a'n cyllideb, a bod gwaith ar y gweill yn awr i ystyried y ffordd orau i gyflawni'r hyn a oedd yn y cynllun yng nghyd-destun y pandemig coronafirws.
Trafododd y Bwrdd effaith y sefyllfa bresennol ar allu pleidiau ac ymgyrchwyr i gyflwyno eu ffurflenni erbyn y dyddiadau cau statudol a pha beth y byddai hyn yn ei olygu i'n cyhoeddiadau tryloywder. Dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio ein bod yn cyfathrebu â'n rhanddeiliaid i ddeall eu sefyllfaoedd penodol a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar gydymffurfiaeth. Nododd nad oedd dychwelyd yn hwyr yn drosedd yn awtomatig.
Diweddarodd y Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol y Bwrdd ynghylch deddfwriaeth eilaidd yn ymwneud â gohirio arolygon 2020, a’r gwaith yr oedd Swyddfa’r Cabinet yn ei arwain i gynllunio ar gyfer yr etholiadau a fyddai'n digwydd bellach yn 2021.
Clywodd y Bwrdd fod y llywodraeth i fod i wneud penderfyniad ar y canfasio yn fuan. Y disgwyliad ar y pryd oedd y byddai'r canfasio diwygiedig yn mynd yn ei flaen, er gyda dyddiad gorffen diwygiedig o bosib, a gwnaethom barhau i gynorthwyo Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) a'u timau i baratoi ar gyfer hyn.
Cytunodd y Bwrdd y byddai trafodaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch arolygon Mai 2021 a threfnu etholiadau ar ôl hynny yn ddefnyddiol.
Diweddarodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil y Bwrdd ynghylch y gwaith yr oedd ei dimau yn ei wneud i sicrhau bod ein rhanddeiliaid yn parhau i gael eu hysbysu, gan gydnabod ar yr un pryd bod gan rai ohonynt flaenoriaethau gwahanol ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol fod gwaith ar y gweill i baratoi cyfrifon diwedd y flwyddyn. At ei gilydd, roedd hyn yn mynd rhagddo'n ddidrafferth, ond nododd ei bod yn debygol y byddai angen trafod ambell fater â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) cyn y gellid setlo'r cyfrifon. Fe wnaeth hefyd ddiweddaru'r Bwrdd ynghylch y sefyllfa ariannol ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan nodi bod y flwyddyn wedi dod i ben gyda thanwariant sylweddol. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU nas trefnwyd (UKPGE) a'r flwyddyn etholiadol oriog, ynghyd â phenderfyniadau yr oeddem wedi'u gwneud ynghylch y gyllideb graidd i reoli'r hyn a allai fod wedi bod yn orwariant sylweddol. Nododd, er bod gennym naratif da ar gyfer egluro'r sefyllfa, byddem hefyd yn herio ein hunain i weld a oedd unrhyw beth y gallem fod wedi'i wneud yn wahanol i reoli'r sefyllfa.
Trafododd y Bwrdd yr effaith bosibl y gallai'r sefyllfa bresennol parthed y pandemig coronafirws a'r argyfwng economaidd y mae wedi esgor arno yn ei chael ar gyllidebau'r Comisiwn yn y dyfodol.
Gweithred: Ychwanegu eitem ar yr agenda ar y llinell amser ar gyfer arolygon barn 2021 a threfnu etholiadau ar ôl y dyddiad hwnnw, at flaen-gynllun busnes y Bwrdd.
Penderfynwyd:Bod y papur i gael ei nodi.
Llinell amser wedi'i diweddaru ar gyfer y broses cynllunio corfforaethol 2021/26 (EC 34/20)
Diweddarodd y Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad y Bwrdd ynghylch y llinell amser ddiwygiedig ar gyfer cynhyrchu'r Cynllun Corfforaethol newydd.
Trafododd y Bwrdd y cyfleoedd y gallai hyn eu cynnig i ystyried y sefyllfa bresennol a'n huchelgeisiau ar gyfer yr agenda foderneiddio yn y tymor hwy. Nododd y Prif Weithredwr yr achlysuron ar flaen-gynllun y Bwrdd ar gyfer y trafodaethau hyn.
Penderfynwyd:Bod y papur i gael ei nodi.
Adolygiad risg blynyddol (EC 35/20)
Atgoffodd y Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad y Bwrdd fod yr adroddiad hwn yn adolygiad ôl-dremiol o sut y rheolwyd risg trwy'r flwyddyn ddiwethaf. Nododd fod Risg 5 mewn perthynas â Brexit bellach wedi cau.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at rai o'r camau a gymerwyd trwy'r flwyddyn i wella'r ffordd yr oedd y sefydliad yn rheoli risg.
Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd adlewyrchu effaith y pandemig coronafirws yn ein cofrestrau risg cyfredol.
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.
Adolygiad effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn (EC 36/20)
Nododd y Cadeirydd, oherwydd y sefyllfa bresennol o ran coronafirws, fod adolygiad effeithiolrwydd y Bwrdd dan arweiniad annibynnol wedi'i ohirio, ond bod cynlluniau ar waith iddynt arsylwi mewn cyfarfod yn y dyfodol ac ymgynghori ag aelodau unigol o'r Bwrdd. Roedd yr oedi hwn yn golygu nad oeddem wedi cwblhau adolygiad effeithiolrwydd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, felly dyma gyfle'r Bwrdd i godi unrhyw beth cyn yr adolygiad mwy sylweddol, a fyddai'n cychwyn yn fuan.
Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad. Ymhlith y materion a nodwyd i'w hystyried ymhellach
Cyfansoddiad ac amrywiaeth y Bwrdd
Sut y gallai aelodau'r Bwrdd gynyddu eu hymgysylltiad ag ystod ehangach o randdeiliaid
Sut y gallai aelodau'r Bwrdd fod yn rhan o'r sefydliad ehangach rhwng cyfarfodydd
Penderfynwyd:Bod y papur i'w nodi, cyn yr ymgymerir â'r adolygiad llawn o efffeithlonrwydd y Bwrdd gan sefydliad annibynnol sydd wedi ymgysylltu at y dibenion hynny.
Blaen-gynllun busnes y Bwrdd (EC 37/20)
Ystyriodd y Bwrdd a allai trafodaeth ynghylch dargyfeirio etholiadol a'r gwahanol ddulliau yr oedd llywodraethau datganoledig yn eu mabwysiadu i foderneiddio etholiadol fod yn ddefnyddiol.
Gweithred: Ychwanegu trafodaeth ar sut rydym yn defnyddio ein hymchwil i agenda'r Bwrdd ym mis Mai, gyda thrafodaeth fwy sylweddol yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi
Gweithred: Yn y cyd-destun presennol, bod Diweddariad y Prif Weithredwr i gynnwys diweddariad ar risg
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.
Traciwr gweithredu Bwrdd y Comisiwn (EC 38/20)
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.