Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 22 Gorffennaf 2020
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 22 Gorffennaf 2020
Amser: 9:30am to 12:40pm
Lleoliad: Drwy gyfrwng fideogynadledda
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Dydd Mercher 23 Medi 2020
Yn bresennol
- John Holmes, Cadeirydd
- Alasdair Morgan
- Anna Carragher
- Elan Closs Stephens
- Joan Walley
- Sarah Chambers
- Stephen Gilbert
- Sue Bruce
- Rob Vincent
Yn y cyfarfod:
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Amanda Kelly, Cwnsler Cyffredinol
- David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
- Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu Allanol
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil
- Tom Hawthorn, Pennaeth Polisïau
- Madeleine Spink, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
- Susan Crown, Pennaeth Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol (ar gyfer eitem 5)
- Ben Hancock, Rheolwr Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Corfforaethol (ar gyfer eitem 5)
- Jessica Cook, Uwch-swyddog Ymgyrchoedd, Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Corfforaethol (ar gyfer eitem 5)
- Peter Wolf, International IDEA (ar gyfer eitem 4)
Ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion o eitemau o fusnes electronig (EC 64/20)
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo cofnodion Bwrdd y Comisiwn o eitemau o fusnes electronig o 15 Mehefin 2020.
Moderneiddio'r broses bleidleisio (EC 65/20)
Cyflwynodd Peter Wolf o International IDEA drafodaeth ynghylch y ffordd roedd pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar brosesau etholiadol ledled y byd, gan roi enghreifftiau o wledydd lle roedd etholiadau wedi'u cynnal ac, mewn rhai achosion, wedi'u gohirio a dulliau gwahanol a oedd wedi'u defnyddio i liniaru canlyniadau'r pandemig.
Trafododd y Bwrdd sut y gallai sefyllfa'r Coronafeirws effeithio ar y drafodaeth gyhoeddus ynghylch pleidleisio ar-lein. Yn rhyngwladol, roedd mwy o gefnogaeth bellach o blaid gwneud defnydd helaethach o sianeli sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys pleidleisio'n gynnar, pleidleisio drwy'r post neu bleidleisio drwy ddirprwy, nag ydoedd i bleidleisio ar-lein. Roedd ymddiriedaeth mewn systemau pleidleisio newydd yn aml yn ymwneud â'r lefelau presennol o ymddiriedaeth yn y broses etholiadol. Roedd profiad rhyngwladol o ddulliau gwahanol o bleidleisio yn cael eu defnyddio ar gyfer rhannau gwahanol o'r boblogaeth, er enghraifft ar gyfer pleidleiswyr tramor.
Gofynnodd y Comisiynwyr sut roedd gweithgarwch ymgyrchu wedi newid mewn etholiadau a gynhaliwyd mewn gwledydd eraill yn ystod y pandemig. Ymddengys mai'r ateb oedd bod gweithgarwch ymgyrchu ar-lein wedi cynyddu.
Trafododd y Bwrdd sut roedd prosesau cyfrif wedi'u cynnal mewn gwledydd eraill a pherthnasedd cymharol dulliau electronig a dulliau â llaw.
Trafododd y Bwrdd gyd-destun presennol pandemig y Coronafeirws yn y DU. Roedd yn annhebygol y byddai newidiadau mawr i brosesau etholiadol yn cael eu gwneud ar gyfer etholiadau mis Mai 2021, o ystyried capasiti awdurdodau lleol ac awydd llywodraethau i gyflwyno deddfwriaeth newydd. Serch hynny, roedd angen cynnal etholiadau yn ddiogel ac mae angen i bobl allu gweld hynny. Roedd angen gwneud llawer o waith ar y problemau a allai godi. Roedd Prif Weinidog Cymru wedi cynnull Grŵp Cynllunio Etholiadau er mwyn sicrhau bod etholiad Senedd 2021 yn mynd rhagddo'n ddidrafferth yn ystod cyfyngiadau symud cenedlaethol neu leol. Byddai angen gosod unrhyw ddeddfwriaeth gerbron y Senedd ddiwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref.
Nododd y Comisiynwyr, er enghraifft, y gallai materion anodd godi o ran sicrhau bod pobl mewn cwarantin ac o dan gyfyngiadau symud lleol yn gallu pleidleisio. Roedd pleidleisio drwy'r post yn debygol o chwarae rôl allweddol a byddai angen rheoli'r risgiau yn gysylltiedig â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y pleidleiswyr post. Pe bai nifer y pleidleiswyr post yn cynyddu, byddai hyn hefyd yn golygu y byddai gweithgarwch ymgyrchu yn parhau pan fyddai rhai pobl eisoes wedi pleidleisio, ar raddfa fwy nag arfer.
Trafododd y Bwrdd a ddylid mynd ati'n gynnar i annog pobl i bleidleisio drwy'r post ac a ellid rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i bleidleisio drwy ddirprwy. Cydnabuwyd bod pleidleisio drwy'r post yn fater gwleidyddol anodd. Mae risg y gallai pobl gysylltu pleidleiswyr drwy'r post â lefelau uwch o dwyll; risg y byddai angen ei rheoli.
Trafododd y Bwrdd y prosiect ymchwil arfaethedig ar foderneiddio'r broses bleidleisio. Byddai'r prosiect hwn yn golygu casglu data ansoddol ar farn pobl am foderneiddio'r broses bleidleisio. Byddai'n gyfle i ddatblygu sylfaen gwybodaeth a dealltwriaeth y Comisiwn.
Trafododd y Bwrdd rôl technoleg newydd. Dylai'r Comisiwn fod ar flaen y gad o ran y syniadaeth ynglŷn â moderneiddio. Roedd angen i genedlaethau iau gredu bod y broses etholiadol yn berthnasol ac yn gredadwy. Ar yr un pryd, roedd angen i ni fod yn glir ynghylch pa broblem roeddem yn ceisio ei datrys drwy gyflwyno technoleg newydd. Dylai'r ymchwil helpu i nodi problemau neu bryderon penodol a allai fod gan grwpiau penodol a diweddaru'r sylfaen dystiolaeth bresennol.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd ymchwil ansoddol dda, sy'n cynnwys barn pleidleiswyr ac nid dim ond barn arbenigwyr. Byddai'r dull gweithredu penodol yn cael ei ddatblygu ar y cyd â'r asiantaeth ymchwil a ddewisid, yn ystod y broses dendro ac ar ei hôl.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar y dull arfaethedig o ddatblygu prosiect i ystyried opsiynau ar gyfer moderneiddio'r broses bleidleisio ac ar gwmpas amlinellol y prosiect hwnnw.
Cynlluniau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2021 (EC 66/20)
Ystyriodd y Bwrdd y cynllun a'r gyllideb ar gyfer ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr ym mis Mai 2021. Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil. Byddai etholiadau mis Mai 2021 yn set gymhleth o ddigwyddiadau pleidleisio ac yn cynnwys grwpiau a fyddai newydd gael yr etholfraint yng Nghymru a'r Alban.
Y cyngor a gafwyd gan y Comisiynwyr mewn trafodaeth flaenorol oedd y dylid canolbwyntio mwy nag yn y gorffennol ar gofrestru grwpiau lle y gwyddys nad oes lefelau cofrestru digonol. Pennodd y strategaeth hon y fframwaith ar gyfer y prosiect. Roedd yn bwysig bod y Comisiwn yn cael ei lywio gan dystiolaeth o lefelau cofrestru annigonol ac yn osgoi unrhyw risg y byddai pobl yn credu ei fod yn canolbwyntio ar grwpiau y gellid ystyried eu bod yn dewis pleidleisio dros bleidiau penodol. Byddai angen tystiolaeth glir bod y prosiect wedi cael effaith a ffyrdd penodol o fesur llwyddiant a gwerth am arian.
Y nod oedd gwneud cynnydd tuag at gysoni lefelau cofrestru rhwng grwpiau demograffig, gan ganolbwyntio ar grwpiau lle y gwyddys nad oes lefelau cofrestru digonol, yn ogystal â sicrhau cynifer o gofrestriadau newydd â phosibl. Roedd y strategaeth ddeuol hon wedi'i chymeradwyo gan Bwyllgor y Llefarydd drwy'r broses o gymeradwyo cynlluniau corfforaethol. Fodd bynnag, roedd cyfle i sicrhau mwy o eglurder ynghylch pwysigrwydd pob un o'r amcanion hyn ac i ba raddau y gellid mynd i'r afael â nhw ar yr un pryd.
Trafododd y Comisiynwyr y posibilrwydd o gynyddu gweithgarwch darparu gwybodaeth gyhoeddus oherwydd y ganran uchel ddisgwyliedig o bobl yn pleidleisio drwy'r post. Byddai elfen allweddol o'r gwaith hwn yn cael ei chyflawni drwy bartneriaethau ag awdurdodau lleol.
Trafododd y Comisiynwyr a ellid rhoi cymorth ariannol i bartneriaid mewn rhai achosion; rhywbeth nad oedd yn y cynlluniau ar hyn o bryd ond a oedd o fewn pwerau statudol y Comisiwn. Roedd y Comisiwn wedi camu'n ôl o'r arfer flaenorol o ariannu partneriaethau ac, yn lle hynny, roedd yn darparu adnoddau cyfathrebu yn agored i'w defnyddio gan unrhyw sefydliad a oedd yn awyddus i annog pobl i gofrestru i bleidleisio. Byddai canlyniad trafodaethau pellach yn llywio'r strategaeth.
Cam Gweithredu: Y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil i roi papur pellach ar y strategaeth bolisi ar gyfer ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr i'r Bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylai'r cynllun a'r gyllideb ar gyfer ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr ym mis Mai 2021, fel arall, gael eu cymeradwyo.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 67/20)
Nododd y Bwrdd y diweddariad ar weithrediadau a materion yn codi.
Trafododd y Comisiynwyr adroddiad y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch ar weithgarwch Rwsia yn y DU. Gwnaethant nodi'r argymhelliad cyffredinol y dylai fod gan y Comisiwn fwy o bwerau i ddelio ag arian tramor. Tynnodd yr adroddiad sylw at fwlch o ran pwy oedd yn gyfrifol am sicrhau diogelwch etholiadau a rhyddid rhag ymyrraeth o dramor. Un ateb amlwg oedd mwy o gydweithio rhwng y gwahanol gyrff sydd â chyfrifoldebau yn y maes hwn. Roedd rhai o sylwadau'r adroddiad ar rôl y Comisiwn yn anghywir. Byddai'r mater hwn yn cael ei godi gyda Chadeirydd y Pwyllgor. Yn y cyfamser, roedd mwy o waith i'w wneud o ran codi proffil y Comisiwn a bod yn glir ynglŷn â'n rôl.
Nododd y Prif Weithredwr gyfarfodydd diweddar â'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol a Chloe Smith AS, y Gweinidog dros Faterion Cyfansoddiadol. Roedd disgwyl i Fil Uniondeb Etholiadol gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU yn 2021. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach â'r Bwrdd wrth i wybodaeth ddod i law. Dylai fod amser a chyfle i ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu'r Bil.
Ymhlith y materion eraill a godwyd roedd y canlynol: cyflwyniadau cyllidebol atebolrwydd datganoledig; y gŵyn i Gomisiynydd y Gymraeg; y cais o dan Adran 10 gan Lywodraeth yr Alban am gyngor a chymorth mewn perthynas ag ymchwil barn y cyhoedd i agweddau pleidleiswyr at sianeli pleidleisio ar gyfer etholiadau mis Mai 2021 o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws. Cyflwynodd y Prif Weithredwr y matrics risg hefyd.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r diweddariad ar weithrediadau a materion yn codi, gan gynnwys y diweddariad ar atebolrwydd datganoledig.
Eitemau o fusnesau a gymerwyd drwy ddulliau electronig ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd
Trafododd y Bwrdd linellau amser eitemau o fusnes electronig a pha faterion y dylid ymdrin â nhw fel hyn.