Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 22 Medi 2021
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 22 Medi 2021
Amser: 9:30am-12:50pm
Lleoliad: Yn bersonol a thrwy gynhadledd fideo
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Bwrdd y Comisiwn, Dydd Mercher 20 Hydref 2021
Yn bresennol
- John Pullinger, Cadeirydd
- Rob Vincent
- Sue Bruce
- Alex Attwood
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Joan Walley
- Katy Radford
Yn mynychu:
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr, Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Binnie Goh, Cwnsler Cyffredinol
- Zena Khan, Uwch Gynghorydd, Llywodraethu
- David Bailey, Pennaeth, Cynllunio a Pherfformiad Strategol (eitemau 4, 5, 6 a 12)
- Bola Raja, Rheolwr Perfformiad a Chynllunio (eitem 4)
- Tim Crowley, Pennaeth, Cyfathrebu a Dysgu Digidol (eitem 4)
- Marcia Bluck, Ymgynghorydd Allanol (eitem 6)
- Carol Sweetenham, Pennaeth Prosiectau (eitem 6)
- Cindy Williams, Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (eitem 6)
- Daniel Stoker, Uwch Ymgynghorydd, Polisi (eitem 7)
- Kate Engles, Rheolwr Polisi (eitem 7)
Ymddiheuriadau a chroeso
Croesawodd y Cadeirydd pawb i gyfarfod hybrid cyntaf Bwrdd y Comisiwn, gyda rhai yn mynychu yn bersonol gan ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol, ac eraill yn ymuno o bell.
Croesawodd y Cadeirydd Katy Radford, Comisiynydd newydd Gogledd Iwerddon, i’w chyfarfod Bwrdd cyntaf, gan gymryd rhan fel arsylwr wrth i ni aros am ei Warant Frenhinol wedi’i llofnodi.
Rhoddodd y Cadeirydd wybod y byddai hwyluswr allanol, sef Marcia Bluck, yn ymuno a nhw yn eitem agenda 6, i hwyluso rhan o’r trafodaethau ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a chynhwysiant.
Nodwyd y byddai eitem 9 o’r agenda yn cael ei gymryd ar ddiwedd r hol eitemau busnes, gan fyddai nifer cyfyngedig o staff ar ôl.
Datganiadau o fuddiant
Datganodd y Comisiynydd Sue Bruce ei bod wedi cymryd cam i fyny o fod yn Ddirprwy Gadeirydd i fod yn Gadeirydd ar hyn o bryd ar y ‘Prince’s Foundation’.
Nododd y Bwrdd y byddai Cofrestr Buddiannau’r Comisiynwyr yn cael ei diweddaru ac adlewyrchwyd hyn ar wefan allanol y Comisiwn yn unol â Chod Ymddygiad y Comisiynwyr.
Cofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd (CE 58/21)
Penderfynwyd: Y cytunir ar gofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 21 Gorffennaf 2021.
Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27: Terfynol (CE 59/21)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yn diweddaru’r Comisiynwyr ar y sefyllfa bresennol o ran y prosesau i’r tair senedd a’r cyllidebau terfynol.
Nodwyd y byddai Comisiynwyr Cymru a’r Alban yn adolygu ymhellach y llythyron eglurhaol i Senedd Cymru a Senedd yr Alban a fydd yn gysylltiedig â’r naratif ar gyfer y Cynllun Corfforaethol a’r Prif Amcangyfrif.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd y byddai’r Cynllun Corfforaethol 2022/23 – 2026/27 terfynol a’r cyllidebau cysylltiedig, yn ddibynnol ar adolygiadau pellach o’r deunydd, yn cael eu cyflwyno i Senedd Cymru a Senedd yr Alban gan Gomisiynwyr Cymru a’r Alban.
Adroddiad perfformiad chwarter un 2021/22 (CE 60/21)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan roi crynodeb o gynnydd.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, wybod ei fod yn hyderus ar hyn o bryd y gellid rheoli’r pwysau ariannol o fewn y gyllideb, er y byddai ef a’r Prif Weithredwr yn cynnal cyfarfodydd gyda Chyfarwyddwyr yn ystod mis Hydref i sicrhau rhagolygon canol y flwyddyn.
Trafododd y Comisiynwyr nifer o agweddau’r perfformiad diweddar, gan gynnwys cyflymder ymchwiliadau cymhleth a throsiant staff.
Gofynnodd y Bwrdd am bapur ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol sy’n dangos proses ymchwiliad, gan gynnwys pa mor hir mae’r ymchwiliad yn cymryd a chanlyniadau. Gofynnodd y Bwrdd hefyd i’r Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol adrodd yn ôl ar drosiant staff, gan gysylltu â’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau yn ôl yr angen.
Gweithred: I ddod â phapur ar broses ymchwiliad, yr amser a ddyrannwyd a’r canlyniadau, i gyfarfod yn y dyfodol.
Perchennog y weithred: Cyfarwyddwr, Rheoleiddio.
Cyflwynwyd gan: Cyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd ddarpariaeth y rhaglen waith ac ystyriodd feysydd lle oedd angen rhagor o graffu.
Trafodaeth ar amrywiaeth y Bwrdd a diweddariad ar Gydraddoldeb. Gweithgareddau Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) (CE 61/21)
Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem oedd yn diweddaru’r comisiynwyr ar y cynnydd diweddar a wnaed wrth gyflawni ymrwymiad y Comisiwn i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Gohiriwyd ar ail eitem ar les tan gyfarfod yn y dyfodol.
Adolygodd a thrafododd y Bwrdd feysydd o fewn y Strategaeth EDI ddrafft, gan gynnwys ehangu ystod y grwpiau a gyrhaeddir megis gofalwyr a phobl sydd ag anableddau amrywiol, ac yn gyffredinol i adnabod amrywiaeth meddwl y tu hwnt i’r grwpiau hynny y mae’r gyfraith yn adnabod bod ganddynt nodweddion gwarchodedig. Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i ragfarn ddiarwybod. Pwysleisiodd y Comisiynwyr bwysigrwydd dangos ymrwymiad i themâu’r strategaeth yn hytrach na dim ond cydymffurfio â rheolau. Awgrymwyd y dylwn archwilio arferion da a fabwysiadwyd mewn mannau eraill, yn enwedig Gogledd Iwerddon.
Nododd y Bwrdd bwysigrwydd cael y strategaeth allan, i’r ymgynghoriad fod ar waith ac i’r rhaglen waith i gael ei chyflwyno. Rhoddir gwybod am gynnydd pellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol Marcia Bluck, sef ymgynghorydd allanol wnaeth arwain ar sesiwn yn archwilio opsiynau gwella amrywiaeth y Bwrdd.
Nododd y Bwrdd gyflwyniad oedd yn rhoi sylw’r Comisiynwyr ar y canlynol:
- Gwella amrywiaeth ar lefel Bwrdd
- Gwella cynrychiolaeth – nodweddion gwarchodedig ac economeg gymdeithasol
- Ehangu safbwyntiau’r Bwrdd
- Cryfhau ymgysylltu dilys gyda grwpiau amrywiol
Trafododd y Bwrdd ffyrdd amrywiol y gellid magu hyder a datblygu enw da, a gosododd amcanion clir a rhoi gwerth i unigolion, gan gynnwys recriwtio ymgynghorydd annibynnol ar EDI i’r Bwrdd.
Diolchodd y Bwrdd Marcia am gyflwyniad ystyriol oedd yn peri pobl i feddwl, a chroesawodd trafodaethau.
Rhoddir rhagor o fanylion, a disgrifiad swydd o ran ymgynghorydd annibynnol ar EDI ar gyfer y Bwrdd, mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn cytuno arnynt.
Gweithred: Rhoddodd y Bwrdd awdurdod i’r Prif Weithredwr a’r cwnsler Cyffredinol i baratoi rhagor o fanylion a disgrifiad swydd ymgynghorydd annibynnol ar EDI ar gyfer y Bwrdd a mecanwaith ar gyfer ymgysylltu â Chomisiynwyr.
Perchennog y weithred: Prif Weithredwr a Chwnsler Cyffredinol.
Cyflwynwyd gan: Hydref 2021.
Penderfynwyd: Nododd a chytunodd y Bwrdd ar y camau a gymerwyd yn ystod y flwyddyn hon i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd i’r Comisiwn fynd allan ac ymgynghori ar y Strategaeth EDI a’r deunydd newydd o ran EIA.
Cynllun Grantiau Datblygu Polisi (CE 62/21)
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil. Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Bwrdd i gytuno bod y blaid Alba yn ymuno â’r cynllun, ond roedd am ystyried ymhellach sut ddylai dyraniad y grant weithio a’r argymhelliad ychwanegol.
Cytunodd y Bwrdd bod y blaid Alba yn ymuno â’r Cynllun, a dirprwyodd i’r Prif Weithredwr, gyda’r Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil, y cyfrifoldeb o ysgrifennu at y Bwrdd gyda’r argymhellion arfaethedig i’r Gweinidog. Byddai ymatebion y Bwrdd yn galluogi’r Prif Weithredwr i gwblhau’r dull ac ysgrifennu’n gyfatebol at y Gweinidog.
Gweithred: Dirprwyodd y Bwrdd i’r Prif Weithredwr, gyda’r Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil, y cyfrifoldeb o adolygu sut bydd y grant yn cael ei ddyrannu gyda’r blaid Alba yn rhan o’r Cynllun, ac yna ysgrifennu at y Bwrdd gyda’r argymhellion i’r Gweinidog.
Perchennog y weithred: Prif Weithredwr
Cyflwynwyd gan: Diwedd mis Hydref
Penderfynwyd: Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn cynnwys Plaid Alba fel plaid cymwys yn yr Alban yn unig.
Dyddiadau cyfarfodydd arfaethedig Bwrdd a Phwyllgor y Comisiwn 2022/23 (CE 63/21)
Gwnaeth y Cadeirydd gynghori’r Comisiynwyr i ymgysylltu’n uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Bwrdd ar addasiadau bach i ddyddiadau arfaethedig cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor ar gyfer 2022/23. Byddai hyn yn cynnwys cyfarfod y tu allan i Lundain a pharhau i gynllunio ar gyfer cyfarfodydd hybrid.
Gweithred: Byddai Ysgrifennydd y Bwrdd yn ailedrych ar ddyddiadau arfaethedig cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor ar gyfer 2022/23, gan ymgorffori cyfarfod y tu allan i Lundain a pharhau gyda chyfarfodydd hybrid.
Perchennog y weithred: Ysgrifennydd y Bwrdd
Cyflwynwyd gan: Rhagfyr 2021
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y byddai cynnig diwygiedig yn cael ei rannu gan Ysgrifennydd y Bwrdd ar ddyddiadau arfaethedig cyfarfodydd y Bwrdd a’r Pwyllgor ar gyfer 2022/23.
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol (RemCo) (Ar Lafar)
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar lafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol (RemCo) ynghylch eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021.
Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar y Strategaeth Pobl wedi’i ddilyn gan gyflwyniad ar ffyrdd o weithiau mewn perthynas â COVID a lles gan Bennaeth Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg.
Roedd yna ddiweddariad i’r Strategaeth EDI gan y Pennaeth Prosiectau ac adroddiad ar recriwtio oedd yn dangos trosiant isel. Cytunwyd ar adroddiad ar y cyflogau Gweithredol.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar lafar.
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risgiau (Ar Lafar)
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar lafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol (ARC) ynghylch eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021.
Nododd y Bwrdd adroddiad ar y datganiad Parodrwydd i dderbyn risg. Bydd argymhellion yr adroddiad, yn ogystal â diweddariad ar lafar ynghylch y Cynllun gwelliannau o ran risg a diweddariadau ar lafar gan ein harchwilwyr mewnol ac allanol, yn cael eu trafod yng nghyfarfod y Bwrdd yn y dyfodol.
Nodwyd y byddai croeso i aelodau’r Comisiwn nad ydynt ar y Pwyllgor Archwilio a Risgiau arsylwi cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risgiau yn y dyfodol.
Nododd y Bwrdd gyflwyniad ar ymchwilio i hyfforddiant a datblygiad aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau. Roedd yna arolwg o amserlen polisïau a chodau a wneir yn gyfnodol.
Nodwyd o fewn y drafodaeth ar ôl y cyfarfod a gafwyd ynghylch prif fusnes y Pwyllgor Archwilio a Risg, cafwyd trafodaeth ynghylch recriwtio a chadw staff yn y Comisiwn a’r risg o golli cof corfforaethol. Cafwyd trafodaeth ar gynllun gweithredu, a gwnaed awgrym i wahodd Cadeirydd RemCo i drafodaeth ar y pwnc hwn.
Nododd y Bwrdd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Comisiynydd Alasdair Morgan gyda’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau ar ôl gwasanaethu ar y Pwyllgor am 10 mlynedd, a chyfarfod cyntaf y Comisiynydd Stephen Gilbert gyda’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau fel arsylwr sy’n cymryd rhan tan iddo ymuno fel aelod llawn ym mis Tachwedd.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariadau ar lafar.
Adolygiad Cwynion Blynyddol (CE 64/21)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, yr adroddiad sy’n rhoi i’r Bwrdd yr arolwg blynyddol o gwynion a gafwyd yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 30 Mehefin 2021. Cymerodd y cyfnod i ystyriaeth hefyd data cyfrif oedd yn berthnasol i etholiadau mis Mai 2021.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd eu bod wedi cael sicrwydd y caiff cwynion eu trin mewn modd addas, ac y cymerwyd unrhyw gamau angenrheidiol a gododd o gwynion a gafwyd.
Diweddariad y Prif Weithredwr (CE 65/21)
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y cyflwyniad a’r diweddariad o adroddiad y Prif Weithredwr.
Traciwr gweithredu Bwrdd y Comisiwn (CE 66/21)
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y cynnydd yn erbyn camau a ofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd.
Blaen-gynllun busnes y Bwrdd (CE 67/21)
Penderfynwyd: Adolygodd a nododd y Bwrdd Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd gan drefnu pynciau pellach ar gyfer y cyfarfodydd nesaf.
Ar y pwynt hwn, gofynnwyd i staff, cydweithwyr a gwesteion i adael y cyfarfod ar wahân i’r Prif Weithredwr, y Cwnsler Cyffredinol, y Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ac Ysgrifennydd y Bwrdd.
Cyflog y Prif Weithredwr (Ar Lafar)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol bapur yn dilyn Cyfarfod Eithriadol y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol (RemCo) ar 17 Medi 2021 gydag argymhellion i’r Bwrdd.
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd ar argymhellion y Pwyllgor.