Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 23 Medi 2020
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Medi 2020
Amser: 9:30am to 1:15pm
Lleoliad: Drwy gyfrwng fideogynadledda
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Dydd Mercher 21 Hydref
Yn bresennol
- John Holmes, Cadeirydd
- Sue Bruce
- Anna Carragher
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Rob Vincent
- Joan Walley
In attendance:
- Bob Posner, Prif Weithredwr (Eitemau 1 i 10)
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil (Eitemau 1 i 10)
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio (Eitemau 1 i 10)
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau (Eitemau 1 i 10)
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Amanda Kelly, Cwnsler Cyffredinol (Eitemau 1 i 10)
- David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil (Eitemau 4 a 5)
- Sean Usher, Uwch-Gynghorydd Llywodraethu (Eitemau 1 i 10)
- Carol Sweetenham, Pennaeth Prosiectau (Eitem 5)
- Tracey Blackman, Pennaeth Cyllid, Caffael a Chyfleusterau (Eitem 5)
- Dan Adamson, Pennaeth Monitro a Gorfodi (Eitem 4) Pennaeth
- Susan Crown, Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol (Eitemau 4 a 5)
- Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru (Eitemau 5 ac 8)
- Andy O’Neill, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban (Eitem 5)
- Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu Allanol (Eitemau 4 a 5)
- Orla Hennessy, Rheolwr y Cyfryngau a Gwybodaeth Gyhoeddus (Eitemau 4 a 5)
- Laura Mcleod, Rheolwr Materion Cyhoeddus (Eitemau 4 a 5)
Ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion o eitemau o fusnes electronig (EC 74/20)
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo cofnodion Bwrdd y Comisiwn o eitemau o fusnes electronig o 15 Mehefin 2020.
Diweddariad – adolygiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus o agweddau ar reoleiddio etholiadol (EC 75/20)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r papur a rhoi trosolwg i'r Bwrdd o'r diweddariadau allweddol a oedd yn deillio o waith y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.
Penderfynwyd:
- Y dylid gohirio'r broses o ymgynghori ar bolisi erlyn
- Y dylid diwygio'r Blaengynllunydd er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y rhaglen waith
Cyflwyno Cyllideb a Chynllun 2021/2022 i Senedd Cymru a Senedd yr Alban (EC 76/20)
Nododd y Bwrdd fod amserlenni ariannol yn Senedd Cymru a Senedd yr Alban yn golygu bod yn rhaid i'n cyllideb gael ei chyflwyno i'r pwyllgorau craffu perthnasol erbyn diwedd mis Mis Medi cyn y flwyddyn ariannol, yn llawer cynharach na phroses San Steffan.
Nodwyd na fyddai'r Bwrdd wedi'i glymu wrth y gyllideb hon tan y flwyddyn nesaf. Y gobaith oedd na fyddai unrhyw newidiadau mawr yn y cyfamser ond roedd yn rhaid ystyried effaith pandemig Covid-19. Roedd y gyllideb arfaethedig yn cyd-fynd â'r hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y Cynllun corfforaethol cyhoeddedig (CP1).
Nododd y Bwrdd ei fod wedi cael papurau blaenorol ar oblygiadau a materion ymarferol atebolrwydd datganoledig a'i fod wedi pennu cyfeiriad ar gyfer gweithredu. Roedd y papur hwn yn ceisio cytundeb ynglŷn â sut y dylid cymhwyso'r trefniadau hyn yn y flwyddyn lawn gyntaf a sut y gellid eu datblygu ar ôl hynny. Hefyd, croesawodd y Bwrdd y ffaith bod y trafodaethau â'r gweinyddiaethau datganoledig wedi'u cynnal mewn ysbryd adeiladol iawn.
Penderfynwyd:
- Y dylid cymeradwyo’r gyllideb gyffredinol a'r Amcangyfrifon unigol a oedd yn seiliedig ar y gyllideb honno, gan ddirprwyo'r cyfrifoldeb am gymeradwyo cyllidebau yn derfynol i'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â Chadeiryddion y Bwrdd a'r Pwyllgor Craffu, tra'n aros am gyngor gan Drysorlys EM a chytundeb â swyddogion mewn deddfwriaethau a llywodraethau datganoledig ar y fformiwla cyllido
- Y dylid cymeradwyo'r dull o ymdrin â'r wybodaeth sydd i'w chyflwyno gyda'r Amcangyfrifon, ar yr amod bod y ddau Gomisiynydd gwahanol sydd â chyfrifoldebau arweiniol am y Comisiwn yng Nghymru a'r Alban a'r Prif Weithredwr yn cytuno'n derfynol ar y testun.
- Y dylid cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft y Cyllidwyr, gan ddirprwyo'r cyfrifoldeb am gymeradwyo’r ddogfen derfynol i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r ddau Gomisiynydd gwahanol sydd â chyfrifoldebau arweiniol am y Comisiwn yng Nghymru a'r Alban.
Adolygiad o Effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn (EC 77/20)
Cyflwynodd y Cadeirydd yr Adolygiad a'i brif argymhellion. Er nad oedd y Cadeirydd yn cytuno, o reidrwydd, â phopeth yn yr Adolygiad, roedd ei brif ganfyddiadau yn ddefnyddiol ac yn cyd-fynd â'r materion a oedd eisoes wedi'u codi gan y Bwrdd, yr oedd sylw eisoes yn cael ei roi i hai ohonynt.
Trafododd y Comisiynwyr yr Adolygiad. Y consensws oedd bod ganddo bwyntiau da ond nad oedd mor heriol ag y dylai fod wedi bod mewn rhai meysydd ac, felly, ei fod o werth cyfyngedig.
Nodwyd bod yr Adolygiad yn cynnwys argymhellion i'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol a'r Pwyllgor Archwilio. Byddai'r rhain yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd nesaf y Pwyllgorau hyn.
Cam gweithredu: Y Tîm Gweithredol mewn ymgynghoriad â'r ddau Gomisiynydd i flaenoriaethu'r argymhellion hynny y dylid gweithredu arnynt mewn cynllun gweithredu i'w gymeradwyo gan y Bwrdd.
Penderfynwyd:
- Y dylai'r adroddiad gael ei nodi
- Y dylid cyflwyno cynllun gweithredu i'w gymeradwyo gan y Bwrdd
Yr Adroddiad ar Berfformiad – Chwarter 1 2020/21 (EC 78/20)
Hysbyswyd y Bwrdd fod yr adroddiad wedi'i lunio gan ddefnyddio system newydd, sef Pentana, am y tro cyntaf. Roedd y Comisiynwyr yn cefnogi'r fformat newydd, ar y cyfan.
Trafododd y Bwrdd y gwahanol risgiau y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad a nododd bod angen rhoi lle mwy blaenllaw i'r risgiau i enw da'r Comisiwn. Nodwyd hefyd mai effaith y polisi newydd Dim Archeb Prynu, Dim Talu oedd metrig mewnol yn hytrach na metrig perfformiad cyffredinol.
Trafododd y Bwrdd drosiant staff a gofynnodd sut roedd pandemig Covid-19 wedi effeithio arno a'r gallu i recriwtio staff o safon uchel.
Penderfynwyd: Y dylai'r adroddiad gael ei nodi.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 79/20)
Nododd y Bwrdd y diweddariad ar weithrediadau a materion yn codi.
Trafododd y Bwrdd y gwaith o baratoi ar gyfer etholiadau 2021 ac effaith pandemig Covid-19 ar bob agwedd ar y broses ddemocrataidd, gan gynnwys ar y gwaith o ddarparu pleidleisiau post a'r cynnydd posibl yn y galw amdanynt.
Nododd y Bwrdd y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Comisiwn i reoli'r heriau sy'n gysylltiedig ag etholiadau 2021. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau i gyhoeddi canllawiau yn ymwneud ag effaith y pandemig.
Nododd y Bwrdd fod y Sesiwn Friffio ddiweddar i Bob Aelod o'r Staff wedi cael derbyniad da ac wedi cynnig cyfle i fyfyrio ar gyflawniadau a blaenraglenni gwaith. Trafododd y Bwrdd waith pwysig partneriaid y Comisiwn yn y trydydd sector. Roedd amrywiaeth eang o elusennau a grwpiau â ffocws ar ddemocratiaeth yn cynorthwyo gwaith y Comisiwn a gofynnodd y Bwrdd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu.
Trafododd y Bwrdd yr Atodiad i'r diweddariad, ar y polisi ar ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr. Nododd y Comisiynwyr eu bod yn cefnogi'r newid mewn ffocws tuag at ddemograffeg lle y gwyddys nad oes lefelau cofrestru digonol.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r diweddariad ar weithrediadau, materion yn codi a'r Polisi.
Diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol (diweddariad ar lafar)
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor hwnnw gan gynnwys ei gyfarfod diwethaf ym mis Gorffennaf. Roedd yr eitem bwysicaf yn ymwneud â'r Arolwg Staff a chanfyddiadau'r arolwg hwnnw. Bu canlyniadau'r arolwg yn gadarnhaol, ar y cyfan, ond roedd pwyntiau negyddol o hyd a oedd yn ymwneud â materion gan gynnwys cyfleoedd i staff gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y Comisiwn, ac amrywiaeth.
Byddai'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar agenda cyfarfod y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol ym mis Hydref, yn ogystal â chyflog ac effaith pandemig Covid-19 ar waith y Comisiwn.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r diweddariad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol.
Eitemau o fusnesau a gymerwyd drwy ddulliau electronig ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd
Ni chafwyd unrhyw sylwadau newydd na diwygiadau.
Mater Staffio Unigol (eEC 72/20)
Gadawodd pob aelod o'r staff y cyfarfod ac eithrio'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol fel y Swyddog Cyfrifyddu dros dro, a'r Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad yn gweithredu fel Ysgrifennydd y Bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol, ar yr amod bod Cadeirydd y Comisiwn a Chadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol, mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol fel y Swyddog Cyfrifyddu dros dro, yn cytuno ar amodau sy'n adlewyrchu sylwadau'r Bwrdd ar y testun.