Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 6 Ebrill 2022
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 6 Ebrill 2022
Amser: 9:30am-1:00pm
Lleoliad: Yn bersonol, Bunhill Row, Llundain, a thrwy gynhadledd fideo
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Bwrdd y Comisiwn, dydd Mercher 18 Mai 2022
Yn bresennol
- John Pullinger, Cadeirydd
- Rob Vincent
- Sue Bruce
- Alex Attwood
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Joan Walley
- Katy Radford
Yn y cyfarfod:
- Shaun McNally, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
- Laura McLeod, Pennaeth, Cymorth Rheoleiddio
- Binnie Goh, Cwnsler Cyffredinol
- Zena Khan, Uwch-gynghorydd Llywodraethu
- Hannah Kavanagh, Swyddog Cyfreithiol [cymorth cyfarfod]
- Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi [eitemau 6b a 10]
- Mel Davidson, Pennaeth Cymorth a Gwella [Eitemau 9 a 10]
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil [eitemau 9 a 10]
- Andy O’Neill, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban [Eitem 10]
- Cahir Hughes, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Ngogledd Iwerddon [Eitem 10]
- Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru [Eitem 10]
Ymddiheuriadau a chroeso
Cafwyd ymddiheuriadau gan Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio. Roedd Laura McLeod [Pennaeth Cymorth Rheoleiddio] yn bresennol fel dirprwy yn absenoldeb Louise.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, yn benodol Shaun McNally, yn ei gyfarfod cyntaf o Fwrdd y Comisiwn fel y Prif Weithredwr newydd.
Datganiadau o fuddiant
Roedd y Comisiynydd Stephen Gilbert wedi datgan yn flaenorol ei fod yn aelod o'r pwyllgor dethol ar dwyll.
Nododd y Bwrdd y byddai'r datganiadau hyn yn cael eu cynnwys yng Nghofrestr y Comisiynwyr o fuddiannau a'u cyhoeddi i wefan allanol y Comisiwn yn unol â Chod Ymddygiad y Comisiynwyr.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi datganiad y Comisiynydd Stephen Gilbert.
Cofnodion (EC 100/22)
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar gofnodion y cyfarfod Bwrdd ar 23 Chwefror 2022.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn (EC 101/22)
Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar waith parhaus ar gyfer recriwtio'r cynghorydd annibynnol i'r Bwrdd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cynllunio ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref yng Ngogledd Iwerddon a chymorth ar gyfer Comisiynwyr ar ddefnyddio'r swyddogaethau ar Objective Connect, system rheoli papur y bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi hynt y camau gweithredu y mae'r Bwrdd wedi gofyn amdanynt.
Blaengynllun o fusnes y Bwrdd 2022/23 (EC 102/22)
Trafododd y Bwrdd y broses o gael diweddariadau rheolaidd ar faterion byw sy'n effeithio ar yr amrywiaeth o waith y Comisiwn, fel materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Bil Etholiadau ac adroddiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol ar y Comisiwn. Gallai hyn gynnwys rhoi diweddariadau ar eitemau amserol yn adroddiad diweddaru chwarterol y Prif Weithredwr a threfnu eitemau ar ddiwrnodau i ffwrdd y Bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd drafod ac adolygu'r Blaengynllun o fusnes y Bwrdd ar gyfer 2022/23, gan gynnwys eitemau amserol.
Diweddariadau'r Prif Weithredwr (Llafar)
Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr newydd
Cyfarchodd y Prif Weithredwr, Shaun McNally, y cyfarfod drwy ddiolch i Gadeirydd y Bwrdd a'r tîm arwain am ei groesawu i'r sefydliad a rhoi cipolwg iddo ar swyddogaethau'r Comisiwn drwy gyfarfodydd sefydlu.
Nododd y Bwrdd mai gwrando oedd ffocws cychwynnol y Prif Weithredwr, yn cynnwys dod i adnabod y Bwrdd, ei heriau a'i ffocws ym mhob rhan o'r sefydliad.
Croesawodd y Bwrdd y Prif Weithredwr a nododd ei fod yn edrych ymlaen at bartneriaeth gydweithredol.
Diweddariad ar weithgarwch presennol yn cynnwys y Bil Etholiadau
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil ddiweddariad ar weithgarwch mewn perthynas â'r Bil Etholiadau.
Nododd y Bwrdd y cafwyd ymgysylltiad eang â chymheiriaid wrth i Dŷ'r Arglwyddi ystyried y ddeddfwriaeth, o gyfarfodydd briffio sy'n rhoi trosolwg i gyngor uniongyrchol sy'n ymwneud â diwygiadau.
Nodwyd bod sesiynau briffio a chyngor y Comisiwn wedi cael ei groesawu, a bod yr effaith yn amlwg o'r trafodaethau. Roedd gwaith ar yr is-ddeddfwriaeth yn dechrau nawr; ac o dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Rheoleiddio, mae'r Comisiwn wedi atgyfnerthu ei drefniadau rheoli prosiectau mewnol i baratoi ar gyfer y cam gwaith nesaf, cymhleth hwn.
Nododd y Bwrdd fod gwaith paratoi ar gyfer gweithredu eisoes ar waith ar y mesurau hynny ac er mwyn rhoi'r rhain ar waith yn llwyddiannus, byddai angen i waith ddechrau nawr i allu bodloni'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer dechrau.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r diweddariadau.
Adolygiad blynyddol o lywodraethu
Sgiliau Comisiynwyr a Chomisiynwyr cysylltiedig (EC 103/22)
Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr adroddiad, gan ddarparu data o'r arolwg a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021, ar lefelau sgiliau, profiad a diddordeb Comisiynwyr mewn meysydd allweddol o'r Comisiwn.
Trafododd y Bwrdd feysydd o'r Comisiwn lle gellid cynnwys aelodau'r Bwrdd mewn trafodaethau lle'r oedd angen arbenigedd a lle mae materion hanfodol yn codi.
Parhaodd y Bwrdd i drafod natur cael comisiynwyr cysylltiedig i helpu i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu amcanion y Cynllun Corfforaethol. Byddai'n bwysig rheoli'r risg nad oedd maes penodol yn weledol mwyach yn nhrafodaethau cyfarfod y Bwrdd, am fod gan Aelod gysylltiad ag ef.
Croesawodd y Bwrdd yr adroddiad a diolchodd i'r Cwnsler Cyffredinol am bapur defnyddiol ac angenrheidiol.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi canlyniadau'r archwiliad sgiliau a'r hyn a ddysgwyd i'r Bwrdd.
Penderfynwyd: Y cytunodd y Bwrdd y dylai'r Comisiynwyr Joan Walley a Sarah Chambers fod yn Gomisiynwyr cysylltiedig ar gyfer gwaith ar ymwybyddiaeth y cyhoedd. Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu'r ymgyrch ar brawf adnabod pleidleiswyr a dyma ble y byddai mewnbwn Comisiynwyr yn ddefnyddiol.
(Rhoi pleidleiswyr yn gyntaf (Amcan 3 y Cynllun Corfforaethol)).
Penderfynwyd: Y cytunodd y Bwrdd y dylai'r Comisiynwyr Stephen Gilbert ac Alasdair Morgan fod yn Gomisiynwyr Cysylltiedig ar gyfer diweddaru TG y Comisiynydd, sy'n brosiect sylweddol sy'n cael ei gynllunio ac y byddai'n cael budd o brofiadau Comisiynwyr.
(System etholiadol fodern a chynaliadwy a gwaith sylfaenol (Amcanion 7 ac 8 y Cynllun Corfforaethol)).
Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol (EC 104/22)
Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr adroddiad gan nodi rheolau a chyfrifoldebau Comisiynwyr, y Bwrdd a'r Pwyllgorau, ynghyd â'i ddirprwyaethau.
Trafododd y Bwrdd y broses o roi rhagor o ganllawiau ar waith ar wrthdaro buddiannau ar gyfer Comisiynwyr yn y fersiwn nesaf o'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol. Byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cysylltu â Chomisiynwyr i ddrafftio ychydig o frawddegau i gael mwy o eglurder yn y maes hwn.
Penderfynwyd: Y cytunodd y Bwrdd ar y Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol.
Adolygiad o effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn 2020/21 (EC 105/22)
Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr adroddiad ar ganlyniadau'r Cynllun Gweithredu a fabwysiadwyd ym mis Ionawr 2021, yn dilyn adolygiad blynyddol allanol o effeithiolrwydd y bwrdd a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2020
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi y cwblhawyd Cynllun Gweithredu 2020/2021 ac ystyried cynlluniau ar gyfer adolygiadau sydd ar ddod o effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn.
Penderfynwyd: Y cytunodd y Bwrdd y byddai'r Comisiynydd Rob Vincent yn helpu i lywio'r adolygiadau nesaf ar gyfer 2022/23 a 2023/24.
Diweddariad ar safonau perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EC 106/22)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gweinyddu a Chanllawiau Etholiadol yr adroddiad ac ymunodd y Pennaeth Cymorth a Gwella a'r Pennaeth Ymchwil gan roi diweddariad ar y fframwaith safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a'r modd roedd yn cael ei weithredu'n ymarferol.
Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd canlyniadau a gallu deall effaith gweithgareddau Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'n gwaith i'w cynorthwyo a'u herio. Byddai gwaith pellach i wella data a'r modd rydym yn ei ddefnyddio, yn ogystal â chysylltiadau agosach â'n gwaith ymchwil ehangach a gwaith moderneiddio cofrestru etholiadol, yn anelu at sicrhau gwelliannau yn y meysydd hyn.
Nododd y Bwrdd y byddai adroddiad ar gofrestrau 2021 a pherfformiad yn cael ei gyhoeddi yn dilyn etholiadau mis Mai.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r cynnwys a'r cynnydd a wnaed wrth ddefnyddio'r fframwaith i gefnogi a herio Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau cofrestru etholiadol trefnus ledled Prydain Fawr.
Diweddariad ar etholiadau (Ar lafar)
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gweinyddu a Chanllawiau Etholiadol a'r Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil gyflwyniad ar y prif bynciau canlynol:
- Etholiadau a gynhelir ledled y DU ym mis Mai 2022
- Y fframwaith polisi a deddfwriaeth ar gyfer etholiadau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
- Cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg yng Nghymru
- Darparu ein gweithgarwch cefnogi etholiadau ar:
- Arweiniad, cyngor a chymorth
- Cofrestru pleidiau
- Monitro, ymchwilio ac adrodd
- Ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwybodaeth i bleidleiswyr
- Gwybodaeth am etholiadau ac adnodd dod o hyd i orsaf bleidleisio
- Y we a chynnwys cyfryngau cymdeithasol
- Ymgysylltu â'r cyfryngau
Cynhaliodd y Bwrdd drafodaethau ar y cynlluniau peilot a'r modd y dewiswyd y rhain, diogelwch a nifer y bobl iau a bleidleisiodd, yn ogystal â pharatoadau ar gyfer pleidleisio yn Tower Hamlets, materion iechyd y cyhoedd a phrotocolau Covid-19, pleidleisio drwy'r post a'r Post Brenhinol.
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi'r cynnwys yn y cyflwyniad.
Datganiadau blynyddol o fuddiannau (EC 107/22)
Penderfynwyd: Y dylai'r Bwrdd nodi datganiad o fuddiannau'r Comisiynwyr a'r Tîm Gweithredol a'i fod yn fodlon i hwn gael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn.