Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Mercher 20 Rhagfyr 2021
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2021
Amser: 9:30am-1pm
Lleoliad: Drwy gyfrwng fideo-gynadledda
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: dydd Mercher 24 Chwefror 2021
Yn bresennol
- Rob Vincent, Cadeirydd y Cyfarfod
- Sue Bruce - Fel arsylwr cyfranogol hyd nes y daw Gwarant Frenhinol yn cadarnhau'r estyniad i'w chyfnod yn y swydd i law
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Joan Walley
Yn y cyfarfod:
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards , Cyfarwyddwr Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Director, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
- Kieran Rix, Director, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Binnie Goh , Cwnsler Cyffredinol
- David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
- Carol Sweetenham, Pennaeth Prosiectau (eitemau 5 a 6)
- Isabella Coventry, Uwch-gynghorydd, Perfformiad a Mewnwelediad (eitem 6)
- Dan Adamson, Pennaeth Monitro a Gorfodi (eitem 7)
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil a Datblygu (eitem 8)
- Heleen Jarvingh, Cynghorydd Polisi (eitem 8)
- Chantelle Shokar, Cynorthwyydd Cyfreithiol
- Zena Khan, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Croesawodd Cadeirydd y Cyfarfod bawb i'r cyfarfod, gan roi croeso arbennig i Binnie Goh, y Cwnsler Cyffredinol newydd a benodwyd i'r Comisiwn. Mae Binnie yn cymryd yr awenau oddi wrth Rupert Grist, a fu'n cyflawni rôl Cwnsler Cyffredinol Dros Dro dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Cynhaliodd y Bwrdd funud o dawelwch a myfyrdod er cof am Lizzie Tovey, ffrind a chydweithiwr annwyl a fu farw ar Ŵyl San Steffan.
Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd (EC 1/21)
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020.
Diweddariad ar etholiadau (Ar lafar)
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar lafar gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil a'r Cyfarwyddwr Rheoleiddio.
Nodwyd bod gwaith wedi parhau i fynd rhagddo mewn perthynas â deddfwriaeth gan y tair llywodraeth ac o ran cefnogi gweinyddwyr etholiadol i baratoi ar gyfer yr etholiadau.
Nododd y Bwrdd fod arolwg o wybodaeth reoli wedi cael ei gynnal i gasglu amrywiaeth o wybodaeth a data ar y ffordd y caiff etholiadau eu trefnu'n lleol. Mae'r Comisiwn yn gwneud hyn bob blwyddyn ac mae'r arolwg wedi cael ei ehangu eleni i drafod rhai o effeithiau pandemig y coronafeirws ar brosesau cynllunio. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yr hyn sy'n digwydd ym mhob ardal leol ac i lunio darlun mwy cyflawn o'r trefniadau sy'n cael eu rhoi ar waith a'r heriau a'r problemau y rhoddir gwybod amdanynt.
Rydym wedi ymgysylltu â chyflenwyr meddalwedd a gwasanaethau argraffu drwy grŵp cyflenwyr Swyddfa'r Cabinet. O ran cyflenwyr gwasanaethau argraffu yn benodol, nifer yr etholiadau a chymhlethdod cyfuniadau yw prif ffynhonnell yr heriau a wynebir ganddynt, ar y cyd ag effeithiau'r pandemig a'r effeithiau posibl ar argaeledd staff, mannau cynhyrchu a chapasiti. Cafwyd trafodaethau hefyd am gostau a heriau ymarferol datblygu capasiti i'w galluogi i ymateb i gynnydd sydyn yn nifer y pleidleiswyr post yn agos at ddyddiad yr etholiadau.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r Post Brenhinol ynghylch ei baratoadau ar gyfer yr etholiadau, ac mae wedi cadarnhau y bydd yn rhoi blaenoriaeth i bost etholiadol.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil ddiweddariad ar waith ymchwil gyda phleidleiswyr, a oedd yn parhau i ddangos awydd clir ymhlith llawer i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, yn ogystal â chynnydd tebygol yn yr awydd i bleidleisio drwy'r post. Cynhaliwyd gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwybodaeth parhaus, ac mae'r gweithgarwch hwn yn parhau i fynd rhagddo yn unol â chynlluniau, ac mae gweithgarwch ychwanegol wedi'i drefnu er mwyn helpu pleidleiswyr i gymryd rhan yn yr etholiadau o dan amodau diogel o ran COVID-19.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio ddiweddariad i'r Comisiynwyr ar y defnydd o ddata monitro a ffyrdd eraill o gasglu gwybodaeth a fyddai'n arwain ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith. Rhoddodd ddiweddariad hefyd ar yr arolwg sy'n mynd rhagddo i ddeall effaith cyfyngiadau COVID-19 ar gynlluniau ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau.
Cododd y Bwrdd y mater yn ymwneud â phryderon ynghylch diogelwch pleidleisiau drwy'r post. Nodwyd bod canllawiau ar seliau diogelwch yn bodoli ac y byddai gwaith yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r mesurau diogelu sydd ar waith.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r diweddariad ar lafar.
Gwaith cynllunio busnes 2021/22 (EC 2/21)
Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Bwrdd, gan nodi cynllun drafft sy'n seiliedig yn agos ar gynlluniau busnes blaenorol ar gyfer y drafft terfynol.
Trafododd y Bwrdd feysydd o'r cynllun yr oedd angen iddynt fod yn fwy cadarn, gan ystyried sut roeddem wedi cyflwyno ein hunain yn allanol a sut roeddem wedi mesur cynhyrchiant yn ystod y pandemig.
Nododd y Bwrdd y byddai drafft a ddatblygwyd yn llawn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Chwefror.
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo'r dull arfaethedig.
Diweddariad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd: cynllun gweithredu arfaethedig (EC 3/21)
Cyflwynwyd yr adroddiad ar y cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer y Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol yn sgil yr adolygiad a gynhaliwyd gan Advance Boardroom Excellence (ABE).
Nododd y Bwrdd fod yr argymhellion a gynigwyd gan y cwmni ymgynghori yn canolbwyntio ar brosesau gweinyddu yn lle cynnig dull gweithredu mwy strategol.
Trafododd y Bwrdd gwmpas ehangach y matrics sgiliau, gan nodi y dylai fyfyrio'n ehangach ar waith cynllunio ar gyfer olyniaeth ar gyfer Comisiynwyr newydd i gynnwys ystodau oedran iau, profiad o dechnoleg gwybodaeth ac amrywiaeth.
Diolchodd y Bwrdd i'r Comisiynwyr Joan Walley a Sarah Chambers yn ogystal â'r Pennaeth Prosiectau am eu gwaith ar y cynllun hwn.
Cam gweithredu: Y Tîm Gweithredol i wneud rhywfaint o waith paratoi gyda'r Comisiynwyr ar ganfyddiadau thematig yr adroddiad er mwyn darparu sail ar gyfer trafodaethau â'r Cadeirydd newydd.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar y camau gweithredu a'r amserlenni a amlinellwyd yng nghynllun gweithredu effeithiolrwydd y Bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylai'r Tîm Gweithredol wneud rhywfaint o waith paratoi gyda'r Comisiynwyr ar ganfyddiadau thematig yr adroddiad er mwyn darparu sail ar gyfer trafodaethau â'r Cadeirydd newydd.
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo'r penderfyniad i wrthod argymhellion penodol a nodwyd yng nghynllun gweithredu effeithiolrwydd y Bwrdd.
Penderfynwyd: Y byddai'r Pwyllgor Archwilio bellach yn dwyn yr enw Pwyllgor Archwilio a Risg.
Gwella effeithiolrwydd Bwrdd y Comisiwn (EC 4/21)
Cafodd y Bwrdd yr adroddiad yn nodi'r newidiadau posibl i drefniadau llywodraethu i ddatblygu cyfraniad Comisiynwyr anweithredol o ran goruchwylio a chefnogi gwaith y Comisiwn.
Trafododd y Bwrdd waith mwy cydgysylltiedig gyda rhanddeiliaid allanol yn rhanbarthau Lloegr yn benodol er mwyn deall materion allweddol yn well, yn ogystal â gwaith cydweithredol gyda'r Tîm Gweithredol. .
Nodwyd bod y meddylfryd hwn yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer cynllunio gwaith o'r fath ar agendâu'r dyfodol.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r adroddiad.
Penderfynwyd: Y dylid ychwanegu eitem at gynllun gweithredu'r adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd i'w ystyried yn ddiweddarach yn 2021 gan Gadeirydd newydd y Comisiwn a'r Bwrdd.
Penderfynwyd: Hyd nes y caiff Cadeirydd newydd y Comisiwn ei benodi, y dylai'r Bwrdd enwebu cyswllt arweiniol ar gyfer pob un o'r Cyfarwyddwyr yn y cyfamser.
Gwaith Achos a'r Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Ar lafar)
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad gan y Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Phennaeth Monitro a Gorfodi ar y prif faterion allweddol canlynol:
- RoadTrip2015
- BeLeave
- Y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus – cyflwyniad gan y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol
Croesawodd y Bwrdd y cyflwyniad, gan nodi'r ddealltwriaeth yr oedd yn ei gynnig o'r ffordd yr oedd gwersi a ddysgwyd yn cael eu hymgorffori yn null rheoleiddiol y Comisiwn.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r cyflwyniad.
Sganio'r gorwel (EC 5/21)
Cafodd y Bwrdd adroddiad ar waith a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r nod o roi gwybodaeth ychwanegol i'r Comisiwn am y ffordd y gallai tueddiadau a datblygiadau newydd herio polisïau ac arferion presennol mewn perthynas ag etholiadau.
Croesawodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed yn y maes gwaith hwn, a'r ffaith y bydd y cynnydd hwn yn galluogi cyfraniadau at waith cynllunio strategol a rheoli risgiau'r Bwrdd ar gyfer y dyfodol. Gofynnodd am i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd ac agweddol gael sylw priodol wrth i'r dull gweithredu hwn gael ei ddatblygu ymhellach.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r adroddiad.
Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol (EC 6/21)
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol ddiweddariad cryno ar gyfarfod diwethaf y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020, a oedd yn ymdrin â'r canlynol:
- Adborth gan staff
- Strategaeth pobl
- Gwaith ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Ymarfer meincnodi cyflogau
Penderfynwyd: Y dylid nodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020 a gymeradwywyd gan Gadeirydd y Pwyllgor a'r diweddariad ar lafar.
Y Pwyllgor Archwilio (EC 7/21)
Nid oedd gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio unrhyw ddiweddariadau pellach ers y diweddariad diwethaf a gafwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ar 2 Rhagfyr 2020.
Penderfynwyd: Y dylid nodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2020 a gymeradwywyd gan Gadeirydd y Pwyllgor.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 8/21)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, gan dynnu sylw at yr adroddiad ar Fwlio ac Aflonyddu a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2020, effaith pandemig y coronafeirws ar waith y Comisiwn, a recriwtio Comisiynwyr.
Diolchodd y Bwrdd i'r Prif Weithredwr a'r timau am y diweddariad cynhwysfawr.
Penderfynwyd: Y dylid nodi'r adroddiad.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn (EC 9/21)
Cam gweithredu: Yr eitem adroddiad at wraidd y mater ar risg ariannol i barhau ar agor hyd nes y caiff dyddiad ei bennu ac y caiff Blaengynllun busnes y Bwrdd ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn.
Penderfynwyd: Y dylid nodi system olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn gyda'r cafeat uchod.
Blaengynllun busnes y Bwrdd (EC 10/21)
Gofynnodd y Comisiynwyr am i drafodaeth ar ffyrdd o sicrhau bod y Bwrdd yn dod i gysylltiad â mathau o etholwyr nad yw cyfansoddiad y Bwrdd yn eu hadlewyrchu gael ei threfnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cam gweithredu: Trafodaeth am ffyrdd o sicrhau bod y Bwrdd yn dod i gysylltiad â mathau o etholwyr nad yw cyfansoddiad y Bwrdd yn eu hadlewyrchu i gael ei gynnwys ym Mlaengynllun busnes y Bwrdd.
Penderfynwyd: Y dylid nodi Blaengynllun busnes y Bwrdd.