Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Datgan canlyniad

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn datgan bod yr ymgeisydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau wedi ei ethol.

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhoi hysbysiad cyhoeddus o’r canlyniad.  

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi hysbysiad gydag enw pob ymgeisydd a etholwyd, y nifer o bleidleisiau i bob ymgeisydd, a’r nifer o bapurau pleidleisio a wrthodwyd.

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn caniatáu i ymgeiswyr annerch ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan. Cadarnhewch y trefniadau gyda’ch Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Dylech sicrhau eich bod chi a'ch cefnogwyr yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Swyddog Canlyniadau ynghylch y safonau ymddygiad sy'n ofynnol yn ystod cyhoeddiadau llafar.

Beth fydd yn digwydd i'r gwaith papur ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan?

Rhaid i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) selio holl ddogfennau’r etholiad, ac ychwanegu disgrifiad o gynnwys pob pecyn. Yng Nghymru a Lloegr, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn eu hanfon ymlaen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Yn yr Alban, mae’r dogfennau’n cael eu cadw gan y Swyddog Canlyniadau.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan yn ein canllawiau ar beth sy'n digwydd i waith papur yr etholiad ar ôl datgan y canlyniad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Rhagfyr 2024