Cod Ymarfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

Beth yw’r gofynion ar hysbysu ac adrodd?

Trothwy hysbysu

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig neu etholiad i Gynulliad Gogledd Iwerddon gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn16 . Enw’r Comisiwn ar hyn yw’r ‘trothwy hysbysu’.

Ymgyrchwyr di-blaid cymwys

Dim ond unigolion neu sefydliadau a ddisgrifir yn adran 88(2) o Ddeddf 2000 sy’n gymwys i gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn. 

Gwaherddir sefydliadau rhag cofrestru fel ymgyrchydd di-blaid ac fel plaid wleidyddol17 .

Ni chaniateir i ymgyrchwyr di-blaid wario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir oni bai eu bod:

  • yn gymwys i roi hysbysiad i’r Comisiwn yn rhinwedd adran 88(2) o Ddeddf 2000, neu 
  • yn gymdeithas anghorfforedig sydd â’r cysylltiad angenrheidiol â’r Deyrnas Unedig18  

Mae gan gymdeithas anghorfforedig ‘y cysylltiad angenrheidiol â’r Deyrnas Unedig’ os yw’n cynnwys dau berson neu fwy, a phob un ohonynt yn etholwyr tramor cofrestredig19 . Gweler yr adran ar unigolion a sefydliadau o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae ymgyrchydd di-blaid y caniateir iddo wario mwy na £700 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn cael gwario hyd at £10,000 ar draws y Deyrnas Unedig heb hysbysu’r Comisiwn20 .

Cyn gwario mwy na £10,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ledled y Deyrnas Unedig, rhaid i ymgyrchydd di-blaid gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn21 . Nid yw cymdeithas anghorfforedig sydd â’r cysylltiad angenrheidiol â’r Deyrnas Unedig yn gymwys i gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn ac felly ni chaniateir iddi wario mwy na £10,000.

Efallai y bydd ymgyrchwyr di-blaid sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd yn bodloni’r trothwy hysbysu o ganlyniad i’r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd, a hynny heb achosi gwariant uniongyrchol eu hunain. Gweler yr adran ar ymgyrchu ar y cyd.

Trothwyon adrodd 

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n gwario mwy nag: 

  • £20,000 yn Lloegr, neu
  • £10,000 yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

gofnodi eu gwariant a’u rhoddion a chyflwyno adroddiad arnynt22 . Mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘drothwyon adrodd’. Maen nhw wedi’u diffinio fel y ‘lower tier spending limits’ yn Neddf 200023 .

Hysbysu’r Comisiwn

Mae pob ymgyrchydd di-blaid sy’n cyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn yn dod o dan y gofynion adrodd pan fydd eu gwariant yn cyrraedd y trothwyon adrodd. 

Caiff ymgyrchwyr di-blaid sy’n cyrraedd y trothwy hysbysu ond nad ydynt yn bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd, gyflwyno datganiad i’r perwyl hwnnw24 .

Os na fydd datganiad yn cael ei wneud gan yr ymgyrchydd di-blaid adeg hysbysu, bydd yr ymgyrchydd di-blaid yn dod o dan y gofynion adrodd os yw’n cyrraedd y trothwyon adrodd25 .

Efallai y bydd ymgyrchwyr di-blaid sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd yn bodloni’r trothwy adrodd o ganlyniad i’r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd, a hynny heb achosi gwariant uniongyrchol eu hunain. Gweler yr adran ar ymgyrchu ar y cyd.

Ymgyrchwyr di-blaid nad ydynt yn dod o dan y gofynion adrodd

Nid yw’n ofynnol i ymgyrchwyr cofrestredig di-blaid sy’n cynnwys datganiad nad ydynt yn bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd gyflwyno adroddiad am eu gwariant na’u rhoddion cyn belled ag nad yw eu gwariant yn uwch na’r trothwyon adrodd. Maen nhw’n dal yn dod o dan y gyfraith ar ganiatáu rhoddion.

Unwaith y bydd ymgyrchydd di-blaid wedi’i gofrestru, caiff dynnu yn ôl ei ddatganiad nad yw’n bwriadu gwario mwy na’r trothwyon adrodd os bydd ei fwriadau o ran gwariant yn newid ar ôl cofrestru26

Mae’n drosedd achosi gwariant a reolir sy’n uwch na’r trothwyon adrodd os yw’r ymgyrchydd di-blaid wedi hysbysu’r Comisiwn na fyddai’n gwario mwy na’r terfynau hynny27 . Byddai unrhyw ymgyrchydd di-blaid sy’n gwneud hynny hefyd yn dod o dan y gofynion ynglŷn ag adroddiadau28 .

Y terfyn gwariant uchaf i ymgyrchwyr di-blaid

Mae yna derfynau gwariant sy’n cyfyngu’r cyfanswm y caiff ymgyrchydd di-blaid ei wario ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn ystod cyfnod a reoleiddir. Mae’r terfynau gwariant hyn yn amrywio gan ddibynnu ar yr etholiad penodol ac fe’u nodir yn Atodlen 10 i Ddeddf 2000.

Y gofynion ar adroddiadau

Rhaid i bob ymgyrchydd di-blaid cofrestredig gydymffurfio â’r cyfreithiau ar wario a derbyn rhoddion. Dim ond ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwyon adrodd sy’n gorfod cyflwyno adroddiad ar eu gwariant a’u rhoddion.

Gwariant hyd at £250,000

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwyon adrodd ac sy’n gwario hyd at £250,000 gyflwyno ffurflen gwariant sy’n manylu ar eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ac unrhyw roddion sy’n dod i law er mwyn talu am wariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir29  Rhaid i’r ffurflen gwariant gael ei chyflwyno i’r Comisiwn o fewn tri mis ar ôl diwedd y cyfnod a reoleiddir sy’n berthnasol.

Mwy na £250,000

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n gwario mwy na £250,000 ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno ffurflen gwariant sy’n manylu ar eu gwariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ac unrhyw roddion sy’n dod i law er mwyn talu am wariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Yn ychwanegol, rhaid cael adroddiad archwilwyr i gyd-fynd â’r ffurflen gwariant30 . Rhaid i’r ffurflen gwariant ynghyd ag adroddiad archwilwyr gael eu cyflwyno i’r Comisiwn o fewn chwe mis ar ôl diwedd y cyfnod a reoleiddir sy’n berthnasol.

Cyflwyno adroddiadau ar roddion

Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig y mae’n ofynnol iddyn nhw gyflwyno ffurflen gwariant gynnwys unrhyw roddion sy’n dod i law er mwyn talu am wariant ar weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir31 . Gweler yr adran ar roddion.

Etholiadau cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig

Pan fydd tymor Senedd y Deyrnas Unedig yn mynd i mewn i’w bedwaredd flwyddyn, rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwy adrodd gyflwyno adroddiadau chwarterol ar roddion i’r Comisiwn32 .

Rhaid i’r adroddiad chwarterol gynnwys manylion yr holl roddion adroddadwy. Os nad yw ymgyrchydd di-blaid wedi cael unrhyw roddion adroddadwy yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol, does dim angen adroddiad chwarterol33 .

Yn y cyfnod rhwng diddymu’r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a’r diwrnod pleidleisio, rhaid i ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig gyflwyno adroddiadau wythnosol ar roddion i’r Comisiwn hefyd34 . Rhaid i’r adroddiad wythnosol ar roddion gynnwys manylion unrhyw roddion perthnasol sydd wedi dod i law sy’n werth mwy na £7,500 (‘rhodd sylweddol’)35 .

Os na fydd ymgyrchydd di-blaid cofrestredig yn cael unrhyw roddion sylweddol yn ystod y cyfnod adrodd perthnasol, does dim angen adroddiad wythnosol36 .

Does dim angen adroddiadau wythnosol oddi wrth ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy adrodd.

Datganiad cyfrifon

Rhaid i ymgyrchydd di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwy adrodd mewn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer y cyfnod a reoleiddir oni bai:

  • mai unigolyn yw’r ymgyrchydd di-blaid
  • bod yr ymgyrchydd di-blaid wedi paratoi datganiad cyfrifon at ddiben cyfreithiol arall sy’n ymdrin â’r cyfnod a reoleiddir37

Atodiad B

Diffiniadau a thermau allweddol

Defnyddir y termau a ganlyn yn y Cod hwn fel y maen nhw wedi’u diffinio yn y ddeddfwriaeth.

Yn y Cod hwn mae’r diffiniadau a ganlyn yn gymwys:

Achosi

Ystyr achosi yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. 

Costau

Mae i costau ei ystyr gyffredin o draul eitem neu draul sy’n gysylltiedig ag eitem. Mae’n cynnwys y swm priodol sydd i’w drin fel pe bai wedi’i achosi gan yr ymgyrchydd di-blaid o dan y rheolau ar wariant tybiannol.

Cyfnod a reoleiddir

Ystyr cyfnod a reoleiddir yw’r ‘relevant period’ ar gyfer etholiad fel y’i nodir yn Atodlen 9A o Ddeddf 2000.

Etholiad perthnasol

Ystyr etholiad perthnasol yw’r etholiadau hynny a nodir yn adran 22 o Ddeddf 2000:

  • etholiadau i Senedd y Deyrnas Unedig 
  • etholiadau i Senedd yr Alban
  • etholiadau i Senedd Cymru
  • etholiadau i Gynulliad Gogledd Iwerddon
  • etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • etholiadau llywodraeth leol 
  • etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon.

Ffurflen gwariant

Ystyr ffurflen gwariant yw ffurflen gwariant a reolir gan ymgyrchydd di-blaid cofrestredig yn unol â’r gofyniad o dan adran 96 o Ddeddf 2000.

Gwariant a reolir

Mae i gwariant a reolir yr un ystyr ag sydd i controlled expenditure yn adran 85 o Ddeddf 2000.

Gwariant tybiannol

Mae i gwariant tybiannol yr un ystyr ag sydd i notional expenditure yn adran 86 o Ddeddf 2000.

Gwariant ymgyrch

Mae i gwariant ymgyrch yr un ystyr ag sydd i campaign expenditure yn adran 72 o Ddeddf 2000.

Plaid wleidyddol

Ystyr plaid wleidyddol yw plaid sydd wedi’i chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

Rhodd

Mae i rhodd yr un ystyr ag sydd i donation yn Atodlen 11 i Ddeddf 2000.

Swm priodol

Mae i swm priodol yr un ystyr ag sydd i appropriate amount yn adran 86 o Ddeddf 2000.

Trothwy adrodd

Ystyr trothwy adrodd yw’r ‘lower tier spending limits’ a ddiffinnir yn adran 85(5B) ac a nodir yn adran 94(5) o Ddeddf 2000, sef £20,000 yn Lloegr a £10,000 ar gyfer pob un o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Ymgeisydd

Ystyr ymgeisydd yw ymgeisydd mewn etholiad perthnasol o dan adran 22 o Ddeddf 2000.

Ymgyrchydd di-blaid

Ystyr ymgyrchydd di-blaid yw unigolyn neu sefydliad sy’n ymgyrchu ynglŷn ag etholiadau heb sefyll ymgeiswyr eu hunain. Yn Neddf 2000, cyfeirir at ymgyrchwyr di-blaid fel ‘third parties’.

Ymgyrchydd di-blaid cofrestredig

Ystyr ymgyrchydd di-blaid cofrestredig yw ymgyrchydd di-blaid sydd ar y gofrestr a gedwir gan y Comisiwn yn unol â hysbysiad a roddwyd i’r Comisiwn o dan adran 88 o Ddeddf 2000.  Cyfeirir at ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig fel ‘recognised third parties’ yn Neddf 2000 (gweler adran 88 i gael y diffiniad statudol). 

Ymgyrchoedd cyffredinol

Ymgyrchoedd cyffredinol yw ymgyrchoedd sy’n bodloni’r diffiniad yn adran 85(2)(b) o Ddeddf 2000 ac sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ran 6 ohoni; mae’r ymgyrch o blaid neu yn erbyn un neu ragor o bleidiau gwleidyddol; pleidiau neu ymgeisydd sy’n cefnogi neu nad ydyn nhw’n cefnogi polisïau penodol; neu gategori arall o ymgeiswyr

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Ebrill 2023

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023