Ffynonellau a ganiateir
Rhannu'r dudalen hon:
Summary
Gall unrhyw un gyflwyno rhodd neu fenthyciad i blaid wleidyddol, unigolyn neu sefydliad arall. Nid oes unrhyw derfyn ar faint y gall rhywun ei gyflwyno os yw'n ffynhonnell a ganiateir.
Y blaid wleidyddol, yr unigolyn neu'r sefydliad arall sy'n gyfrifol am gadarnhau a yw'r ffynhonnell yn un a ganiateir, a ph'un a all dderbyn y rhodd ai peidio.
Ffynonellau a ganiateir ym Mhrydain Fawr
Ym Mhrydain Fawr, y canlynol yw'r ffynonellau a ganiateir:
- unigolion sydd wedi'u cofrestru ar un o gofrestrau etholwyr y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a'r rhai sy'n gadael cymynroddion
- y rhan fwyaf o gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn y DU
- pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr
- undebau llafur sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- cymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'u cofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithasau llesiant sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- cymdeithasau anghorfforedig sydd wedi'u lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
- rhai mathau o ymddiriedolaeth a chronfeydd cyhoeddus penodol
Os bydd rhywun yn talu am gostau rhesymol ymweliad dramor, ystyrir ei fod yn rhoddwr a ganiateir
Ffynonellau a ganiateir yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, y canlynol yw'r ffynonellau a ganiateir:
- unigolion sydd wedi'u cofrestru ar un o gofrestrau etholwyr y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a'r rhai sy'n gadael cymynroddion
- y rhan fwyaf o gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn y DU
- pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- undebau llafur sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- cymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'u cofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithasau llesiant sydd wedi'u cofrestru yn y DU
- cymdeithasau anghorfforedig sydd wedi'u lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
- dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon (gan gynnwys cymynroddion)
- y rhan fwyaf o gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon
- pleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon
- undebau llafur sydd wedi'u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon
- cymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon
- partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon ac sy'n cynnal busnes yng Ngweriniaeth Iwerddon
- cymdeithasau llesiant sydd wedi'u cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon
- cymdeithasau anghorfforedig sydd wedi'u lleoli yng Ngweriniaeth Iwerddon ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yng Ngweriniaeth Iwerddon
- rhai mathau o ymddiriedolaeth a chronfeydd cyhoeddus penodol
Os bydd rhywun yn talu am gostau rhesymol ymweliad dramor, ystyrir ei fod yn rhoddwr a ganiateir.