Rhoddion a benthyciadau
Summary
Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill ac unigolion roi gwybod am roddion perthnasol maent wedi’u derbyn a benthyciadau maent wedi ymrwymo iddynt. Rydym yn cyhoeddi'r holl wybodaeth a gawn ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.
Mae'r rheolau ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth hon yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Ar hyn o bryd, nid yw’r ddeddfwriaeth yn caniatáu inni gyhoeddi unrhyw wybodaeth am roddion a benthyciadau ers cyn 1 Gorffennaf 2017.
Data yn yr adran hon
Rhoi rhodd neu fenthyciad
Dim ond gan ffynonellau a ganiateir y gall pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill ac unigolion dderbyn rhoddion ac ymrwymo i fenthyciadau. Does dim cyfyngiad ar werth y rhoddion a’r benthyciadau y gellir eu derbyn.
Y blaid wleidyddol, yr unigolyn neu'r sefydliad arall sy'n gyfrifol am gadarnhau a yw'r rhodd neu fenthyciad o ffynhonnell a ganiateir, a ph'un a allant dderbyn y rhodd neu’r benthyciad ai peidio.
Pan fydd pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr neu sefydliadau eraill ac unigolion yn cael rhodd neu fenthyciad, rhaid iddynt wneud y canlynol:
- cofnodi gwybodaeth am y rhodd neu'r benthyciad, megis y swm a phwy a'i rhoddodd
- cadarnhau ffynhonnell y rhodd neu'r benthyciad, a phenderfynu a yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir
- penderfynu a ddylid cadw neu ddychwelyd y rhodd neu'r benthyciad, yn dibynnu ar y ffynhonnell
- rhoi gwybod i ni amdano, os yw'n fwy na'r swm adroddadwy neu os ydynt wedi'i ddychwelyd
Gall rhai pleidiau gwleidyddol hefyd gael taliad grant gennym, a chyllid gan gyrff seneddol. Gelwir hyn yn arian cyhoeddus. Rhagor o wybodaeth am yr arian cyhoeddus y gall pleidiau gwleidyddol ei gael.
Adrodd am rodd neu fenthyciad
Pleidiau gwleidyddol
Rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod i ni am roddion a benthyciadau sydd uwchlaw neu sy'n gwneud cyfanswm uwchlaw'r canlynol:
- £11,180 i'r blaid ganolog (neu fwy na £2,230 os bydd y rhoddwr neu'r benthyciwr yn rhoi eto yn ystod y flwyddyn galendr)
- £2,230 i unedau cyfrifyddu (adrannau o blaid nad yw eu cyllid wedi'i reoli'n uniongyrchol gan bencadlys y blaid)
Unigolion
Rhaid i unigolion sy’n aelodau o bleidiau gwleidyddol neu’n ddeiliaid swyddi etholedig roi gwybod i ni am roddion a benthyciadau sydd uwchlaw neu sy'n gwneud cyfanswm uwchlaw £2,230.
Mae gan Aelodau Seneddol ac Aelodau Senedd yr Alban eu prosesau eu hunain ar gyfer rhoi gwybod am roddion a benthyciadau y maent wedi'u derbyn. Fodd bynnag, os byddant yn dychwelyd rhodd neu fenthyciad am nad yw'n dod o ffynhonnell a ganiateir, rhaid iddynt roi gwybod i ni amdano.
Rhaid i Aelodau Senedd Cymru ac Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac unrhyw unigolion eraill a reoleiddir roi gwybod am roddion a benthyciadau y maent wedi'u derbyn neu eu dychwelyd i ni.
Sefydliadau eraill
Mae Cymdeithasau Aelodau yn rhoi gwybod i ni am roddion a benthyciadau maent yn eu cael sydd dros £11,180.
Rhaid i gymdeithasau anghorfforedig sy'n rhoi mwy na £37,270 i blaid wleidyddol, unigolyn neu sefydliad arall mewn blwyddyn gofrestru â ni, a rhoi gwybod am yr hyn y maent yn ei roi.
Pryd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth
Rhoddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am roddion a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol bedair gwaith y flwyddyn, fel arfer ar ddechrau:
- Mawrth
- Mehefin
- Medi
- Rhagfyr
Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:
- y blaid wleidyddol a dderbyniodd y rhodd neu'r benthyciad
- swm y rhodd neu'r benthyciad
- pwy a gyflwynodd y rhodd, gan gynnwys ei enw a'i statws (megis unigolyn neu gwmni), neu a oedd yn arian cyhoeddus
Rhoddion a benthyciadau i unigolion a sefydliadau eraill a reoleiddir
Mae’n rhaid i unigolion a sefydliadau eraill a reoleiddir roi gwybod i ni o fewn 30 diwrnod o dderbyn rhodd neu fenthyciad. Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth bob mis ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.