Sut caiff pleidiau gwleidyddol eu cofrestru
Rhannu'r dudalen hon:
Sut caiff pleidiau gwleidyddol eu cofrestru
Mae pleidiau gwleidyddol yn hanfodol i ddemocratiaeth iach. Mae’r Comisiwn yn cynnal cofrestrau pleidiau gwleidyddol - un ar gyfer Prydain Fawr, ac un ar gyfer Gogledd Iwerddon. I gofrestru, rhaid i bleidiau gwleidyddol ddangos eu bod wedi eu sefydlu i allu bodloni rhwymedigaethau’r gyfraith etholiadol. Ac er mwyn i bleidleiswyr allu marcio eu papur pleidleisio â hyder, ni all pleidiau ddefnyddio enwau, disgrifiadau neu arwyddluniau sy’n sarhaus, camarweiniol, neu ddryslyd.
Wyddech chi?
Wyddech chi?
- Gall pleidiau ond cael eu cofrestru os caiff ymgeiswyr y blaid eu cyflwyno i gymryd rhan mewn etholiadau. Fel arall, gall ymgeiswyr sefyll fel ymgeiswyr annibynnol, ac nid oes angen i’r rheiny gofrestru plaid wleidyddol i sefyll etholiad.
- Unwaith y bydd wedi ei chofrestru, gall enw, disgrifiad ac arwyddlun plaid ymddangos ar y papur pleidleisio ochr yn ochr ag enw ei hymgeisydd
- Unwaith y bydd wedi ei chofrestru, mae gan blaid gyfrifoldebau cyfreithiol yn ôl cyfraith etholiadol, megis adrodd data ariannol i’r Comisiwn.
- Os gwrthodwn gais plaid, byddwn yn dweud wrth y blaid, a gall y blaid wneud cais arall.
- Gellir cyflwyno ceisiadau i gofrestru plaid ar-lein - bydd ein canllawiau’n helpu gyda’r broses.
- Ein nod yw dod i benderfyniad ynghylch ceisiadau cofrestru mor fuan â phosib. Aseswn bob cais yn ofalus yn erbyn y profion cyfreithiol.
I gofrestru plaid, mae angen y canlynol arnom:
- ffurflen gais gyflawn a ffi o £150
- copi o gyfansoddiad y blaid sy’n nodi ei strwythur a’i threfniadaeth
- copi o gynllun ariannol y blaid sy’n dangos bod ganddi brosesau ar waith i gydymffurfio â chyfreithiau cyllid gwleidyddol
- manylion o leiaf ddau swyddog, y mae rhaid iddynt lenwi rolau’r arweinydd cofrestredig, y trysorydd, a’r swyddog enwebu
Y broses gofrestru
- Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol, a rhaid i gais cofrestru gael ei gyflwyno i’r Comisiwn i’w asesu yn erbyn y profion statudol
- Rhaid i strwythur, trefniadaeth, a phrosesau ariannol y blaid fod wedi eu pennu, a rhaid dangos bod y blaid yn gallu cydymffurfio â chyfraith etholiadol.
- Nid yw cofrestru’n awtomatig. Mae’r Comisiwn yn asesu p’un a yw cais a marciau adnabod y blaid yn bodloni’r meini prawf a nodir mewn cyfraith etholiadol, yn ogystal â rhwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfreithiau cydraddoldeb
- Fel rhan o’r broses asesu hon, rydym yn cyhoeddi marciau adnabod y blaid fel y gall aelodau’r cyhoedd roi sylwadau arnynt. Gellir cyflwyno safbwyntiau ar y dudalen hon ar ein gwefan
- Bydd y Comisiwn hefyd yn asesu p’un a yw cyfansoddiad y blaid yn gyson â chyfraith etholiadol, a bod y cynllun ariannol wedi ei mabwysiadu, gan ddangos bod gan y blaid brosesau ar waith i gydymffurfio â chyfraith etholiadol
- Mae gwahanol brofion cyfreithiol ar gyfer enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau. Er enghraifft, ar gyfer enwau pleidiau, rydym yn ystyried a yw’r enw’n rhy hir, yn sarhaus neu dramgwyddus, neu a allai gamarwain pleidleiswyr, rhwystro cyfarwyddiadau o ran pleidleisio, neu ddrysu pleidleisiwr
- Er mwyn cofrestru, gofynnwn, o’r hyn lleiaf, fod y cais yn gyflawn, bod y cyfansoddiad a’r cynllun ariannol yn cydymffurfio â’r gofynion angenrheidiol, a bod enw’r blaid yn bodloni’r profion cyfreithiol
- Unwaith y bydd y broses asesu wedi ei chwblhau, ac unwaith y bydd y sylwadau cyhoeddus wedi eu hystyried, gwneir penderfyniad gan y Cyfarwyddwr Rheoleiddio p’un a yw’r blaid i gael ei chofrestru. Yn yr Alban, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban fydd yn gwneud y penderfyniad.
- Os caiff y cais i gofrestru plaid ei gymeradwyo, caiff y gofrestr pleidiau gwleidyddol gyhoeddus ei diweddaru gyda’r manylion. Rhaid i’r blaid ddilyn y rheolau cyllid gwleidyddol sy’n sicrhau unionder a thryloywder y system. Darparwn ganllawiau a all helpu’r blaid i fodloni ei chyfrifoldebau, a gall y blaid gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau
- Os gwrthodir y cais i gofrestru plaid, bydd y Comisiwn yn hysbysu’r ymgeisydd ynghylch y rhesymau dros ei wrthod. Gall yr ymgeisydd wneud cais arall, a byddwn yn gweithio gyda nhw i oresgyn unrhyw anawsterau cofrestru, a’u galluogi i gofrestru. Mae’n debyg y bydd angen ffi newydd ar gyfer cais newydd.