Guidance for Candidates at Parish council elections in England

Rhannu gwariant

Weithiau, efallai y bydd angen i chi rannu eich costau rhwng gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r rhai nad ydynt yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd.

Er enghraifft, rhwng:

  • eitemau a ddefnyddiwyd cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
  • eich gwariant ar yr ymgyrch a gweithgareddau eraill fel swyddfa rydych yn ei rhannu â'ch plaid leol 

Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gwariant fel ymgeisydd.

Er enghraifft, os ydych yn rhannu swyddfa plaid, efallai mai dim ond dadansoddiad o gostau galwadau dros werth penodol y gall eich bil ffôn ei ddarparu.

Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest ar sail y wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, gallech gymharu'r bil ag un nad yw'n cwmpasu cyfnod a reoleiddir.  

Chi sy'n gyfrifol am roi gwybodaeth lawn a chywir am eich gwariant ymgeisydd. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.

Ar ôl yr etholiad, bydd yn rhaid i chi lofnodi datganiad i ddatgan ei bod yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a'ch cred. 1

Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir a hynny'n fwriadol. 2

Os ydych yn dal yn ansicr, ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael cyngor.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Rhagfyr 2023