Gwariant ymgeisydd yw gwariant ar weithgareddau i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth, neu i feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod y cyfnod 1
a reoleiddir.
Er mwyn iddo fod yn wariant ymgeisydd, rhaid iddo:
• fod yn weithgarwch ar restr o fathau o dreuliau etholiad • hyrwyddo'r ymgeisydd 2
Pan fyddwch wedi penderfynu bod rhywbeth yn wariant ymgeisydd, bydd angen i chi benderfynu sut y dylid rhoi gwybod amdano. Gall fod yn:
• wariant arferol y mae'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd iddo • gwariant tybiannol, lle caiff rhywbeth ei ddarparu i chi a'ch bod yn ei ddefnyddio yn eich ymgyrch • ymgyrchu lleol, lle bydd rhywun heblaw'r ymgeisydd neu'r asiant yn mynd i wariant
Mae'r tudalennau canlynol yn cynnwys manylion y gweithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a'r ffyrdd gwahanol yr eir i'r gwariant.