Gwerthusiad Wythnos Croeso i Dy Bleidlais – cystadleuaeth am ddim

Telerau ac amodau’r gystadleuaeth am ddim

  1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bob ysgol, coleg, prifysgol neu grŵp ieuenctid sydd wedi cwblhau arolwg gwerthuso Wythnos Croeso i Dy Bleidlais.
  2. Mae mynediad am ddim i'r gystadleuaeth hon. Ar ôl cwblhau'r arolwg adborth a thrwy nodi'ch manylion cyswllt, byddwch yn cael eich cynnwys yn y gystadleuaeth yn awtomatig.
  3. Rhaid cyflwyno pob ymateb i'r arolygon trwy'r ddolen Survey Monkey a ddarperir a dim ond un cais a ganiateir i bob ysgol.
  4. Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw hanner nos ar 6 Ebrill 2025. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth ond byddant yn dal i gael eu hystyried fel rhan o'r prosiect gwerthuso.
  5. Os bydd amhariad technegol, nam neu fethiant gwefan yn digwydd am unrhyw reswm wrth gyflwyno ceisiadau, nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gyflwyniadau a fethwyd neu gyflwyniadau anghyflawn, ac ni fydd unrhyw gyflwyniadau anghyflawn yn cael eu hystyried yn ddilys ar gyfer cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  6. Bydd enillydd yn cael ei ddewis ar hap o fewn mis i'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion i'r arolwg.
  7. Bydd yr enillydd yn derbyn £500 tuag at adnoddau o'ch dewis.
  8. Bydd yr enillydd yn cael gwybod drwy e-bost o fewn saith diwrnod i'r gystadleuaeth.
  9. Mae penderfyniad y Comisiwn Etholiadol ynghylch unrhyw agwedd ar y gystadleuaeth yn derfynol ac yn rhwymol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ei gylch.
  10. Bydd enw a sir y sefydliad buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol o fewn 14 diwrnod i’r gystadleuaeth. Os ydych yn gwrthwynebu cyhoeddi enw eich ysgol, cysylltwch â'r Comisiwn Etholiadol.
  11. Ystyrir bod cyfranogwyr wedi derbyn a chytuno i gael eu rhwymo gan y telerau ac amodau hyn wrth gymryd rhan. Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cadw’r hawl i wrthod sefydliad rhag cymryd rhan, neu i wrthod dyfarnu’r wobr i unrhyw un sy’n torri’r telerau ac amodau hyn.
  12. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cadw'r hawl i ddirymu, canslo, atal, neu ddiwygio'r hyrwyddiad lle bo angen gwneud hynny.
  13. Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd a bydd ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn a Pholisi Preifatrwydd y Comisiwn Etholiadol. Gweler hefyd amod 10 ynghylch cyhoeddi enillwyr.
  14. Trwy gystadlu, rydych yn cytuno y gall unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych gyda'ch cais gael ei chadw a'i defnyddio gan y Comisiwn Etholiadol neu ei asiantiaid a’i gyflenwyr i weinyddu'r gystadleuaeth.
  15. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei llywodraethu gan gyfraith Lloegr ac mae ymgeiswyr y gystadleuaeth yn ymrwymo i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.
  16. Mae'r gystadleuaeth hon yn cael ei hyrwyddo gan y Comisiwn Etholiadol, 3 Bunhill Row, Llundain EC1Y 8YZ.