Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Comisiwn Etholiadol
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.electoralcommission.org.uk/cy.
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan y Comisiwn Etholiadol. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd o’r golwg ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 safon AA.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- llenwch ein ffurflen cysylltu â ni
- ffoniwch 0333 103 1928
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd:
- cwblhewch y ffurflen adborth ar y dudalen lle daethoch o hyd i'r broblem
- llenwch ein ffurflen cysylltu â ni
- ffoniwch 0333 103 1928
Gallwch hefyd e-bostio’r tîm Cyfathrebu Digidol ac Ymgysylltu â Phleidleiswyr yn uniongyrchol.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth trosi testun i bobl F/fyddar, pobl â nam ar eu clyw neu bobl sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae dolenni sain ar gael yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni ymlaen llaw gallwn drefnu cyfieithydd BSL (Iaith Arwyddion Prydain) ar eich cyfer.
Y weithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych wedi'ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn anhapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2 safon AA .
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 28/02/2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 31/07/2024.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 31/07/2024. Cafodd y prawf ei gynnal gan Zoonou.
Defnyddiodd Zoonou WCAG-EM i ddiffinio'r tudalennau a brofwyd a'r dull profi.