Endidau a reoleiddir
Sail gyfreithiol dros brosesu data
Nodir ein swyddogaethau rheoleiddio yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae'r swyddogaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gasglu a phrosesu data personol. Gwnawn hyn o dan y sail gyfreithiol bod angen i ni brosesu'r data er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus fel y nodir yng nghyfraith y DU. Er enghraifft, cynnal cofrestr o bleidiau gwleidyddol ledled y DU a chyhoeddi rhoddion a benthyciadau.
Mae endidau a reoleiddir yn cynnwys pleidiau gwleidyddol, pleidiau llai, ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, cyfranogwyr a ganiateir, derbynwyr rheoledig a chymdeithasau anghorfforedig.
Pa wybodaeth a gesglir gennym a pham
Cofrestru pleidiau gwleidyddol a chynnal y gofrestr pleidiau
Wrth gofrestru, mae angen i endidau a reoleiddir roi rywfaint o wybodaeth i ni am eu sefydliad. Bydd y wybodaeth y mae angen i'r endid ei darparu yn dibynnu ar ba fath o endid ydyw a pha fath o gais y mae'n ei wneud.
Er enghraifft, gan ddibynnu ar yr endid a'r cais, gall y wybodaeth angenrheidiol gynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol:
- cynllun ariannol
- cyfansoddiad
- enwau a chyfeiriadau'r unigolion fydd yn cyflawni'r rolau sydd eu hangen yn unol â'r ddeddfwriaeth
- enwau cyfranogwyr eraill sy'n ymwneud â'r endid fel sy'n ofynnol yn unol â'r ddeddfwriaeth
- cyfeiriad yr endid
Gallwn hefyd ofyn i'r endid a reoleiddir ddarparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'i gais er mwyn i ni allu cyflawni ein tasg gyhoeddus fel y nodir yng nghyfraith y DU.
Efallai y bydd angen i rai endidau gadarnhau eu manylion cofrestru bob blwyddyn a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'w manylion cofrestru yn ystod y flwyddyn er mwyn i ni allu sicrhau bod y wybodaeth a ddelir gennym, gan gynnwys gwybodaeth am unigolion, yn gywir. Mae hyn yn gwella cywirdeb y gofrestr ac yn golygu y gall gwybodaeth gael ei chywiro ac, mewn rhai achosion, ei dileu.
Mae'n ddyletswydd statudol arnom i sicrhau bod rhai cofrestrau endidau a reoleiddir ar gael i'r cyhoedd a gwnawn hyn drwy gyhoeddi'r cofrestrau hynny ar ein gwefan.
Ffurflenni ariannol
Mae'n rhaid i endidau a reoleiddir gyflwyno ffurflenni ariannol i ni, gan gynnwys datganiadau o gyfrifon, gwariant pleidiau ar etholiadau a refferenda a manylion rhoddion a benthyciadau. Bydd y ffurflenni hyn yn cynnwys data personol am swyddogion pleidiau neu swyddogion ymgyrchu, cyflenwyr, benthycwyr a rhoddwyr.
Gall ffurflenni ariannol gynnwys gwybodaeth a fyddai'n datgelu barn wleidyddol Gwrthrych Data ac felly ystyrir ei bod yn ddata personol categori arbennig. Yr amod ar gyfer prosesu'r math hwn o ddata yw bod budd sylweddol i'r cyhoedd a bod ganddo sail yng nghyfraith y DU o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Mae dyletswydd statudol arnom i sicrhau bod manylion ffurflenni ariannol ar gael i'r cyhoedd a gwnawn hyn drwy gyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan.
Rydym yn annog endidau a reoleiddir i gyflwyno ffurflenni ariannol drwy ein system ar-lein ddiogel. Rydym yn cynnal y system hon ar ein rhwydwaith ac yn rheoli mynediad i'r wybodaeth drwy fanylion mewngofnodi unigol. Rydym hefyd yn cofnodi newidiadau i'r data yn y system at ddibenion archwilio.
Cyhoeddi manylion gan endidau a reoleiddir
Rydym yn cyhoeddi manylion rhoddion a benthyciadau endidau a reoleiddir, datganiadau blynyddol o gyfrifon a gwariant ar ymgyrchoedd a refferenda ar ein cronfa ddata ar-lein. Ymhlith y manylion mae:
- enwau pobl a benodir i rolau swyddogol
- enwau rhoddion
- cyfeiriad y blaid
- enw a chyfeiriad cyflenwyr ar gyfer unig fasnachwyr
Rhannu gwybodaeth gan endidau a reoleiddir
Gallwn rannu'r wybodaeth hon â'n tîm gorfodi er mwyn penderfynu a oes angen i ni ymchwilio i achos o dorri rheolau sy'n ymwneud â chyllid gwleidyddol.
Eich hawliau
Efallai na fydd yn bosibl i chi arfer rhai hawliau, er enghraifft yr hawl i gyfyngu neu wrthwynebu, gan fod y gwaith prosesu hwn yn rhan o'n swyddogaeth statudol. Dim ond at y dibenion a ddiffinir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 y byddwn yn prosesu'r data.