Gwneud cais am swydd
Trosolwg
Os byddwch yn gwneud cais am swyddyn y Comisiwn Etholiadol, dylech wneud hynny drwy ein system recriwtio ar-lein. Os ydych yn gwneud cais am swydd drwy asiantaeth recriwtio, dylech ddarllen hysbysiad preifatrwydd yr asiantaeth er mwyn deall sut y caiff eich data personol ei brosesu.
Pa wybodaeth a gesglir gennym a pham
Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol gan gynnwys eich hanes gwaith, manylion cyswllt a datganiadau am gollfarnau a gweithgarwch gwleidyddol blaenorol. Mae angen y wybodaeth hon arnom er mwyn i ni allu asesu eich cais a chysylltu â chi amdano.
Sail gyfreithiol dros gasglu gwybodaeth
Byddwn yn gofyn am ganiatâd gennych i brosesu'r wybodaeth hon pan fyddwch yn cofrestru drwy ein system recriwtio ar-lein.
Sut y defnyddiwn eich gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a rowch i ni er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y swydd rydych wedi gwneud cais amdani. Bydd gan ein tîm adnoddau dynol fynediad llawn at y wybodaeth hon. Ni fydd y ceisiadau a ddewisir gan ein rheolwyr cyflogi ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt na gwybodaeth cyfle cyfartal os ydych wedi'i darparu.
Gallwn ofyn i chi ddod i gyfweliad a chwblhau profion. Caiff gwybodaeth ei chynhyrchu gennych chi a gennym ni. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cwblhau prawf ysgrifenedig neu efallai y byddwn yn cymryd nodiadau yn y cyfweliad. Caiff y wybodaeth hon ei chadw gennym.
Cadw eich gwybodaeth
Byddwn yn cadw gwybodaeth am ymgeiswyr aflwyddiannus am flwyddyn ar ôl y dyddiad cau. Byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth am ymgeiswyr llwyddiannus i'n systemau mewnol a'i phrosesu yn ôl telerau ein contract cyflogaeth.
Eich hawliau
Trwy ddarparu gwybodaeth gyda'ch cais, rydych yn caniatáu i ni brosesu'r wybodaeth hon unrhyw bryd cyn dechrau contract cyflogaeth gyda ni, a gallwch dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl. Os byddwch yn tynnu eich caniatâd i ni brosesu eich gwybodaeth yn ôl, ni fyddwn yn gallu ystyried eich cais ar gyfer y swydd.
Byddwn yn ymateb i unrhyw geisiadau i weld y wybodaeth hon, ei chywiro, ei dileu, neu geisiadau I wrthwynebu neu gyfyngu ar waith prosesu, ac yn penderfynu ar bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.