Anogir miloedd o bleidleiswyr coll i gofrestru cyn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ym mis Mai

Anogir miloedd o bleidleiswyr coll i gofrestru cyn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ym mis Mai

Mae ymgyrch newydd yn cael ei lansio heddiw, gyda’r nod o annog y miloedd o bobl yng Nghymru nad ydynt ar y cofrestrau etholiadol i gofrestru i ddweud eu dweud mewn etholiadau sydd i ddod. 

Bwriad yr ymgyrch yw annog pobl i ddathlu ac ymfalchïo mewn bod ar y gofrestr etholiadol. Mae'r hysbyseb deledu newydd yn cynnwys grŵp amrywiol o bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac sy’n ei ddangos yn falch i’w ffrindiau, eu cymdogion a’u cydweithwyr. Mae’n galw ar bobl i gofrestru cyn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ddydd Iau 2 Mai, cyn i’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ddod i ben ar 16 Ebrill. Mae’n wahanol i ymgyrchoedd blaenorol sydd wedi pwysleisio pa mor gyflym a hawdd yw cofrestru, ac yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar y ffactor teimlo’n dda o gymryd rhan mewn democratiaeth.  

Gwyliwch hysbyseb yr ymgyrch newydd yma. 

Nod yr hysbyseb yw apelio at lawer o'r grwpiau sy'n llai tebygol o fod wedi'u cofrestru, gan gynnwys pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig, a phleidleiswyr anabl. 

Amcangyfrifir y bydd tua 2.5 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sydd ar ddod yng Nghymru. Ac eto, mae cymaint â 400,000 o bobl naill ai wedi’u cofrestru’n anghywir neu ar goll o’r gofrestr yn gyfan gwbl.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru: 

“Mae etholiadau yn gyfle pwysig i bobl gael dweud eu dweud ar y materion sydd o bwys iddyn nhw. Rydyn ni’n gwybod bob blwyddyn bod pobl yn colli’r cyfle oherwydd nad ydyn nhw ar y gofrestr etholiadol. Mae hynny’n cynrychioli miliynau o leisiau coll. 

“Cyn etholiadau mis Mai, a gydag etholiad cyffredinol Senedd y DU ar y gorwel, mae’n bwysig bod pobl yn cael eu cofrestru fel bod eu llais yn cael ei glywed yn y blwch pleidleisio. Mae gan unrhyw un sydd am fwrw pleidlais yn etholiadau mis Mai tan y dyddiad cau ar 16 Ebrill i gofrestru.”

I fod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau CHTh mae'n rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad sy'n byw yng Nghymru, ac yn 18 oed neu'n hŷn. Bydd angen i unrhyw un a oedd ar y gofrestr yn flaenorol ac sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar neu y mae eu manylion wedi newid, gofrestru eto.

Bydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd yn nodi'r tro cyntaf y bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Mae'r Comisiwn yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad ID pleidleisiwr. Mae rhestr o ffurfiau o ID a dderbynnir ar gael ar ein gwefan ac mae ID pleidleisiwr am ddim ar gael i'r rhai nad oes ganddynt ffurf o ID ffotograffig a dderbynir. 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Uwch Gynghorydd Cyfathrebu, ar 029 2034 6824, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal yn y 4 ardal heddlu yng Nghymru (Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed Powys). Nod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw lleihau trosedd a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon o fewn eu hardal heddlu. Cânt eu hethol gan y cyhoedd i ddwyn Prif Gwnstabliaid a’r heddlu i gyfrif ar eu rhan.
  • Mae ymchwil yn dangos mai dim ond 66% o bobl 18-34 oed ledled Cymru sydd wedi’u cofrestru, o gymharu â 92% o’r rhai dros 65 oed.
  • Gall pobl ifanc 16 oed a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru gofrestru i bleidleisio, ond dim ond mewn etholiadau datganoledig y maent yn gymwys i bleidleisio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
  • Mae ymgyrch ‘Nodyn i’ch hunan’ y Comisiwn yn cael ei rhedeg ar hyn o bryd yng Nghymru a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o'r gofyniad i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar 2 Mai. Mae’r ymgyrch hefyd yn ceisio sicrhau bod pobl nad oes ganddynt ffurf dderbyniol o ID ffotograffig yn ymwybodol y gallant wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim, neu ‘ID pleidleisiwr’.
  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:

        o    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
        o    rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
        o    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt 
        o    gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.