Pwy all bleidleisio yn etholiadau'r DU
Atebwch ambell gwestiwn i ddarganfod a allwch gofrestru i bleidleisio
Pwy sy’n gallu cofrestru i bleidleisio yng Nghymru
Er mwyn cofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu’n hŷn (ond ni allwch bleidleisio nes eich bod yn 16 neu’n 18 yn dibynnu ar yr etholiad) ac yn un o’r canlynol:
- dinesydd y DU neu ddinesydd Gwyddelig
- yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd cymwys yr UE sy’n byw yn y DU
- yn ddinesydd tramor cymwys
Mae diffiniad 'dinesydd y Gymanwlad' yn cynnwys dinasyddion Tiriogaethau Dibynnol y Goron a Thiriogaethau Prydeinig Tramor. Dinesydd ‘cymwys’ y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu rywun nad oes angen y fath ganiatâd arnynt.
Gwledydd y Gymanwlad
- Antigwa a Barbwda
- Awstralia
- Bangladesh
- Barbados
- Belîs
- Botswana
- Brwnei Darussalam
- Camerwn
- Canada
- Cenia
- Ciribati
- Cyprus
- De Affrica
- Dominica
- Fanwatw
- Gaiana
- Ghana
- Grenada
- Gweriniaeth Unedig Tansanïa
- India
- Jamaica
- Lesotho
- Malasia
- Malawi
- Malta
- Mawrisiws
- Mosambic
- Namibia
- Nawrw
- Nigeria
- Pacistan
- Papua Gini Newydd
- Rwanda
- Sambia
- Samoa
- Sant Kitts-Nevis
- Sant Lwsia
- Seland Newydd
- Seychelles
- Sierra Leone
- Simbabwe
- Singapore
- Sri Lanca
- St Vincent a'r Grenadies
- Teyrnas Eswatini
- Tonga
- Trinidad a Thobago
- Twfalw
- Wganda
- Y Bahamas
- Y Gambia
- Ynysoedd Ffiji
- Ynysoedd Solomon
- Ynysoedd y Maldives
Sylwch:
- Er eu bod hefyd yn aelodau o wladwriaethau'r UE, mae dinasyddion Cyprus a Malta yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
- Mae dinasyddion Ffiji a Simbabwe yn cadw eu hawliau er bod y gwledydd wedi eu gwahardd o’r Gymanwlad.
Tiriogaethau Dibynnol y Goron
- Ynys Manaw
- Ynysoedd y Sianel (gan gynnwys Jersey, Guernsey, Sarc, Alderney, Herm ac Ynysoedd cyfannedd eraill y Sianel)
Tiriogaethau Prydeinig Tramor
- Anguilla
- Ardaloedd gorsafoedd sofran ar Cyprus
- Bermwda
- De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De
- Gibraltar
- Monserrat
- St Helena a thiriogaethau dibynnol (Ynys y Dyrchafael a Tristan da Cunha)
- Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India
- Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
- Ynysoedd Falkland
- Ynysoedd y Caiman
- Ynys Pitcairn
- Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf
- Ynysoedd Turks a Caicos
Hong Kong
Mae cyn-drigolion Hong Kong sydd â phasport Tiriogaeth Ddibynnol Brydeinig, pasbort Prydeinig Tramor, neu Wladolion Prydeinig (Tramor) yn gymwys i gofrestru. Os nad oes gennych un o’r pasbortau hyn, efallai y byddwch yn dal i allu cofrestru i bleidleisio fel dinesydd tramor cymwys yng Nghymru.
Gall holl ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru.
I gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fod yn ddinesydd un o’r gwledydd canlynol:
- Denmarc, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, Portiwgal a Sbaen sy’n byw yn y DU, sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath
- unrhyw wlad arall yn yr UE a oedd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020 yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU, a oedd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu nad oedd angen caniatâd, ac mae hyn wedi parhau heb doriad
Gwledydd eraill yr UE yw:
- Yr Almaen
- Awstria
- Bwlgaria
- Croatia
- Cyprus
- Yr Eidal
- Estonia
- Y Ffindir
- Ffrainc
- Groeg
- Gweriniaeth Tsiec
- Gwlad Belg
- Hwngri
- Yr Iseldiroedd
- Latfia
- Lithwania
- Malta
- Romania
- Slofacia
- Slofenia
- Sweden
Er eu bod hefyd yn aelod-wladwriaethau o’r UE mae dinasyddion Cyprus, Malta ac Iwerddon yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad a gynhelir yn y DU.
Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath.
Ym mha etholiadau y gallwch chi bleidleisio
Mae’r etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt yn dibynnu ar y canlynol:
- eich dinasyddiaeth
- eich oedran
- lle rydych yn byw
Dysgwch fwy am ba etholiadau y gallwch chi bleidleisio ynddynt