Cafodd y cynlluniau peilot pleidleisio cynnar yng Nghymru eu rhedeg yn dda ond mae angen mwy o waith i ddiwygio pleidleisio
Cafodd y cynlluniau peilot pleidleisio cynnar yng Nghymru eu rhedeg yn dda ond mae angen mwy o waith i ddiwygio pleidleisio
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod cynlluniau peilot pleidleisio cynnar a gynhaliwyd ym mis Mai wedi cael eu rhedeg yn dda. Mae’n amlygu er bod y nifer o bobl a ddewisodd i bleidleisio’n gynnar yn isel, roeddent yn fodlon ar eu profiad pleidleisio.
Cyn yr etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru eleni, gwnaeth pedwar awdurdod lleol dreialu pleidleisio cynnar fel rhan o fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer moderneiddio’r system etholiadol. Bwriad y cynlluniau peilot oedd ei gwneud hi’n haws i bobl pleidleisio ar adeg ac mewn lleoliad sy’n fwy cyfleus iddynt. Cynhaliwyd pleidleisio cynnar ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr a Thorfaen mewn amrywiaeth o leoliadau ac ar adegau gwahanol yn ystod yr wythnos cyn y dyddiad pleidleisio ar Ddydd Iau 5 Mai.
Mae ymchwil a dadansoddiad y Comisiwn yn dangos nad yw'r cyfle i bleidleisio'n bersonol cyn y diwrnod pleidleisio, ynddo'i hun, yn cynyddu nifer y pleidleiswyr yn sylweddol. Ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen, gwnaeth 0.2 - 0.3% o bleidleiswyr cofrestredig ddewis pleidleisio’n gynnar, tra ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd y gyfran ychydig yn uwch ar 1.5%. Er bod y nifer a bleidleisiodd yn gynnar yn isel, cafodd yr opsiwn ei groesawu gan y rhai a'i defnyddiodd, gyda 92% yn fodlon gyda’r broses bleidleisio.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
“Mae cyflawniad llwyddiannus y cynlluniau peilot hyn yn dystiolaeth o ymrwymiad a gwaith caled y Swyddogion Canlyniadau a’r gweinyddwyr etholiadol ar draws ardaloedd y cynlluniau peilot.
“Mae profiad y cynlluniau peilot yn rhoi ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â sut y gallai pleidleisio ymlaen llaw weithio yn y dyfodol, a chynnig i archwilio meysydd diwygio a ffyrdd o foderneiddio etholiadau. Fodd bynnag, oherwydd y nifer fach o gynlluniau peilot, ni allwn bennu pa effaith y byddai pleidleisio ymlaen llaw, pe bai'n cael ei gyflwyno, yn ei chael ar y niferoedd sy'n pleidleisio dros amser."
Mae gwerthusiad y Comisiwn wedi nodi nifer o feysydd penodol y bydd angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw os ystyrir newidiadau pellach.
Ychwanegodd Rhydian Thomas:
“Mae’n rhaid i unrhyw newidiadau yn y dyfodol fod o fantais debygol i bleidleiswyr, cynnal diogelwch ac uniondeb y system a bod yn newidiadau y gall gweinyddwyr etholiadol eu cyflawni'n realistig. Mae’r Comisiwn yn barod i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddynt ystyried y diwygiadau sydd eu hangen i foderneiddio etholiadau yng Nghymru.”
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan y Comisiwn.
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.
2. Sefydlodd Llywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer moderneiddio etholiadol yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2021. Roedd y cynlluniau peilot hyn yn un o'r mentrau cyntaf o dan y fframwaith hwnnw. Aeth Llywodraeth Cymru ati i lunio'r cynlluniau peilot ar y cyd â'r awdurdodau lleol a oedd wedi gwirfoddoli a chytuno ar y dull gweithredu penodol y byddai pob ardal yn ei fabwysiadu. Cyhoeddwyd y ddeddfwriaeth a fyddai'n angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau peilot ym mis Mawrth 2022.
3. O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 mae’n rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi gwerthusiad annibynnol o'r cynllun peilot o fewn tri mis i'r etholiad.