Cafodd yr etholiadau eu rhedeg yn dda ond mae angen gwella pleidleisio drwy'r post a mynd i'r afael â cham-drin ymgeiswyr
Elections well run but improvements needed on postal voting and to tackle abuse of candidates
Cafodd yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf ei redeg yn dda a llwyddodd mwyafrif helaeth y pleidleiswyr i fwrw eu pleidlais. Fodd bynnag, mae angen gwelliannau i fynd i’r afael â’r anawsterau a rwystrodd rhai pleidleiswyr post a thramor rhag cymryd rhan, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw.
Hefyd, yn ôl yr adroddiad, sy’n seiliedig ar ymchwil i etholiad cyffredinol y DU 2024 ac etholiadau lleol mis Mai, roedd lefelau annerbyniol o gam-drin a brawychu ymgeiswyr. Dywedodd bron i hanner yr ymgeiswyr eu bod wedi cael eu cam-drin neu eu brawychu yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gyda menywod a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu targedu'n arbennig.
Mae'r Comisiwn wedi argymell nifer o welliannau i'r system i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Bydd y Comisiwn yn cefnogi Cynhadledd y Llefarydd a chamau gweithredu cydgysylltiedig gan amrywiaeth o bartneriaid i fynd i’r afael ar fyrder â cham-drin a brawychu ymgeiswyr:
- Dylai heddluoedd ac erlynyddion barhau i drin honiadau ac achosion o frawychu sy'n gysylltiedig ag etholiadau o ddifrif. Dylai’r rheini sy'n cyflawni troseddau yn erbyn ymgeiswyr ac ymgyrchwyr wynebu cosb sylweddol
- Dylai pleidiau gwleidyddol sicrhau bod rheolau aelodaeth yn pwysleisio parch at ymgyrchwyr eraill, a chymryd camau priodol i gosbi aelodau sy’n cam-drin neu’n aflonyddu ar ymgyrchwyr
- Dylai’r cyfryngau cymdeithasol a’r llwyfannau ar-lein helpu i ddatblygu offer sgrinio gwell ar gyfer proffiliau digidol ymgeiswyr, i gael gwared ar gynnwys difrïol ac i adnabod y sawl sy’n gyfrifol.
Er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu pleidleisio’n hawdd ac yn ddiogel, mae’r Comisiwn yn argymell y canlynol
- Adolygu'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau post a chyflwyno mwy o opsiynau pleidleisio i'r rheini nad ydynt yn derbyn eu rhai nhw mewn pryd.
- Diwygio’r modd y mae pleidleiswyr tramor yn derbyn papurau pleidleisio, a phrofi opsiynau fel pleidleisio mewn llysgenadaethau a chonsyliaethau.
- Ehangu'r rhestr o ID a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio, fel Cerdyn Gostyngiad Teithio'r Ganolfan Byd Gwaith a cherdyn llun 18+ Student Oyster, ac ID digidol.
Meddai Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Mae’n galonogol bod gan bleidleiswyr y DU lefelau uchel o hyder o hyd yn y system etholiadol, a bod y mwyafrif helaeth wedi cael profiad cadarnhaol wrth fwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, nid oedd hynny’n wir am bawb, gyda rhai pleidleiswyr post a phleidleiswyr tramor yn methu â chymryd rhan fel y dylent. Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau ac eraill i wella'r system.
“Mae lefel yr aflonyddu a'r brawychu a wynebir gan ymgeiswyr yn gryn bryder, ac mae angen gweithredu ar frys mewn modd cydgysylltiedig. Ni ddylai'r rhai sy'n sefyll am swydd gyhoeddus wynebu cael eu cam-drin. Mae’n atal rhai pobl rhag sefyll fel ymgeiswyr, ac yn llesteirio’r modd y mae rhai yn ymgysylltu â phleidleiswyr – ac mae perygl i’r ddau beth hyn wanhau dadl ddemocrataidd gadarn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i roi atebion effeithiol ar waith.
“Mae yna gyfle nawr i wneud y gwelliannau hollbwysig hyn, cyn etholiadau Cymru a’r Alban yn 2026, ac etholiad cyffredinol y DU yn y dyfodol.”
Mae rhestr lawn o’r argymhellion i’w gweld yn yr adroddiad. Cyhoeddwyd argymhellion yn ymwneud â gweithredu ID pleidleisiwr gan y Comisiwn ym mis Medi.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg yn y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu [email protected].
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gweithio er mwyn hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy’r canlynol:
o galluogi’r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael â’r newidiadau yn yr amgylchedd i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
o rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a delio ag achosion o dorri rheolau
o defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y Deyrnas Unedig.