ID Pleidleisiwr yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024

Cefndir ID Pleidleisiwr

Cynhaliwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024 ddydd Iau 4 Gorffennaf. Hwn oedd y tro cyntaf yr oedd yn ofynnol i bob pleidleisiwr ledled y DU ddangos math o ID ffotograffig a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiad cyffredinol.

Graff 1: Ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn ôl oedran

Argymhelliad 1: Gwella’r niferoedd sy'n manteisio ar y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr

Argymhelliad 1: Gwella’r niferoedd sy'n manteisio ar y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr

Dylai Llywodraeth y DU gynnal a chyhoeddi adolygiad o ddyluniad, gweithrediad a defnydd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, er mwyn annog mwy o bobl nad oes ganddynt fath arall o ID a dderbynnir i fanteisio arni a’i defnyddio.

Dylai’r adolygiad hwn ystyried:

  • P’un a ellid symud y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn nes at y diwrnod pleidleisio, er mwyn gwella argaeledd a hygyrchedd i bleidleiswyr nad oes ganddynt fath arall o ID a dderbynnir. Mae'r dyddiad cau presennol ar gyfer ceisiadau, sef chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, yn sylweddol gynharach na bwriad y polisi gwreiddiol
  • P’un a ellid cyhoeddi Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr yn ddigidol, a ph’un a allai hynny leihau'r ddibyniaeth ar brosesau argraffu a phostio ffisegol a chaniatáu ar gyfer anfon at bleidleiswyr yn gyflymach. Dylai’r Llywodraeth ddysgu o’r Cynllun Safonau Prawf Oedran (PASS) sydd bellach yn cyhoeddi cardiau cynllun prawf oedran digidol

Dylai’r adolygiad hefyd ystyried unrhyw wersi a ddysgwyd o weithredu Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon a’r niferoedd sy’n ei ddefnyddio.

Mae’n rhaid bod Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u staff yn dal yn gallu prosesu ceisiadau a rhoi Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr i bleidleiswyr mewn pryd er mwyn iddynt allu pleidleisio, ochr yn ochr â dyletswyddau hanfodol eraill sy'n digwydd yn y dyddiau cyn y diwrnod pleidleisio. Felly, mae’n rhaid i unrhyw newidiadau posibl i derfynau amser ceisiadau ystyried effaith weithredol ac ymarferoldeb terfyn amser diweddarach. Mae’n rhaid i gynllunio ar gyfer newidiadau hefyd ystyried lefel y ddibyniaeth ar argraffwyr a gwasanaethau post i ddosbarthu tystysgrifau i bleidleiswyr.

 

Graff 2: Pobl na wnaethant bleidleisio: pa rai o’r canlynol sy’n disgrifio eich profiad

Effaith gyffredinol y gofyniad am ID ar y diwrnod pleidleisio - Rhan 2

Eto roedd rhywfaint o amrywiaeth yn yr ymatebion ar draws y pedair gwlad, gyda Lloegr a’r Alban yn dangos cyfran uwch yn nodi rhesymau ID pleidleisiwr (10% a 12% yn y drefn honno) na Chymru a Gogledd Iwerddon (8% a 3%).

Mae tuedd cyffredinol yr effaith ar bleidleiswyr yn parhau i fod yn aneglur

Mae’r data gorsafoedd pleidleisio uchod yn awgrymu bod cyfran lai o bobl yn cael eu heffeithio gan y gofyniad am ID pleidleisiwr dros amser. Mae'r data barn gyhoeddus, a nodir yn y tabl isod, hefyd yn cefnogi hyn i ryw raddau.

Rhoddodd llai o bobl ID fel rheswm dros beidio â phleidleisio yn etholiadau mis Mai 2024 o gymharu â mis Mai 2023. Mae hyn yn awgrymu dealltwriaeth gynyddol o'r angen i gymryd ID i bleidleisio'n bersonol - o leiaf ymhlith pleidleiswyr rheolaidd etholiadau lleol. 

Yn ein dadansoddiad blaenorol o ID pleidleisiwr yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2023, fe wnaethom dynnu sylw at y ffaith bod y gofyniad yn debygol o gael effaith fwy mewn etholiadau lle'r oedd mwy o bobl wedi pleidleisio, fel etholiad cyffredinol Senedd y DU, lle gallai pobl nad ydynt bob amser yn pleidleisio mewn etholiadau lleol fod eisiau cymryd rhan.

Nid yw'r data o orsafoedd pleidleisio, sy'n dangos gostyngiad yng nghyfran y pleidleiswyr a drowyd ymaith ym mhob set o etholiadau, yn cefnogi'r dadansoddiad hwnnw. Gwyddom fod data yn tanamcangyfrif y mater, er nad oes gennym unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod lefel y tanamcangyfrif yn wahanol ar draws y tair set o etholiadau (mis Mai 2023, mis Mai 2024 ac etholiad cyffredinol Senedd y DU). 

Mae ein harolwg barn gyhoeddus yn canfod bod cyfran uwch o bobl na wnaethant bleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn dweud (pan y’u hysgogir) mai ID oedd y rheswm na wnaethant bleidleisio o gymharu â’r ddwy set o etholiadau lleol.
 

Tabl 2: Cyfran o bobl na wnaethant bleidleisio a roddodd ID fel rheswm dros beidio â phleidleisio (yn ddiysgog ac ar ôl cael eu hysgogi)
 Mai 2023 (Lloegr)Mai 2024 (Lloegr)Gorffennaf 2024 (Prydain Fawr)Gorffennaf 2024 (Gogledd Iwerddon)
ID wedi’i roi fel y rheswm dros beidio â phleidleisio yn ddiysgog4%2%4%1%
ID wedi’i roi fel y rheswm dros beidio â phleidleisio pan ofynnwyd iddynt wneud hynny7%3%10%3%

Fodd bynnag, dylem fod yn ofalus wrth ddehongli’r canlyniadau hyn am ddau reswm:

  • Nid yw’r bobl nad ydynt yn pleidleisio mewn etholiadau lleol yr un peth â’r bobl nad ydynt yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol. Mae'r cyntaf yn grŵp llawer mwy sy'n cynnwys llawer o bobl a fydd yn pleidleisio mewn rhai etholiadau lleol a nifer fawr o etholiadau cyffredinol. Mae’r bobl nad ydynt yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU felly yn grŵp llai a bydd yn cynnwys cyfran fwy o bobl sy'n pleidleisio’n anaml neu sydd byth yn pleidleisio.
  • Nid yw'r rhain yn amcangyfrifon manwl gywir o'r rhai y mae'r gofyniad am ID pleidleisiwr yn effeithio arnynt – canfyddiadau arolwg ydynt, yn amodol ar lwfans gwallau.

Felly, er bod rhywfaint o dystiolaeth bod prif effaith y gofyniad am ID pleidleisiwr yn lleihau dros amser, mae'n dal yn aneglur o'r data hwn pa duedd y dylem ddisgwyl ei gweld dros y cylch etholiadol nesaf.

Gallwn gymharu’r canlyniadau â’r profiad yng Ngogledd Iwerddon yn yr etholiad cyffredinol hwn, lle mae angen ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio ers 2003 a lle gofynnwyd yr un cwestiynau yn ein harolwg. Mae’r data o Ogledd Iwerddon yn awgrymu, er y gallai fod yn afrealistig disgwyl i’r ffigurau hyn ostwng i sero (ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU o leiaf), y gellir lliniaru effaith ehangach gofyn i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig dros amser hyd yn oed mewn etholiadau lle bydd mwy o bobl yn pleidleisio.

Roedd y niferoedd a bleidleisiodd yn gyffredinol yn is ond nid yw'n bosibl mesur yn gywir effaith ID pleidleisiwr

Y ganran a bleidleisiodd ar 4 Gorffennaf oedd 59.8%, i lawr o 67.3% yn 2019. Dyma’r ganran leiaf a bleidleisiodd mewn etholiad cyffredinol ers 2001 (59.4%). Canfu’r dystiolaeth o’n harolwg barn y cyhoedd fod rhai pobl na wnaethant bleidleisio wedi dweud ei fod yn gysylltiedig â’r gofyniad i ddangos ID ffotograffig. Mae’r cyfuniad o ddata o orsafoedd pleidleisio a chanlyniadau’r arolwg hefyd yn awgrymu bod effaith y gofyniad am ID pleidleisiwr wedi’i theimlo’n drymach gan bobl na aethant i orsaf bleidleisio o gwbl ar 4 Gorffennaf, yn hytrach na’r rhai a geisiodd a methodd dangos ID.

Fodd bynnag, ni allwn ddefnyddio'r ffigurau hyn i feintioli'n gywir effaith ID pleidleisiwr ar y niferoedd a bleidleisiodd.

Mae data arolwg yn amcangyfrif a all fod yn destun dau wall ar wahân. Un yw gwall samplu. Mae hyn wedi'i gyfyngu gan y sampl cadarn, cynrychioliadol a ddefnyddiwyd gennym yn arbennig ar gyfer y boblogaeth gyfan, ond gall fod yn fwy o broblem i is-grwpiau o'r boblogaeth (fel pobl na wnaethant bleidleisio). 

Yr ail fater yw gwall nad yw'n ymwneud â samplu. Mae hyn yn cynnwys ymatebwyr ddim yn ateb cwestiwn a/neu nad ydynt yn ei ateb yn gywir. Gallwn weld un o effeithiau hyn yn y gwahaniaeth rhwng yr ymatebion diysgog a’r ymatebion a ysgogwyd i gwestiynau, lle gallai’r ymatebwyr fod yn llai tebygol o roi ateb diysgog (hyd yn oed os yw’n wir) ac yn fwy tebygol o roi ateb wedi’i ysgogi (lle gallai dewis o restr wahodd ymateb a allai fod yn wir neu beidio).

Mae canfyddiadau arolwg barn y cyhoedd felly yn ddefnyddiol iawn ar gyfer rhoi darlun mwy cyflawn i ni o effaith debygol y gofyniad am ID nag y mae'r data o orsafoedd pleidleisio yn ei roi ar ben ei hun. Mae’r ffigurau’n cefnogi ein hasesiad bod data’r gorsafoedd pleidleisio wedi tanamcangyfrif yr effaith ond nid ydynt yn caniatáu i ni ddweud i ba raddau y byddai’r niferoedd a bleidleisiodd wedi bod yn uwch heb y gofyniad am ID pleidleisiwr.

Effeithiodd yr ID pleidleisiwr ar rai pobl yn fwy nag eraill 

Yn ein dadansoddiad blaenorol o effaith y gofyniad am ID yn etholiadau mis Mai 2023, canfuom fod rhai pobl, mewn perthynas â ffactorau demograffig-gymdeithasol, yn fwy tebygol o gael problemau wrth fodloni’r gofyniad am ID.

Daethom i’r casgliad bod hyn o ganlyniad i ddau ffactor bras: mae rhai pobl yn llai tebygol o fod ag ID ffotograffig a dderbynnir ac mae rhai pobl yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o’r angen i ddangos ID wrth bleidleisio’n bersonol.

Mae rhai grwpiau o bobl yn dal yn llai tebygol o fod â’r ID sydd ei angen i allu pleidleisio  

Gwyddom, o’n hymchwil blaenorol, fod rhai grwpiau’n llai tebygol o fod ag un o’r mathau o ID a dderbynnir (yn enwedig y rhai sy’n rhentu gan landlord cymdeithasol, pobl ddi-waith, y rhai ar raddau cymdeithasol is, a phobl anabl).

Mae ein tystiolaeth yn dangos, yn etholiad cyffredinol mis Gorffennaf 2024, bod o leiaf rhai o’r grwpiau hyn yn fwy tebygol o gael problem yn pleidleisio’n bersonol o ganlyniad i’r gofyniad am ID pleidleisiwr. 

Mae’r dystiolaeth gliriaf yn ymwneud â’r gradd gymdeithasol C2DE is. Pan gawsant eu hannog, dywedodd 10% o’r bobl na wnaethant bleidleisio mai’r gofyniad am ID oedd y rheswm, gyda 6% yn dweud mai’r rheswm am hyn oedd nad oedd ganddynt yr ID gofynnol. Roedd hyn yn uwch ar gyfer y bobl na wnaethant bleidleisio sydd ar radd gymdeithasol C2DE o gymharu â’r bobl na wnaethant bleidleisio sydd ar radd gymdeithasol ABC1 (8% o gymharu â 3%). Yn gyffredinol, rhoddodd 7% o’r bobl na wnaethant bleidleisio sydd ar radd gymdeithasol C2DE reswm diysgog yn ymwneud ag ID dros beidio â phleidleisio o gymharu ag 1% o’r bobl na wnaethant bleidleisio sydd ar radd gymdeithasol ABC1. 

Mae rhywfaint o dystiolaeth, o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol, bod pobl anabl a phobl ddi-waith wedi cael mwy o broblem, wrth geisio pleidleisio, mewn perthynas â pherchen ar ID. Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaethau a ganfyddwn yn ein harolwg yn ystadegol arwyddocaol.

Argymhelliad 2: Adolygu’r rhestr o ID a dderbynnir

Argymhelliad 2: Adolygu’r rhestr o ID a dderbynnir

Dylai Llywodraeth y DU gynnal a chyhoeddi adolygiad o’r rhestr gyfredol o’r mathau o ID a dderbynnir, i nodi unrhyw ddogfennau ychwanegol y gellid eu cynnwys i wella hygyrchedd i bleidleiswyr.

Dylai hyn gynnwys ffocws penodol ar fathau o ID a fyddai’n cefnogi pobl sydd leiaf tebygol o fod â dogfennau ar y rhestr gyfredol, gan gynnwys pobl o radd gymdeithasol is (C2DE), pobl anabl, a’r rhai sy’n ddi-waith. Er enghraifft, tocynnau teithio sydd â phrosesau gwneud cais digon diogel fel Cerdyn Gostyngiad Teithio'r Ganolfan Byd Gwaith.

Dylai'r Llywodraeth ystyried a yw'r meini prawf diogelwch ar gyfer prosesau gwneud cais a chyhoeddi yn briodol ac yn gymesur wrth asesu a ddylid ychwanegu dogfennau newydd at y rhestr. Er enghraifft, cerdyn-llun Oyster i Fyfyrwyr 18+.

Dylid cadarnhau mewn deddfwriaeth unrhyw newidiadau i’r rhestr o’r mathau o ID a dderbynnir o leiaf chwe mis cyn y diwrnod pleidleisio, mewn pryd i fanylion gael eu cynnwys mewn deunyddiau a gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd, ac mewn canllawiau i staff gorsafoedd pleidleisio cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer unrhyw etholiadau sydd wedi’u trefnu.

Byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau y gellir cyflwyno ID pleidleisiwr mewn ffordd sy'n hygyrch, yn ymarferol ac yn ddiogel.

Argymhelliad 3: Darparu opsiynau ar gyfer pleidleiswyr nad oes ganddynt ID a dderbynnir neu na allant gael mynediad at unrhyw fath ohono

Argymhelliad 3: Darparu opsiynau ar gyfer pleidleiswyr nad oes ganddynt ID a dderbynnir neu na allant gael mynediad at unrhyw fath ohono

Dylai Llywodraeth y DU alluogi pleidleiswyr cofrestredig sydd ag ID a dderbynnir i wneud ardystiad yn eu gorsaf bleidleisio ar ran rhywun nad oes ganddo fath o ID a dderbynnir (cyfeirir ato hefyd fel ‘tystio’).

Mae’r gofyniad am ID pleidleisiwr ar hyn o bryd yn rhagdybio bod pobl naill ai'n meddu ar fath o ID a dderbynnir neu eu bod yn ddigon ymwybodol o’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a bod ganddynt ddigon o gymhelliant i wneud cais amdani erbyn y dyddiad cau. Mae hyn yn golygu nad yw pleidleisio i bob pwrpas yn hygyrch i unrhyw un heb ID sy’n methu'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, unrhyw un sy’n dod yn ymwybodol o ofyniad ac argaeledd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn agos at y diwrnod pleidleisio, neu unrhyw un sy’n penderfynu eu bod am bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio yn unig (neu'n agos at y diwrnod pleidleisio).

O dan yr amgylchiadau cyfyngedig ac eithriadol lle na all pleidleisiwr gael mynediad at unrhyw fath arall o ID a dderbynnir, byddai caniatáu ardystiad yn dal i ddarparu amddiffyniad trwy fynnu cysylltiad ffurfiol ag etholwr a enwir y mae ei hunaniaeth ei hun wedi'i dilysu. Gallai opsiynau pellach ar gyfer ardystio hunaniaeth pleidleisiwr fod yn ymarferol hefyd, gan gynnwys gan sefydliadau dibynadwy fel awdurdodau lleol.

Fel yr amlygwyd yn flaenorol, mae ardystiadau eisoes yn opsiwn dilys ar gyfer gwirio hunaniaeth mewn rhannau eraill o’r broses etholiadol, er enghraifft mewn ceisiadau i gofrestru i bleidleisio a cheisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr. Nid yw ardystiadau o dan yr amgylchiadau hyn yn destun unrhyw brosesau sicrwydd pellach, a dylai’r Llywodraeth ystyried a yw safon wahanol yn parhau i fod yn briodol ar gyfer profi hunaniaeth yn yr orsaf bleidleisio.

Defnyddir ardystiad mewn etholiadau ffederal yng Nghanada fel ffordd o wella hygyrchedd eu gofyniad am ID pleidleisiwr ar gyfer grwpiau penodol sy'n llai tebygol o gael mynediad at y prawf adnabod gofynnol.

Byddai’r baich gweinyddol ychwanegol o ardystio (o gymharu â chyflwyno math arall o ID a dderbynnir) yn cael ei gyfyngu i’r amser sydd ei angen i’r pleidleisiwr a’r ardystiwr gwblhau ffurflen datganiad.

Nid oedd rhai pobl yn gwybod bod angen iddynt ddangos ID

Nid oedd rhai pobl yn gwybod bod angen iddynt ddangos ID

Er bod ymwybyddiaeth o'r gofyniad am ID yn gymharol uchel, rydym wedi nodi uchod sut roedd lefelau ymwybyddiaeth yn amrywio ar draws y boblogaeth. Yn benodol, roedd grwpiau oedran iau, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, a phobl o radd gymdeithasol C2DE yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o’r gofyniad am ID.

Mae rhywfaint o dystiolaeth bod y lefelau ymwybyddiaeth is hyn yn golygu bod rhai pobl hefyd yn fwy tebygol o gael anawsterau wrth fodloni'r gofyniad am ID er nad yw'r dystiolaeth yn bendant. Mae ein hymchwil yn canfod bod pleidleiswyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol na phleidleiswyr gwyn o ddweud eu bod wedi mynd i’r orsaf bleidleisio yn wreiddiol heb ID ond wedi dychwelyd i bleidleisio yn ddiweddarach (2% o bleidleiswyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig o gymharu ag 1% o bleidleiswyr gwyn). Fodd bynnag, roedd bobl gwyn na wnaethant bleidleisio yn fwy tebygol na phobl na wnaethant bleidleisio o gymunedau lleiafrifoedd ethnig o roi rheswm diysgog dros beidio â phleidleisio yn ymwneud ag ID. 

Mewn perthynas ag oedran, mae’r darlun hefyd yn gymysg. Pan ofynnwyd iddynt ddewis o restr o resymau pam na wnaethant bleidleisio, dywedodd 4% o’r bobl na wnaethant bleidleisio fod hyn oherwydd iddynt fynd i bleidleisio heb yr ID gofynnol neu gydag ID nas derbyniwyd. Roedd hyn yn uwch ymhlith y bobl 18 i 24 oed na wnaethant bleidleisio (6%) a myfyrwyr amser llawn (8%). Fodd bynnag, roedd pobl hŷn na wnaethant bleidleisio yn fwy tebygol na'r bobl iau na wnaethant bleidleisio o roi rheswm diysgog dros beidio â phleidleisio yn ymwneud â'r gofyniad am ID. 

Fel y nodir uchod, mae’r dystiolaeth gliriaf yn ymwneud â gradd gymdeithasol C2DE lle rydym yn canfod bod pobl na wnaethant bleidleisio yn fwy tebygol o roi rhesymau yn ymwneud ag ID dros beidio â phleidleisio o gymharu â gradd gymdeithasol ABC1. 

Ni chafodd ID pleidleisiwr effaith sylweddol ar y dull a ddefnyddiwyd gan bleidleiswyr i fwrw eu pleidlais 

Gofynnom i bleidleiswyr a oeddent wedi bwrw eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol gan ddefnyddio’u dull a ffefrir. Yn gyffredinol, dywedodd 94% o bleidleiswyr eu bod wedi defnyddio’r dull a ffefrir ganddynt gan nodi nad oedd y gofyniad i ddangos ID wedi cael effaith sylweddol ar ddewisiadau dull pleidleisio. 

Roedd pleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi pleidleisio gan ddefnyddio’r dull a ffefrir ganddynt (96%) o gymharu â phleidleiswyr post (91%). Roedd pobl a bleidleisiodd drwy’r post, ac a ddywedodd nad dyma oedd eu hoff ddull o bleidleisio, yn tueddu i ddweud eu bod wedi dewis pleidleisio drwy'r post gan nad oeddent wedi gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar 4 Gorffennaf (yn aml oherwydd ymrwymiadau gwyliau). Fodd bynnag, dywedodd cyfran fach fod eu penderfyniad i bleidleisio drwy'r post oherwydd ID pleidleisiwr – naill ai oherwydd nad oedd ganddynt hwy neu eu partner ID neu oherwydd nad ydynt yn cefnogi'r polisi.

Page history

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Gorffennaf 2024

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Hydref 2024