Cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio cyn yr etholiad cyffredinol

Cyfle olaf i gofrestru i bleidleisio cyn yr etholiad cyffredinol

Dim ond un diwrnod sydd ar ôl i bleidleiswyr gofrestru i bleidleisio cyn etholiad cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn annog unrhyw un sydd am gymryd rhan i gofrestru cyn y dyddiad cau, sef dydd Mawrth am 11.59PM. 

Dim ond 5 munud mae'n ei gymryd i gofrestru i bleidleisio, a gallwch ei wneud ar-lein gyda'ch enw, eich cyfeiriad a'ch rhif Yswiriant Gwladol. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gall unigolyn gofrestru os yw'n 18 oed neu drosodd ar y diwrnod pleidleisio, ac yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad. 

Mae 2,100,000 o geisiadau wedi'u gwneud ers i'r etholiad cyffredinol gael ei gyhoeddi ar 22 Mai 2024. 

Dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r Comisiwn Etholiadol: 

“Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am ddweud ei ddweud yn y blwch pleidleisio fod wedi'i gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau, sef hanner nos, nos Fawrth. Mae cofrestru ar-lein yn broses hawdd a chyflym, felly ewch ati heddiw.

“Mae ein hymchwil yn dangos bod rhai grwpiau o bobl yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru, gan gynnwys pobl ifanc, y rhai sy'n rhentu'n breifat a'r rhai hynny sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar. Os ydych chi'n adnabod unrhyw un sydd heb gofrestru eto, rhowch wybod iddo fod amser yn prinhau ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn.”

Bydd angen i bobl sy'n pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ddangos ID ffotograffig. Mae'r Comisiwn yn galw ar bob pleidleisiwr i wneud yn siŵr bod ganddo fath o ID a dderbynnir nawr, cyn yr etholiad. Mae'r rhestr o'r mathau o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Gall y rhai hynny nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais am ID am ddim, sef Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, gan ddefnyddio'r un wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru i bleidleisio, yn ogystal â ffotograff. 

Gall unrhyw un na all bleidleisio, neu nad yw am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ym Mhrydain Fawr, wneud cais am bleidlais bost erbyn 5pm ar 19 Mehefin, neu bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm ar 26 Mehefin.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn.

Diwedd   

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  • Y dyddiadau cau ym Mhrydain Fawr yw:
        o    Hanner nos, nos Fawrth 18 Mehefin i gofrestru i bleidleisio
        o    5pm ddydd Mercher 19 Mehefin i wneud cais am bleidlais bost
        o    5pm ddydd Mercher 26 Mehefin i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy 
        o    5pm ddydd Mercher 26 Mehefin i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr 
  • Gall pleidleiswyr wneud cais i gofrestru i bleidleisio, am bleidlais absennol neu am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn gov.uk 
  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
        o    galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
        o    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
        o    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, 
        o    anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.