Cyhoeddi cyfrifon ariannol ar gyfer pleidiau gwleidyddol llai
Cyhoeddi cyfrifon ariannol ar gyfer pleidiau gwleidyddol llai
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu yn y Deyrnas Unedig, sydd ag incwm a gwariant o £250,000 neu lai, wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfrifon hyn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Fe wnaeth 335 o bleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig adrodd bod eu cyfrifon ariannol o fewn y trothwy hwn.
Bydd manylion pleidiau ac unedau cyfrifo gydag incwm neu wariant dros £250,000 yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Rhaid i bleidiau gwleidyddol gadw cofnodion ariannol a chyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon i ni. Mae cyhoeddi’r data hyn yn helpu pleidleiswyr i weld yr arian y mae pleidiau gwleidyddol yn ei dderbyn a’r hyn y maent yn ei wario. Mae hyn yn ran hanfodol o gyflawni tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU, a gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”
Y deg plaid a adroddodd yr incwm neu wariant mwyaf rhwng £50,000 a £250,000:
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Ashfield Independents (PF) | £60,912 | £56,980 |
Y Blaid Torri Trwy (Breakthrough Party) (PF) |
£90,444 | £47,188 |
Plaid Gomiwnyddol Prydain (PF) | £171,755 | £197,024 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £62,252 | £58,010 |
Plaid Sosialaidd yr Alban (PF) | £62,480 | £69,025 |
Y Blaid Sosialaidd (Gogledd Iwerddon) (GI) | £83,049 | £78,852 |
Traditional Unionist Voice - TUV (GI) | £76,592 | £74,546 |
Y Blaid Wir a Theg (True & Fair Party) (PF) | £190,642 | £168,882 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) (PF) | £169,121 | -£98,528 |
Upminster and Cranham Residents Association (PF) | £70,174 | £73,935 |
Mae manylion cyfrifon ariannol llawn pob un o’r 335 o bleidiau gwleidyddol gydag incwm a gwariant o £250,000 neu lai ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu ymlynol plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Mae ond angen i unedau cyfrifyddu ddarparu Datganiad blynyddol o Gyfrifon i’r Comisiwn Etholiadol os oedd naill ai cyfanswm eu hincwm neu gyfanswm eu gwariant dros £25,000. Adroddodd 387 o unedau cyfrifyddu yn y DU incwm a gwariant rhwng £25,000 a £250,000.
Cyfanswm incwm a gwariant unedau cyfrifyddu fesul plaid
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £123,020 | £93,018 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £11,741,592 | £12,929,118 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £39,770 | £18,564 |
Y Blaid Gydweithredol | £66,839 | £77,979 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £199,890 | £188,884 |
Y Blaid Werdd | £653,713 | £640,651 |
Y Blaid Lafur | £1,545,841 | £1,696,063 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £5,620,597 | £5,347,256 |
Plaid Cymru | £268,290 | £270,519 |
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £107,271 | £107,917 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £138,196 | £142,635 |
Mae’r cyfrifon ariannol ar gyfer yr holl unedau cyfrifyddu a gyhoeddwyd heddiw ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cymariaethau gyda blynyddoedd blaenorol
Isod mae’r cyfansymiau ar gyfer cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd o dan y trothwy o £250,000 yn y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf:
Pleidiau gwleidyddol
2022 | 2021 | 2020 | |
---|---|---|---|
Incwm | £2,200,380 | £2,478,965 | £1,546,769 |
Gwariant | £1,891,548 | £2,318,549 | £1,358,422 |
Unedau cyfrifyddu
2022 | 2021 | 2020 | |
---|---|---|---|
Incwm | £20,393,040 | £21,438,320 | £16,849,475 |
Gwariant | £21,512,604 | £22,183,096 | £15,728,652 |
Mae ffigyrau sy’n cymharu cyfrifon diweddaraf pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu â’r rheiny ar gyfer 2021 a 2020 yn cynnig cymhariaeth gyffredinol, ac nid ydynt o reidrwydd yn cymharu’r un pleidiau ac unedau cyfrifyddu. Mae incwm a gwariant pleidiau ac unedau cyfrifyddu yn amrywio bob blwyddyn, ac felly gallent gwympo i wahanol drothwyon adrodd.
Cyflwyno'n hwyr
Fe wnaeth 26 o bleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu yr oedd disgwyl iddynt fod ag incwm neu wariant o dan £250,000 fethu â chyflwyno eu cyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Ebrill 2023. Lle mae pleidiau ac unedau cyfrifyddu wedi cyflwyno eu cyfrifon yn hwyr, gallwn gymryd gamau gweithredu priodol a chymesur yn unol â’n Polisi Gorfodi.
Roedd rhaid i bleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd ag incwm neu wariant dros £250,000 yn 2022 gyflwyno eu cyfrifon archwiliedig erbyn 7 Gorffennaf 2023. Caiff y rhain eu cyhoeddi maes o law.
Diwedd
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu e-bostiwch [email protected]. Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban. - Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno eu cyfrifon.
- Nid yw'r ffaith bod Datganiad Cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
- Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau o achosion a gaewyd.