Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol y DU
Cyhoeddi cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol y DU
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu sydd ag incwm neu wariant dros £250,000 wedi eu cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae cyfrifon ariannol 18 o bleidiau gwleidyddol a 12 o unedau cyfrifyddu yn y Deyrnas Unedig wedi'u cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Mae pleidiau mawr yn derbyn ac yn gwario symiau sylweddol o arian felly mae’n bwysig bod yr wybodaeth am eu cyfrifon yn hygyrch i’r cyhoedd. Mae cyhoeddi eu data yn caniatáu i bleidleiswyr weld sut mae pleidiau yn cael eu hariannu ac yn dewis gwario eu harian.”
Incwm neu wariant pleidiau sydd dros £250,000
Adroddodd 19 o bleidiau yn y DU fod ganddynt incwm neu wariant dros £250,000. Rydym yn cyhoeddi cyfrifon 18 o bleidiau heddiw, ar ôl cytuno ar ddyddiad cau wedi’i ymestyn ar gyfer Prydain Yn Gyntaf. Rhoddwyd estyniad i Blaid Unoliaethwyr Ulster, a chawsom eu cyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 22 Awst.
Cyfanswm incwm y 18 plaid oedd £99,993,948, a chyfanswm eu gwariant oedd £101,686,906. Mae hyn yn cymharu â’r 19 o bleidiau a adroddodd incwm neu wariant dros £250,000 yn 2021, gyda chyfansymiau o £101,162,626 o incwm a £107,657,216 o wariant.
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Plaid Alba | £480,056 | £462,631 |
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £522,368 | £545,477 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £30,682,000 | £33,062,000 |
Y Blaid Gydweithredol | £1,404,712 | £1,385,042 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £426,175 | £487,968 |
Y Blaid Werdd | £3,146,966 | £3,226,391 |
Y Blaid Lafur | £47,171,000 | £44,450,000 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £5,945,228 | £6,699,016 |
Plaid Cymru | £970,293 | £942,273 |
Reform UK | £692,434 | £949,028 |
Plaid Werdd yr Alban | £566,443 | £594,634 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £4,248,625 | £5,052,903 |
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £423,786 | £395,644 |
Sinn Féin | £1,186,378 | £1,533,335 |
The Reclaim Party | £716,084 | £719,072 |
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £463,849 | £114,055 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £234,161 | £399,622 |
Plaid Cydraddoldeb Menywod | £713,390 | £667,815 |
Cyfanswm | £99,993,948 | £101,686,906 |
Yn ogystal â’r pleidiau a restrwyd uchod, ym mis Gorffennaf cyhoeddodd y Comisiwn gyfrifon 335 o bleidiau gwleidyddol a adroddodd incwm neu wariant o £250,000 neu lai.
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu ymlynol plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Mae 12 o unedau cyfrifyddu wedi adrodd incwm neu wariant sydd dros £250,000.
Cyfanswm incwm y 12 uned cyfrifyddu hyn oedd £10,267,150, a chyfanswm eu gwariant oedd £10,195,151.
Y 12 uned gyfrifyddu wnaeth adrodd incwm neu wariant dros £250,000:
Plaid | Uned gyfrifyddu | Incwm | Gwariant |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Dinasoedd Llundain a San Steffan | £461,805 | £591,710 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Croydon | £203,213 | £286,438 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | Kensington, Chelsea a Fulham | £288,731 | £314,811 |
Y Blaid Lafur | National Trade Union Liaison | £259,737 | £272,644 |
Y Blaid Lafur | Plaid Lafur yr Alban | £773,999 | £897,786 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | ALDC | £1,162,557 | £1,265,143 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Lloegr | £2,441,474 | £2,408,878 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Swyddfa Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,479,821 | £1,495,405 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Yr Alban | £885,635 | £594,348 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Westmorland, Furness ac Eden | £265,574 | £278,735 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | Dosbarth District | £280,112 | £147,472 |
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | Grŵp Seneddol Plaid Genedlaethol yr Alban | £1,764,492 | £1,641,781 |
Cyfanswm | £10,267,150 | £10,195,151 |
Mae cyfrifon ariannol pob un o’r unedau cyfrifyddu ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cymariaethau â chyfansymiau’r blynyddoedd blaenorol
Isod mae’r cyfansymiau ar gyfer pob cyfrif ariannol pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd dros y trothwy o £250,000 yn y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf:
Pleidiau gwleidyddol
2022 | 2021 | 2020 | |
---|---|---|---|
Incwm | £99,993,948 | £101,162,626 | £86,441,126 |
Gwariant | £101,686,906 | £107,657,216 | £91,960,717 |
Unedau cyfrifyddu
2022 | 2021 | 2020 | |
---|---|---|---|
Incwm | £10,267,150 | £10,423,890 | £9,330,756 |
Gwariant | £10,195,151 | £10,176,988 | £9,039,842 |
Mae incwm a gwariant pleidiau ac unedau cyfrifyddu yn amrywio bob blwyddyn, ac felly gallent gwympo i wahanol drothwyon adrodd. Mae cymharu cyfansymiau holl gyfrifon ariannol 2022 â’r rhai ar gyfer 2021 a 2020 yn cynnig cymhariaeth gyffredinol, ac nid ydynt o reidrwydd yn cymharu’r un pleidiau ac unedau cyfrifyddu. Nid yw’r cyfansymiau ar gyfer 2022 yn cynnwys cyfrifon Prydain Yn Gyntaf.
Diwedd
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu e-bostiwch [email protected]. Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414
Nodiadau i olygyddion:
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban. - Mae’n rhaid i bob plaid wleidyddol gyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bleidiau gwleidyddol gydag incwm dros £250,000 archwilio eu cyfrifon yn annibynnol, a chynnwys yr adroddiad hwn gyda’u cyflwyniad. Nid yw'r ffaith bod datganiad cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
- Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno eu cyfrifon.
- Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau achosion a gaewyd.