Cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch4 2021

Content

Mae pleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon wedi adrodd eu bod wedi derbyn cyfanswm o £11,206,757 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus ym mhedwerydd chwarter 2021 (mis Hydref hyd at fis Rhagfyr), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae’r cyfanswm yn cynnwys rhoddion a benthyciadau gan 24 o bleidiau, ac mae hyn yn cymharu ag £11,280,814 a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2020.

Wrth wneud sylw ar y wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:

“Mae cyhoeddi’r data hwn yn rhoi gwybodaeth bwysig i bleidleiswyr o ran sut mae pleidiau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu, er mwyn gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys:

  • rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
  • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

Y 24 plaid wleidyddol a adroddodd am roddion ym mhedwerydd chwarter 2021, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:

Plaid

Cyfanswm a adroddwyd

Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)

Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd

Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn

Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon

£122,195

£100,600

£20,109

£120,709

Plaid Gomiwnyddol Prydain

£3,569

£3,569

£0

£3,569

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)

£5,055,082

£4,906,452

£51,898

£4,958,350

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon)

£11,591

£11,591

£0

£11,591

Y Blaid Gydweithredol

£62,290

£28,290

£0

£28,290

Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P

£88,299

£2,000

£86,299

£88,299

Y Blaid Werdd (Prydain Fawr)

£150,373

£105,934

£44,439

£150,373

Y Blaid Werdd (Gogledd Iwerddon)

£10,790

£0

£10,790

£10,790

Y Blaid Lafur

£3,875,700

£2,010,808

£1,826,358

£3,837,167

Y Democratiaid Rhyddfrydol

£1,034,137

£610,020

£355,348

£965,368

People Before Profit Alliance        

£10,818

£5,250

£4,518

£9,768

Plaid Cymru

£24,795

£0

£24,795

£24,795

Reform UK

£35,000

£33,000

£0

£33,000

Renew

£15,000

£15,000

£0

£15,000

Plaid Werdd yr Alban

£31,657

£24,573

£7,083

£31,657

Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)

£360,010

£87,400

£272,610

£360,010

SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)

£50,988

£0

£50,988

£50,988

Sinn Féin

£109,914

£11,316

£80,274

£91,590

The Reclaim Party

£350,000

£350,000

£0

£350,000

Traditional Unionist Voice - TUV

£6,840

£0

£6,840

£6,840

True & Fair Party

£30,000

£30,000

£0

£30,000

Plaid Unoliaethwyr Ulster

£23,603

£0

£23,603

£23,603

Plaid Cydraddoldeb Menywod

£11,000

£5,000

£0

£5,000

Cyfanswm

£11,473,651

£8,340,803

£2,865,952

£11,206,757

Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a / neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir.

Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.

Methodd 12 o bleidiau â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol.. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.

Benthyca

Cafodd £115,000 o fenthyciadau newydd eu hadrodd ym mhedwerydd chwarter 2021. Cafodd benthyciadau â gwerth o £10,500 eu talu’n llawn.

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch4 2021

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Ym mhedwerydd chwarter 2021, derbyniwyd £808,249 mewn rhoddion gan 79 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.

Math o dderbyniwr a reoleiddir

Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd

Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor

Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd

Maer

£20,888

£0

£20,888

Cymdeithas Aelodau

£148,250

£0

£148,250

AS - Aelod Seneddol

£330,704

£300,551

£631,255

MSP - Aelod o Senedd yr Alban

£0

£7,856

£7,856

Cyfansymiau

£499,841

£308,407

£808,249

Rhagor o wybodaeth

Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau yn mhedwerydd chwarter 2021, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.

Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.

2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.

3. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.

4. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.

5. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.

6. Roedd 362 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod pedwerydd chwarter 2021. Roedd gofyn i 66 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 52 ohonynt gyflwyno gwybodaeth fenthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.

7. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.

8. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.

9. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.

10. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.