Cyngor newydd i bleidleiswyr ar dwyllwybodaeth, ac i ymgyrchwyr sy’n defnyddio AI cynhyrchiol

Cyngor newydd i bleidleiswyr ar dwyllwybodaeth, ac i ymgyrchwyr sy’n defnyddio AI cynhyrchiol

Mae pleidleiswyr yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol am ddeunydd ymgyrchu, wrth i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr gael eu hannog i ymgyrchu’n dryloyw cyn yr etholiad cyffredinol fis nesaf. 

Mae pleidleiswyr yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol am ddeunydd ymgyrchu, wrth i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr gael eu hannog i ymgyrchu’n dryloyw cyn yr etholiad cyffredinol fis nesaf. 

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn galw ar bob ymgyrchydd sy’n cymryd rhan yn yr etholiad i beidio â chamarwain pleidleiswyr, ac i ystyried sut bydd eu deunydd ymgyrchu yn cael ei dderbyn, yn enwedig wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) cynhyrchiol.

Daw’r rhybudd wrth i’r Comisiwn gyhoeddi cyngor newydd i bleidleiswyr ar sut i ymgysylltu â deunydd ymgyrchu ac i feddwl yn feirniadol am ddeunydd maen nhw’n ei weld a’i glywed. 

Meddai Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:  

“Mae cael gwybodaeth i bleidleiswyr mewn ymgyrch etholiadol yn rhan sylfaenol o unrhyw etholiad; mae angen gwybodaeth ddibynadwy ac y gellir ymddiried ynddi ar bleidleiswyr i’w helpu i wneud penderfyniadau am sut i bleidleisio. Ac eto, mae ein hymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn ystyried bod twyllwybodaeth a chamwybodaeth wleidyddol yn broblem – dywedodd 70% hynny yn ein harolwg diweddar. Felly, mae mynd i’r afael â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth wleidyddol yn hanfodol os ydyn ni am ddiogelu a chynnal hyder pleidleiswyr yn ein system etholiadol.

“Rydyn ni’n galw ar ymgyrchwyr i gyflawni eu swyddogaethau hanfodol yn gyfrifol a meddwl yn ofalus am y deunydd maen nhw’n ei gynhyrchu. Dylai ymgyrchwyr ystyried a allai’r deunydd maen nhw’n ei greu gamarwain pleidleiswyr – eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud yn siŵr nad yw’n gwneud hynny. Dylai unrhyw un sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol nodi hynny’n glir i’r rhai sy’n gweld y deunydd. Byddwn yn monitro’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn ofalus yn yr etholiad yma.”

Nid oes gan y Comisiwn bwerau cyfreithiol i reoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu. Nid oes gan yr un sefydliad yng ngwledydd Prydain y pwerau hynny. Mae’r Comisiwn felly’n cynghori pleidleiswyr i feddwl yn feirniadol am y wybodaeth maen nhw’n ei gweld, cyn penderfynu a ddylen nhw adael iddi ddylanwadu ar eu pleidlais. Dylai pleidleiswyr chwilio am argraffnod, yn dangos pwy sydd wedi talu am greu a hyrwyddo deunydd. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer yr holl ddeunydd etholiadol. 

Mae’r Comisiwn hefyd yn cynghori pleidleiswyr i ddefnyddio gwefan y Comisiwn i wirio gwybodaeth am brosesau pleidleisio neu etholiadol ac yn dweud y bydd yn mynd ati’n rhagweithiol i gywiro unrhyw wybodaeth ffug am bleidleisio.

Ychwanegodd Vijay Rangarajan: 

“Rydyn ni’n darparu ffynhonnell o wybodaeth ddibynadwy i bleidleiswyr am brosesau pleidleisio yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol yma. Tra bod y mwyafrif helaeth o bobl sy’n cymryd rhan mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig eisiau cefnogi pleidleiswyr i gael dweud eu dweud, mae drwgweithredwyr allan yna sy’n ceisio camarwain pleidleiswyr a’u hatal rhag bwrw eu pleidlais. Os byddwn yn gweld camwybodaeth neu dwyllwybodaeth am y broses bleidleisio byddwn yn ei chywiro’n gyflym ac yn gyhoeddus. 

“Rydyn ni’n annog pleidleiswyr i feddwl yn feirniadol am yr hyn rydych chi’n ei weld a’i glywed yn yr ymgyrch yma, ac i wirio ein gwefan i sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i bleidleisio ar 4 Gorffennaf, neu drwy bleidlais bost cyn hynny.”

DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu [email protected].

Nodiadau i olygyddion

  • Canfu arolwg tracio blynyddol y Comisiwn fod 70% o’r ymatebwyr wedi dweud bod ‘Gwybodaeth anghywir / gwybodaeth anghywir wleidyddol (e.e. fideo/delweddau/sain ffug neu ‘newyddion ffug’) yn broblem. Daw’r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, gan YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 5,874 oedolyn. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 24 Ionawr - 22 Chwefror 2024. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion y DU (16+/18+ oed).
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gweithio er mwyn hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy’r canlynol: 
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael â’r newidiadau yn yr amgylchedd i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch 
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a delio ag achosion o dorri rheolau 
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd 
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd yr Alban.