Ymgysylltu â deunydd ymgyrchu yn ystod etholiadau

Mae ein hymchwil yn dweud wrthon ni fod pleidleiswyr yn pryderu am dderbyn gwybodaeth gamarweiniol yn y cyfnod cyn etholiadau.

Rydyn ni am i chi fod yn hyderus pryd bynnag y byddwch chi’n dod ar draws deunydd ymgyrchu. Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyngor ar sut i ymgysylltu â deunydd ymgyrchu a chyngor ynghylch pwy i gysylltu â nhw os oes gennych gwestiynau am wybodaeth rydych chi wedi’i gweld neu ei chlywed. Mae hefyd yn nodi’r hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod gan bleidleiswyr fynediad at wybodaeth o safon.

Rydyn ni’n defnyddio ‘deunydd ymgyrchu’ i olygu unrhyw ddeunydd mae ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchwyr di-blaid yn ei anfon at bleidleiswyr. Gallai fod yn ddiweddariad am yr hyn sy’n digwydd yn yr etholaeth, gwybodaeth am bolisi, neu ddeunydd hyrwyddo ar gyfer etholiad neu refferendwm, er enghraifft.

Dim ond rhai mathau o ddeunydd ymgyrchu sydd wedi’u cynnwys mewn cyfraith etholiadol.

Nid ydyn ni’n rheoleiddio cynnwys deunydd ymgyrchu. Fodd bynnag, rydyn ni’n annog ymgyrchwyr i gyflawni eu swyddogaeth o ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn modd cyfrifol a thryloyw.

Gall rhai ymgyrchwyr ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol i greu deunydd ymgyrchu. Rydyn ni’n disgwyl i unrhyw un sy’n defnyddio deunydd ymgyrchu a baratowyd gan ddeallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio mewn modd nad yw’n camarwain pleidleiswyr, ac i’w labelu’n glir fel bod pleidleiswyr yn gwybod sut cafodd ei greu.

Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn cyfeirio at unrhyw raglen sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu cynnwys testun, llun, sain neu fideo newydd yn seiliedig ar ysgogiadau gan ddefnyddwyr.