Datganiad ar ôl y cyfrif – etholiad y Senedd 2026

Yn dilyn diwedd cyfrif etholiad y Senedd, dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:

“Mae’r broses o wirio a chyfrif pleidleisiau ar gyfer etholiad y Senedd bellach wedi dod i ben ac mae pob un o'r 16 etholaeth wedi cyhoeddi eu canlyniadau. 51.6% oedd y nifer a bleidleisiodd – sy’n uwch na’r nifer ym mhob etholiad blaenorol y Senedd a Chynulliad Cymru. Ein hasesiad cychwynnol yw bod y cyfrif wedi mynd rhagddo’n esmwyth ac wedi digwydd yn dryloyw ym mhresenoldeb ymgeiswyr a’u hasiantiaid a’r cyfryngau.

“Mae cynnal etholiadau’r Senedd yn dasg sylweddol. Roedd ffiniau etholaethau newydd a system bleidleisio newydd ar waith yn yr etholiad hwn, a oedd yn gofyn am waith cynllunio a chydlynu sylweddol dan arweiniad Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru. Cymerodd nifer o bobl ifanc 16-17 oed ran am y tro cyntaf hefyd. Rydym am ddiolch i’r gweinyddwyr etholiadol a’r Swyddogion Canlyniadau ledled Cymru am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb wrth gynnal yr etholiadau llwyddiannus hyn. Rydym hefyd yn talu teyrnged i’r ymgeiswyr wnaeth sefyll i gael eu hethol.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a’r heddluoedd yn ystod yr ymgyrch etholiadol i gefnogi ymchwiliadau i honiadau o gamdriniaeth a bygythiadau. Mae cam-drin a bygwth ymgeiswyr, swyddogion etholedig a gweithwyr etholiadol yn gallu bod yn anodd iawn i unigolion ac mae’n difrodi ein democratiaeth. Galwodd y Comisiwn am ymgyrch sy’n rhydd rhag camdriniaeth a bygythiadau, a chyhoeddodd set newydd o egwyddorion i lywio ymgyrchu yn yr etholiadau hyn

“Rydym wedi bod yn effro i ledaeniad gwybodaeth anwir, gan gynnwys cynnwys a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial. Lle daeth gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r golwg, gwnaethom weithio’n gyflym gyda phartneriaid i fynd i’r afael â hi a’i dileu. Nid ydym wedi gweld unrhyw ffugiadau dwfn sylweddol yn effeithio ar etholiad y Senedd.

“Rydym yn ymwybodol o broblemau gyda dosbarthu rhai pleidleisiau post yng Nghaerdydd. Fe wnaethon ni gysylltu â Swyddogion Canlyniadau a’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a gadarnhaodd nad oedd unrhyw broblemau cyffredin ynghylch pleidleisio drwy’r post yng Nghymru yn yr etholiad hwn. Byddwn yn cynnwys gweinyddu pleidleisiau post fel rhan o’n proses adrodd ar ôl y bleidlais.

“Byddwn nawr yn casglu tystiolaeth gan bleidleiswyr, ymgeiswyr, gweinyddwyr ac ymgyrchwyr i lywio ein hasesiad o'r etholiadau hyn. Byddwn yn edrych ar foddhad pleidleiswyr, uniondeb yr etholiadau, diogelwch y rhai a safodd i gael eu hethol a’r rhai a gynhaliodd yr etholiadau hyn, a pha mor gyffredin yw camwybodaeth a thwyllwybodaeth ac effaith y rhain. Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad statudol ar etholiad y Senedd yn yr hydref, gan argymell gwelliannau i’r system lle bo angen.”

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]

Nodiadau i olygyddion

  • Etholiad y Senedd 2026 yw'r cyntaf i gael ei gynnal o dan y system bleidleisio rhestr gyfrannol gaeedig. Mae gan Gymru bellach 16 etholaeth a gynrychiolir gan 96 Aelod o'r Senedd.
  • Mae'r etholfraint ar gyfer etholiad y Senedd yn cynnwys pobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy: 
    •    alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch 
    •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau 
    •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.