Dim lle i gam-drin na bygwth ymgeiswyr yn etholiad y Senedd
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn galw ar etholiad y Senedd ar 7 Mai i fod yn rhydd rhag camdriniaeth i bleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr gymryd rhan mewn trafodaethau’n barchus.
Mae cam-drin a bygwth ymgeiswyr yn parhau i fod yn broblem ddifrifol ledled Cymru a'r DU. Yn ôl ymchwil y Comisiwn ymysg ymgeiswyr yn yr etholiad lleol yng Nghymru yn 2022, profodd 48% o ymatebwyr fygythiadau a chamdriniaeth. Dywedodd ychydig dros hanner yr ymgeiswyr a holwyd yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU yn 2024 eu bod wedi cael eu cam-drin neu eu bygwth yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwelwyd menywod a grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu targedu’n bennaf.
Wrth i'r etholiad agosáu, mae'r Comisiwn yn gweithio gyda'r heddlu i fynd i'r afael â chamdriniaeth a bygwth etholiadol, gan annog pob heddlu i drin honiadau o ddifrif ac i ymateb mewn modd cyson. Mae pedwar llu heddlu Cymru wedi penodi uwch bwyntiau cyswllt unigol ar gyfer diogelwch ymgeiswyr a byddant yn darparu sesiynau briffio diogelwch yn y cyfnod cyn yr etholiad. Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio at ganllawiau Llywodraeth y DU ynghylch sut y gallant wella eu diogelwch a phryd i gysylltu â'r heddlu. Mae'r Comisiwn hefyd yn cefnogi gweinyddwyr etholiadol i sicrhau bod yr etholiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar eu pwerau mewn gorsafoedd pleidleisio a'r lleoliadau cyfrif, fel y gall pawb gymryd rhan heb rwystrau a heb gael eu bygwth.
Yn ogystal â hynny, mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi cyfres o egwyddorion mewn cod ymddygiad ar sut i arwain ymgyrchu. Mae’r cod ymddygiad yn canolbwyntio ar gynnal dadleuon parchus, diogel a gonest a gafodd ei greu mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Gynhadledd y Llefarydd ar ddiogelwch ASau, ymgeiswyr ac etholiadau. Mae'r egwyddorion yn adeiladu ar themâu cyffredin ar draws codau ymddygiad presennol y pleidiau, a’r nod yw rhoi safon ymddygiad cyffredin, gofynnol ar waith, er mwyn sicrhau bod ymgyrchwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hamddiffyn.
Mae addysg hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â chamdriniaeth drwy baratoi pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth. Mae'r Comisiwn wedi datblygu adnoddau addysg ddemocrataidd ar gyfer athrawon a phobl ifanc cyn etholiad y Senedd, sy'n meithrin hyder mewn dadl barchus, yn gwella llythrennedd yn y cyfryngau, ac yn meithrin dealltwriaeth o rôl y Senedd a'i gwleidyddion.
Mae'r Comisiwn wedi argymell y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol fynd i'r afael â chamdriniaeth ar-lein, gan ddefnyddio protocolau ymateb cyflym safonol i gael gwared ar gynnwys bygythiol ac i ddod o hyd i'r troseddwyr. Mae'n dadlau y byddai hyn yn diogelu unigolion a'u teuluoedd, yn ogystal â diogelu iechyd democratiaeth y DU.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
"Mae ymgyrchu yn hanfodol i'n democratiaeth ac fel arfer mae’n cael ei gynnal gyda pharch. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos bod llawer gormod o ymgeiswyr yn wynebu aflonyddu a chamdriniaeth. Mae cam-drin a bygwth ymgeiswyr, swyddogion etholedig a gweithwyr etholiadol yn gallu bod yn anodd iawn i unigolion ac mae’n difrodi ein democratiaeth.
“Nid yw hyn yn rhan anochel o fywyd gwleidyddol. Er hynny, i fynd i’r afael ag ef mae angen i bawb chwarae eu rhan - y llywodraeth, heddlu, rheoleiddwyr, pleidiau gwleidyddol a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol i ddiogelu’r rhai sy’n ymwneud â’n hetholiadau.”
“Rydym wedi gwneud argymhellion i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gryfhau eu hymateb i gynnwys camdriniol, ac wedi nodi egwyddorion newydd ar gyfer ymgyrchu, sy’n ceisio helpu ymgeiswyr i gymryd rhan mewn etholiadau yn ddiogel ac yn barchus.
“Ni ddylai unrhyw un cael eu rhwystro rhag sefyll mewn etholiad na siarad â phleidleiswyr."
Dywedodd Simon Belcher, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru:
“Mae ymgyrchu a safbwyntiau gwleidyddol gwahanol yn arwydd o ddemocratiaeth iach, ond ni ddylai’r rhain groesi’r ffin i fod yn gamdriniaeth, aflonyddu nac anrhefn droseddol. Mae bygwth trais, cyswllt digroeso, a chamdriniaeth wahaniaethol yn anghyfreithiol ac mae cosbau difrifol i’r rhai y’u ceir yn euog o droseddau. Mae pob un o’r pedwar llu heddlu wedi addo atal a chanfod troseddau a galluogi’r prosesau democrataidd i fwrw ymlaen heb rwystrau’r etholiad hwn.”
“Bydd ein canllawiau ar y cyd yn helpu ymgeiswyr i gadw’n ddiogel wrth ymgyrchu ac maent yn rhoi cyngor ar y camau neu’r ymddygiad a allai fod yn drosedd, pryd y dylai ymgeiswyr gysylltu â’r heddlu a’r camau ymarferol y gall ymgeiswyr eu cymryd i ddiogelu eu hunain.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Ella Farrell drwy ffonio 029 2034 6814, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu drwy e-bostio [email protected].
Nodiadau i Olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd dros newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.