Dim ond wythnos sydd ar ôl i wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim (Cymru)
ID and accessibility
Dim ond wythnos sydd gan bleidleiswyr heb ID i wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim cyn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn annog unrhyw un sydd angen yr ID am ddim i wneud cais nawr, cyn y dyddiad cau am 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin.
Mae’r Comisiwn mewn partneriaeth â’r elusennau anabledd Mencap Cymru, RNIB Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru, i helpu i sicrhau bod gan bob pleidleisiwr y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Datgelodd ymchwil yn dilyn etholiadau lleol y llynedd yn Lloegr fod pleidleiswyr ag anableddau yn ei chael hi’n anoddach dangos ID a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio. Mae’r mathau o ID a dderbynnir yn cynnwys pasbort, trwydded yrru, Bathodyn Glas a phàs bws person anabl. Gall unrhyw un heb un o'r rhain wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim y gellir ei defnyddio i brofi pwy ydynt yn yr orsaf bleidleisio.
Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein drwy fynd i gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr, drwy gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol yn bersonol neu dros y ffôn, neu drwy lenwi ffurflen bapur a'i hanfon at y tîm lleol perthnasol.
Yn yr orsaf bleidleisio, gall pleidleiswyr ag anableddau nawr ddewis unrhyw un sy'n 18 oed neu hŷn i fynd gyda nhw i orsaf bleidleisio a darparu cymorth. Dylai cynghorau lleol sicrhau bod offer a chymorth ar gael i bleidleiswyr ag anableddau, gan gynnwys dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy, bythau pleidleisio ar lefel cadair olwyn, chwyddwydrau a gafaelion pensiliau.
Dylai unrhyw un sydd angen cymorth ychwanegol neu sy'n cael ei ystyried yn glinigol fregus gysylltu â'i gyngor lleol i gael gwybod pa fesurau sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru:
“Mae gan unrhyw bleidleisiwr sydd heb yr ID sydd ei angen arno wythnos ar ôl i wneud cais am yr ID pleidleisiwr am ddim. Mae amser yn brin, felly peidiwch ag oedi cyn gwneud cais.
“Mae’n bwysig bod pob pleidleisiwr yn gallu pleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol. Gall cynghorau lleol ddarparu offer i helpu i gefnogi hyn, felly cysylltwch â’ch un chi i drafod beth sydd ar gael.”
Dywedodd Samantha Williams, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu Anabledd Dysgu Cymru:
“Mae pobl ag anabledd dysgu yn aml yn wynebu rhwystrau rhag pleidleisio mewn etholiadau. Er enghraifft, nid oes gan bawb yr ID sydd ei angen arnynt i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf. Mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwybod, os nad oes ganddynt ID, y gallant wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim erbyn 26 Mehefin.
“Mae gwybodaeth hawdd ei darllen ar gael i helpu pobl i ddeall eu hawliau, pam mae pleidleisio’n bwysig, sut i wneud cais am ID pleidleisiwr a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n pleidleisio.”
Dywedodd Ansley Workman, Cyfarwyddwr RNIB Cymru:
“Ni ddylai unrhyw un wynebu rhwystrau wrth arfer eu hawl i bleidleisio. Mae’n hanfodol bod pobl ddall a rhannol ddall yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt am ofynion pleidleisio, darpariaethau hygyrchedd a chymorth ychwanegol yn yr orsaf bleidleisio, a hynny mewn fformat hygyrch o’u dewis.
“Mae’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim yn gam tuag at adeiladu tirwedd bleidleisio decach yng Nghymru. Gobeithiwn weld mwy o newidiadau cadarnhaol i’r drefn bresennol a fydd yn caniatáu i bawb bleidleisio’n annibynnol ac yn gyfrinachol.
“Gall pobl ddall a rhannol ddall sydd â chwestiynau ynghylch pleidleisio â nam ar eu golwg gysylltu ag RNIB Cymru am wybodaeth a chyngor drwy ein llinell gymorth drwy ffonio 0303 123 9999 neu drwy fynd i rnib.org.uk.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Uwch Gynghorydd Cyfathrebu, ar 029 2034 6824, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected].
Nodiadau i olygyddion
- Mae Mencap ac Anabledd Dysgu Cymru wedi cyhoeddi canllawiau hawdd eu darllen ar bleidleisio. Mae gan Lywodraeth y DU hefyd ganllawiau hawdd eu darllen ar wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
- Mae RNIB Cymru wedi llunio canllawiau ar bleidleisio i bleidleiswyr dall a rhannol ddall.
- Mae mathau o ID ffotograffig a dderbynnir yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad; trwydded yrru’r DU neu’r AEE; a rhai pasys teithio rhatach, megis pàs bws person hŷn a ariennir gan Lywodraeth y DU neu gerdyn Oyster 60+. Gall pleidleiswyr ddefnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffoto o hyd
- I gael gwybod pa gymorth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio lleol neu i ofyn am offer penodol, dylai pleidleiswyr gysylltu â'u cyngor lleol. Ceir manylion am gynghorau lleol yma.