Penodi ymgynghorydd annibynnol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i Fwrdd y Comisiwn

Text

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi penodi ymgynghorydd annibynnol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i’w Fwrdd. Ymunodd Sal Naseem â’r Bwrdd ar 7 Medi i roi arbenigedd a chyngor ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i gefnogi’r Bwrdd wrth iddo weithio tuag at fwy o ymgysylltu â grwpiau amrywiol sy’n cynrychioli pleidleiswyr ar draws y DU.

Dywedodd John Pullinger CB, Cadeirydd, y canlynol am y penodiad:

“Mae democratiaeth yn ffynnu ar ddidwylledd ac hygyrchedd. Dylai ein prosesau etholiadol fod yn agored ac yn hygyrch i bawb sydd â’r hawl i bleidleisio, i bawb sy’n dewis sefyll mewn etholiadau ac i bawb sy’n ymgyrchu ar eu rhan.

“Mae gan y Comisiwn rôl hanfodol wrth gynnal hyder y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd. Er mwyn cynnal yr hyder hwnnw, mae angen i’n sefydliad adlewyrchu amrywiaeth y pleidleiswyr ar draws y DU fel ein bod yn gallu deall eu profiadau’n well.  Dyna pam rydym eisiau ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y ffordd rydym yn gweithio ar draws y Comisiwn.”

Ochr yn ochr â’i rôl yn y Comisiwn, Sal hefyd yw’r Cyfarwyddwr Rhanbarthol dros Lundain yn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Yno mae’n arwain gwaith y sefydliad ar wahaniaethu. Mae Sal wedi gweithio yn y sector rheoleiddio am 12 mlynedd ac wedi dal rolau arwain mewn cyrff sy’n cynnwys Ofqual, yr Ombwdsmon Cyfreithiol a’r Comisiwn Archwilio.

Dywedodd Sal Naseem, Ymgynghorydd Annibynnol i’r Bwrdd:

“Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i ddemocratiaeth. Rwyf wrth fy modd yn dechrau yn fy rôl newydd ac wedi ymrwymo i gefnogi’r Bwrdd wrth iddo weithio i gyflawni ei weledigaeth am Gomisiwn amrywiol sy’n gweini democratiaeth amrywiol.