Pleidiau gwleidyddol yn adrodd rhoddion o £51m yn 2022

Political parties report donations of £51m in 2022

Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig eu bod wedi derbyn dros £51m mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod 2022, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw.

Adroddodd pleidiau ac ymgyrchwyr eu bod wedi derbyn cyfanswm o £51,594,424 yn 2022, o gymharu â £51,290,954 yn 2021, gyda £14,779,158 o gyfanswm 2022 yn cael ei dderbyn yn chwarter olaf y flwyddyn (Hydref i Ragfyr). 

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio y Comisiwn Etholiadol:

“Gwyddwn fod pleidleiswyr am wybod o ble y daw rhoddion gwleidyddol a phwy sy’n eu derbyn, ond mae hyder y cyhoedd yn hygrededd a thryloywder cyllid pleidiau ac ymgyrchwyr yn dirywio. Rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth hon fel bod pleidleiswyr yn deall o ble y daw’r arian. Diben hyn yw rhoi hyder yn y system i bleidleiswyr. 

“Fodd bynnag, nid yw cael gwybodaeth am bwy yw’r rhoddwyr a faint maen nhw’n ei roi yn ddigon i fagu hyder bod y system yn gwbl dryloyw. Rydym wedi argymell diwygiadau i lywodraeth y DU, a fyddai’n helpu i gryfhau’r system cyllid gwleidyddol ymhellach.”

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:

  • rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (dros £1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
  • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

Gall pleidiau hefyd adrodd rhoddion a ddylai fod wedi cael eu hadrodd mewn chwarteri blaenorol.

Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd roddion ym mhedwerydd chwarter 2022, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:

Plaid

Cyfanswm a adroddwyd

Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)

Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd

Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn

Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon

£56,966

£25,000

£31,966

£56,966

Breakthrough Party

£40,000

£0

£0

£0

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)

£4,858,373

£4,744,114

 

£31,833

£4,775,947

 

Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon)

£10,881

£10,881

£0

£10,881

Y Blaid Gydweithredol

£47,444

£47,444

£0

£47,444

Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P

£86,066

£0

£86,066

£86,066

Y Blaid Werdd

£172,192

£122,202

£46,778

£168,980

Y Blaid Lafur

£7,220,437

£5,054,462

£2,119,808

£7,174,270

Y Democratiaid Rhyddfrydol

£1,426,226

£966,851

£377,637

£1,344,488

People Before Profit Alliance

£13,164

£2,100

£4,764

£6,864

Plaid Cymru

£34,719

£7,000

£27,719

£34,719

Plaid Werdd yr Alban

£52,139

£47,761

£4,378

£52,139

Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)

£538,339

£251,000

£287,339

£538,339

SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)

£148,816

£0

£50,105

£50,105

Sinn Féin

£232,814

£150,000

£82,814

£232,814

Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol

£20,000

£20,000

£0

£20,000

The Reclaim Party

£75,000

£75,000

£0

£75,000

Traditional Unionist Voice - TUV

£6,783

£0

£6,783

£6,783

True & Fair Party

£54,500

£54,500

£0

£54,500

Plaid Unoliaethwyr Ulster

£22,854

£0

£22,854

£22,854

Plaid Cydraddoldeb Menywod

£25,000

£20,000

£0

£20,000

Cyfanswm

£15,148,712

£11,598,315

£3,180,843

£14,779,158

 

Gallai’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a / neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir.

Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau incwm sylweddol i bleidiau.

Methodd pump o bleidiau â bodloni'r dyddiad cau adrodd ar gyfer y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw’n briodol. Bydd unrhyw gosbau a roddir yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad hwyrach.

Benthyca

Cafodd £2,028,800 o fenthyciadau newydd eu hadrodd ym mhedwerydd chwarter 2022. Cafodd benthyciadau â gwerth o £620,017 eu talu’n llawn.

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch4 2022

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Ym mhedwerydd chwarter 2022, derbyniwyd £736,637 mewn rhoddion gan 89 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn y rhoddion arian parod a’r rhoddion nad ydynt yn arian parod ar gael ar ein gwefan.

Math o dderbyniwr a reoleiddir

Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd

Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor

Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd

Ymgeisydd Arweinyddiaeth

£30,350

£0

£30,350

Maer

£79,891

£0

£79,891

Aelod o Blaid Wleidyddol Gofrestredig

£6,000

£0

£6,000

Cymdeithas Aelodau

£117,819

£0

£117,819

MLA - Aelod o Awdurdod Deddfwriaethol Gogledd Iwerddon

£0

£4,110

£4,110

AS - Aelod Seneddol

£296,714

£199,753

£ 496,467

MSP - Aelod o Senedd yr Alban

£ 2,000

£0

£2,000

Cyfansymiau

£532,775

£203,863

£736,637

Rhagor o wybodaeth

Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn.

Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau a adroddwyd yn Ch4 2022 ar gael ar ein cofrestr cyllid gwleidyddol.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr. Unwaith y bydd y blaid ganolog wedi adrodd rhodd neu gydgrynhoi rhodd o dros £7,500 mae’n rhaid iddynt adrodd bob rhodd dilynol o fwy na £1,500 o’r ffynhonnell hwnnw.
  2. Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  3. Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
  4. Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
  5. Roedd 351 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod pedwerydd chwarter 2022. Roedd gofyn i 50 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 35 ohonynt gyflwyno gwybodaeth fenthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
  6. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan. Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau. Yna mae’r cofrestrydd yn anfon y manylion hyn i’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn nodi unrhyw roddion sydd yn disgyn o fewn rheolau ar dderbynwyr a reoleiddir ac rydym yn cyhoeddi rhain. Mae gan y Comisiwn rôl o reoleiddio mewn perthynas â rhoddion a ganiateir. Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban
  7. Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.