Y Comisiwn Etholiadol yn cau tri ymchwiliad i bleidiau gwleidyddol

Electoral Commission concludes three investigations into political parties

Mae ymchwiliadau i dair plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosb ar un blaid. Mae cyhoeddi cosbau cau yn rhan bwysig o ddarparu tryloywder o ran cyllid gwleidyddol yn y DU.

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio Yr hyn y gwnaethom ganfod Canlyniad
Democratiaid Lloegr (plaid wleidyddol) Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr Cafwyd bod trosedd cosb o £1,500
Portsmouth Independent Party (plaid wleidyddol)

Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr

Cafwyd bod trosedd

Dim cosb

Achos wedi’i gau

Hysbysu newid manylion swyddog cofrestredig yn hwyr Cafwyd bod trosedd

Dim cosb

Achos wedi’i gau

Scotland's Independence Referendum Party (plaid wleidyddol sydd wedi’i dadgofrestru) Methu â danfon datganiad blynyddol o gyfrifon Cafwyd bod trosedd

Dim cosb

Achos wedi’i gau

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:

“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol yn eu lle er mwyn sicrhau bod y system yn dryloyw ac yn gywir. Mae'r gofynion ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi’n siomedig pan na chânt eu bodloni. 

“Rydym yn ystyried pob achos yn unol â'n Polisi Gorfodi. Lle rydym yn canfod fod trosedd wedi’i chyflawni, rydym yn cymryd agwedd gymesur ac nid ydym yn codi cosb yn awtomatig.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.

2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.

3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.