Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol
Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol
Mae ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf, gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau mewn un achos.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
Democratiaid Rhyddfrydol (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am 25 o roddion | Troseddau a gafwyd | Dwy ddirwy o £200 yr un, ac un ddirwy o £2,000 Dirwyon wedi’u talu |
The Reclaim Party (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr ar adroddiad archwilio ynghyd â chyfrifon 2021 y blaid | Troseddau a gafwyd | Un ddirwy o £1,250 Dirwyon wedi’u talu |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydyn ni’n eu gorfodi yn bodoli i sicrhau tryloywder a chynyddu hyder y cyhoedd yn ein system. Mae'r cyfreithiau’n glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu dilyn.”
“Canfu ein hymchwiliadau i’r Democratiaid Rhyddfrydol nifer o roddion a adroddwyd yn hwyr a 15 trosedd, tra canfu ein hymchwiliad i’r Reclaim Party fethiant i gyflwyno adroddiad archwilio ynghyd â’r cyfrifon. Lle canfyddwn troseddau, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau wrth benderfynu p’un a ddylid gosod cosb. Rydym yn ystyried amrywiaeth o ffactorau cyn gwneud ein penderfyniad terfynol, gan gynnwys cymesuredd.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. - Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.