Y Comisiwn Etholiadol yn galw am welliannau i hygyrchedd ID pleidleiswyr

Llwyddodd bron pawb a aeth i orsaf bleidleisio yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2024 i bleidleisio, yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Etholiadol ar weithrediad y polisi ID pleidleiswyr.

0.08% o bobl ym Mhrydain a geisiodd bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ond a fethodd â gwneud hynny oherwydd na chyflwynon nhw ID derbyniol. 

Mae’r data, a gasglwyd gan staff gorsafoedd pleidleisio, yn awgrymu bod tua 16,000 o bobl wedi methu â bwrw’u pleidlais oherwydd y gofyniad, sy’n cyfateb i 1 ym mhob 1,200 o bleidleiswyr a ddaeth i’r gorsafoedd. 

Mae hyn yn cynrychioli gwelliant ers cyflwyno’r polisi ID pleidleiswyr yn etholiadau lleol mis Mai 2023, pan oedd canran y pleidleiswyr a geisiodd fwrw’u pleidlais ond a fethodd yn 0.25%.

Canfu ymchwil y Comisiwn, a gynhaliwyd gan YouGov, lefelau uchel o ymwybyddiaeth, gydag 87% o bobl yng ngwledydd Prydain yn ymwybodol o’r gofyniad yn dilyn ymgyrch gyhoeddus eang i rannu gwybodaeth cyn yr etholiad. Roedd lefel yr ymwybyddiaeth hyd yn oed yn uwch yn yr Alban (90%), lle’r oedd y gofyniad ar waith am y tro cyntaf, a Chymru (89%), y ddwy wlad yn debyg i lefel ymwybyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon (89%) lle mae’r gofyniad wedi bod ar waith ers 2003. 

Fodd bynnag, canfu gwaith ymchwil am farn y cyhoedd, a gynhaliwyd ar ran y Comisiwn ymhlith pobl nad oeddent wedi pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol, fod 4% wedi nodi’r gofyniad i ddangos ID pleidleisiwr fel rheswm dros beidio â gwneud hynny, sy’n awgrymu bod y gofyniad yn atal rhai pobl rhag pleidleisio. 

Felly, mae’r Comisiwn yn argymell gwneud newidiadau i’w gwneud yn haws i’r rhai sydd heb ID addas i bleidleisio. Mae’r Comisiwn yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y canlynol:

  • Adolygu’r rhestr o ddogfennau ID derbyniol i nodi unrhyw ddogfennau ychwanegol y gellid eu hystyried, fel Cerdyn Gostyngiad Teithio’r Ganolfan Byd Gwaith a cherdyn llun Oyster i fyfyrwyr 18+, yn ogystal â cherdyn Cyn-filwyr. 
  • Cynnal a chyhoeddi adolygiad o’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ac ystyried a fyddai modd cyhoeddi’r dystysgrif yn ddigidol i annog mwy o bobl i’w defnyddio. 
  • Galluogi pleidleiswyr cofrestredig sydd ag ID derbyniol i wneud ardystiad yn eu gorsaf bleidleisio ar ran rhywun nad oes ganddyn nhw ID derbyniol – sef ‘tystio’.

Meddai Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol: 

“Dyma’r tro cyntaf roedd hi’n ofynnol i bob pleidleisiwr ar draws y Deyrnas Unedig ddangos ID ffotograffig mewn etholiad cyffredinol, ac mae’r data’n dangos bod bron pawb wedi gallu gwneud hynny’n llwyddiannus. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos bod yr angen am ID wedi atal rhai pobl rhag pleidleisio – a dydyn ni ddim am weld unrhyw bleidleiswyr yn colli cyfle i fwrw’u pleidlais. 

“Mae ymwybyddiaeth gyhoeddus o’r angen i ddangos ID yn uchel ar draws gwledydd Prydain, ond mae rhai grwpiau o bleidleiswyr o hyd sy’n llai tebygol o fod yn ymwybodol o’r angen hwnnw neu sydd heb ID derbyniol. Dylai pawb sy’n gymwys i bleidleisio gael cyfle i wneud hynny, a dyna pam ein bod yn argymell newidiadau a fydd yn cefnogi’r rhai sydd heb ID ar hyn o bryd, ac fydd yn gwella hygyrchedd etholiadau a chynnal diogelwch y broses ar yr un pryd. 

“Bydd y Comisiwn yn adolygu sut gall ein hymgyrchoedd cyhoeddus a gwaith arall barhau i gefnogi gweithrediad effeithiol y polisi o ofyn am ID pleidleiswyr a lleihau’r rhwystrau i bleidleisio.”

Canfu dadansoddiad annibynnol y Comisiwn, ar sail data gorsafoedd pleidleisio ac ymchwil am farn y cyhoedd o bob rhan o Brydain:

  • bod 0.25% o’r bobl a aeth i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio wedi cael eu gwrthod i ddechrau, ond bod dwy ran o dair o’r bobl hyn wedi dychwelyd yn ddiweddarach yn y dydd ac wedi gallu pleidleisio. Ni ddychwelodd y 0.08% arall ac felly ni wnaethant bleidleisio. 
  • bod 87% o bobl yn ymwybodol o’r polisi ID pleidleiswyr, er bod ymwybyddiaeth yn is ymhlith pobl ifanc (71%), a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig (76%). 
  • bod 58% o bobl yn ymwybodol y gallent wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr pe na bai ganddyn nhw ID derbyniol arall.
  • bod 210,000 o bobl wedi gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr rhwng mis Ionawr 2023, pan lansiwyd y gwasanaeth, a 26 Mehefin 2024, sef y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig. Roedd ceisiadau’n is na’r disgwyl gyda dim ond 57,000 o geisiadau’n cael eu cyflwyno rhwng dyddiad cyhoeddi’r etholiad a’r dyddiad cau. Defnyddiwyd tua 26,000 o dystysgrifau fel math o ID ar 4 Gorffennaf.
  • bod y dystiolaeth yn awgrymu bod y gofyniad i ddangos ID wedi effeithio’n fwy ar rai pobl nag eraill. Roedd pobl o raddau cymdeithasol is nad oeddent wedi pleidleisio yn fwy tebygol na’r rhai mewn graddau cymdeithasol uwch o ddweud mai’r rheswm am hynny oedd nad oedd ganddyn nhw ID derbyniol. 

Bydd y Comisiwn yn parhau i fonitro pa grwpiau sy’n llai tebygol o fod â’r ID gofynnol ac i asesu sut y gall ei weithgarwch ymgyrchu gyrraedd y grwpiau hyn orau. 

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg yn y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu [email protected]
 

Nodiadau i olygyddion

  • Cyflwynwyd y gofyniad i ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd y gofyniad eisoes ar waith yng Ngogledd Iwerddon.
  • Cafodd data am bleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio a gofnodwyd fel rhai a gafodd eu gwrthod, a’r rhesymau dros wrthod, eu casglu gan staff gorsafoedd pleidleisio ledled Prydain a’u hadrodd i’r Comisiwn.
  • Mae’r holl ffigurau o’r arolwg, oni nodir yn wahanol, yn dod gan YouGov Plc. Maint y sampl oedd 5,863 o oedolion. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil rhwng 4 a 26 Gorffennaf 2024. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion gwledydd Prydain yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth, gradd gymdeithasol ac ethnigrwydd.
  • Mae’r Comisiwn wedi cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am ID pleidleiswyr ers lansio’r polisi. Ar gyfer yr etholiad cyffredinol, targedwyd gweithgarwch at gynulleidfaoedd a oedd yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o’r gofyniad neu’n llai tebygol o fod ag ID. Bydd y Comisiwn yn parhau i dargedu’r cynulleidfaoedd hyn yn y dyfodol drwy gymysgedd o weithgarwch hysbysebu y telir amdano, gwaith partneriaeth â sefydliadau ac awdurdodau lleol, y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol. 
  • Bydd adroddiad llawn y Comisiwn am yr etholiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd yn tynnu ar y gyfres lawn o dystiolaeth a data, gan gynnwys arolygon gan ymgeiswyr, swyddogion canlyniadau, a staff gorsafoedd pleidleisio, ac adborth gan elusennau a sefydliadau cymdeithas sifil.
  • Nododd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei maniffesto y bydd yn mynd i’r afael â’r anghysondebau yn y rheolau am ID pleidleiswyr sy’n atal pleidleiswyr dilys rhag pleidleisio, gan gynnwys yr achos dros dderbyn Cardiau Cyn-filwyr Lluoedd Arfog EF.
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n gweithio er mwyn hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy’r canlynol:
    • galluogi’r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael â’r newidiadau yn yr amgylchedd i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a delio ag achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y Deyrnas Unedig.