Y Comisiwn Etholiadol yn ymateb i Strategaeth y Llywodraeth ar Etholiadau
Electoral Commission responds to UK Government's Elections Strategy
Dylai’r cynigion yn Strategaeth y Llywodraeth ar Etholiadau gwella’r system yn sylweddol ar gyfer pleidleiswyr, pleidiau, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol yn ôl y Comisiwn Etholiadol. Bydd newidiadau i gofrestru pleidleiswyr, y rheolau cyllid gwleidyddol, diogelu ymgeiswyr, a’r amserlen etholiadol yn cynnig buddion penodol.
Tra bo oddeutu 8 miliwn o bobl heb eu cofrestru’n gywir dylai cofrestru awtomatig wella cywirdeb y gofrestr etholiadol ac annog rhagor o bobl i gymryd rhan. Bydd y newidiadau i derfynau amser enwebu ymgeiswyr a’r bleidlais bost yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau sy'n wynebu gweinyddwyr etholiadol, a dylai’r prosesau ar eu newydd wedd arwain at brofiadau gwell i bleidleiswyr.
Byddai rheolau newydd ar roddion gwleidyddol gan gwmnïau a chymdeithasau anghorfforedig, gwiriadau gwybod eich rhoddwr, a chryfhau pwerau rheoleiddio yn datrys hen faterion mewn cyfraith cyllid etholiadol, yn cynyddu tryloywder ac yn helpu meithrin ymddiriedaeth ymysg pleidleiswyr.
Mae'r Comisiwn yn parhau i wrthwynebu egwyddor Datganiad Strategaeth a Pholisi (SPS) ar gyfer y Comisiwn Etholiadol.
Dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Bydd y diwygiadau hyn yn gwella gwytnwch ac uniondeb ein system etholiadol, gan mynd i’r afael â llawer o’r bygythiadau sy’n ei wynebu. Dylai hefyd gwella’r profiad i bleidleiswyr, ymgyrchwyr, pleidiau a gweinyddwyr.
“Bydd y diwygiad etholiadol yn agor y drws i filiynau o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau, a bydd y newidiadau arfaethedig i’r rheolau cyllid gwleidyddol yn cryfhau’r gwiriadau ar arian sy’n cael ei fwydo i wleidyddiaeth y DU ac yn sicrhau cyfundrefn gorfodi fwy gymesur ac effeithiol.
“Rydym yn barod i weithio gyda’r gymuned etholiadol i feithrin dealltwriaeth a chydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion newydd, ac i gefnogi pleidleiswyr drwy ddarparu’r adnoddau gwybodaeth ac addysg .”
Nid oes gan y Comisiwn barn ar newidiadau i’r etholfraint ond bydd yn cefnogi gweithredu pleidleisiau 16oed, fel mae wedi’i wneud yng Nghymru a’r Alban. Yn ogystal â hynny, bydd yn gwneud rhagor o waith i helpu pleidleiswyr tramor. Bydd yn canolbwyntio ar roi gwybodaeth i bleidleiswyr newydd a’u helpu i deimlo’n hyderus wrth gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd: yn enwedig mewn dadleuon cadarn ond barchus.
Mae rhagor o waith a thystiolaeth ei hangen ar rai cynigion. Mae'r Comisiwn yn cefnogi cynigion ar gyfer ID pleidleiswyr digidol, ond mae defnyddio cardiau banc ar gyfer ID pleidleiswyr yn peri risgiau i ddiogelwch ac ymddiriedaeth pleidleiswyr.
Wrth dynnu sylw at y Strategaeth a’r Datganiad Polisi, dywedodd John Pullinger, cadeirydd y Comisiwn Etholiadol y canlynol:
“Rydym yn parhau i wrthwynebu egwyddor datganiad strategaeth a pholisi, y gall llywodraeth ei arwain. Rhaid i annibyniaeth a didueddrwydd comisiwn etholiadol fod yn glir i bleidleiswyr ac ymgyrchwyr, ac mae'r math hwn o ddylanwad gan lywodraeth yn anghyson â'r rôl honno. Mae'r bil hwn yn cynnig cyfle amserol i ddiddymu'r pŵer i'r llywodraeth ddynodi datganiad.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.