Is-etholiadau – briffiad i'r cyfryngau
Is-etholiadau – briffiad i'r cyfryngau
Cynhelir is-etholiadau Senedd y DU yn digwydd pan fydd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn dod yn wag. Gall hyn ddigwydd pan fydd aelod o Senedd y DU (AS):
- yn ymddeol neu’n marw
- yn cael ei ddatgan yn fethdalwr
- yn cymryd sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi
- yn cael ei gollfarnu am drosedd ddifrifol
Cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yw gweinyddiaeth is-etholiad. Dylid cyfeirio manylion am is-etholiad penodol at yr awdurdod lleol neu'r cyngor perthnasol.
Dod yn ymgeisydd
I allu sefyll fel ymgeisydd mewn is-etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr, mae'n rhaid i berson, ar y diwrnod y mae’n cael ei enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio, fod:
- yn 18 mlwydd oed neu'n hyn, ac
- yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon
- neu yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad
Nid yw dinasyddion gwledydd eraill yn gymwys i fod yn Aelod o Senedd y DU.
Does dim gofyniad cyfreithiol i’r ymgeisydd fod yn bleidleisiwr cofrestredig yn y DU.
Heblaw am fodloni'r cymwysterau ar gyfer sefyll mewn etholiad, mae'n rhaid i’r ymgeisydd hefyd beidio â bod wedi’i wahardd rhag sefyll adeg ei enwebu nac ar ddiwrnod yr etholiad. Mae'r ystod lawn o anghymwysterau'n gymhleth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau y Comisiwn ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau.
Y dyddiad cynharaf y gall person ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod y daw'r swydd yn wag. Os yw person eisoes wedi datgan eu hunain i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, byddant yn ymgeisydd ar y diwrnod hwn.
Os ydynt yn datgan y byddant yn ymgeisydd yn yr etholiadau ar ôl y diwrnod hwn, maen nhw'n dod yn ymgeisydd ar y diwrnod hwnnw, neu'r dyddiad y maen nhw'n cyflwyno'u papurau enwebu yn ffurfiol - pa un bynnag sydd gynharaf.
Ymgyrchu mewn is-etholiad
Gall ymgeiswyr ddechrau ymgyrchu unrhyw bryd. Nid oes rhaid iddynt aros am enwebiad dilys er mwyn datgan eu bod am sefyll etholiad, gofyn i bobl eu cefnogi neu gyhoeddi deunydd ymgyrchu.
Mae terfynau gwariant etholiad yn gymwys o'r diwrnod ar ôl i berson ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnyddio 'argraffnod' ar eu holl ddeunydd ymgyrchu printiedig. Mae argraffnod yn cynnwys enw a chyfeiriad
- yr argraffydd
- yr hyrwyddwr (y person a achosodd i'r deunydd gael ei gyhoeddi)
- unrhyw un arall y cyhoeddwyd ar ei ran
Rhaid ei gynnwys ar yr holl ddeunydd printiedig fel posteri, placardiau a thaflenni. Mae hyn er mwyn i etholwyr fod yn glir ynghylch ffynhonnell deunydd yr ymgyrch. Mae'n drosedd i beidio â chynnwys argraffnod ar ddeunyff etholiadol argraffedig.
Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn Etholiadol yn argymell y dylai ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, lle y bo'n bosibl, gynnwys argraffnod ar eu deunyddiau electronig (e.e. gwefannau, negeseuon e-bost a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol). Mae angen i bleidleiswyr wybod pwy sy'n eu targedu â negeseuon gwleidyddol ar-lein. Mae Deddf Etholiadau Llywodraeth y DU 2022 yn cyflwyno gofyniad argraffnod ar gyfer deunydd gwleidyddol digidol, a fydd yn berthnasol drwy’r flwyddyn gyfan. Bydd yn dod i rym ym mis Tachwedd 2023.
Mae'n anghyfreithlon gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd er mwyn dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Gall yr heddlu ymchwilio i honiadau o'r drosedd etholiadol benodol o wneud datganiad ffug.
Mae rheolau am ddifenwi hefyd yn berthnasol i ddeunyddiau etholiad. Mae materion difenwi yn fater i'r llysoedd sifil.
Nid oes gan y Comisiwn Etholiadol rôl reoleiddiol mewn perthynas â chynnwys deunydd ymgyrchu na'r hyn y mae ymgeiswyr yn ei ddweud am ei gilydd. Fodd bynnag, rydym yn annog pob ymgyrchydd i ymgymryd â’u rôl hanfodol yn gyfrifol a chefnogi tryloywder o ran ymgyrchoedd.
Gwariant a rhoddion
Y terfyn gwariant ar gyfer ymgeiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir mewn is-etholiad Seneddol yn y DU yw £100,000.
Mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i berson ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio. Y dyddiad cynharaf y gall rhywun ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod y daw'r swydd yn wag.
Os nad yw bwriad rhywun i sefyll wedi cael ei gyhoeddi ganddynt erbyn hynny, byddant yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y dyddiad cynharaf o'r rhain:
- y dyddiad y mae nhw neu berson arall yn datgan eu bwriad i sefyll
- y dyddiad y maent yn cael eu henwebu
Ceir rheolau i sicrhau y gellir rheoli'r gwariant a'i gofnodi a rhoi gwybod amdano'n gywir.
Mae ymgeiswyr fel arfer yn penodi asiant. Cyfrifoldeb yr asiant yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant eu hymgeisydd. Dylai sicrhau ei fod yn deall y rheolau a bod pob gwariant wedi'i awdurdodi a'i gofnodi ac y rhoddir gwybod amdano'n gywir.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, dim ond y bobl ganlynol y caniateir iddynt fynd i gostau ar wariant etholiadol:
• yr asiant
• yr ymgeisydd
• unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu'r asiant
Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian.
Gall ymgeiswyr dim ond derbyn rhoddion gan ffynhonnell a ganiateir. Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch dderbyn rhoddion.
- unigolyn cofrestredig ar gofrestr etholiadol y DU, gan gynnwys etholwyr tramor
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru ym Mhrydain Fawr
- plaid wleidyddol sydd wedi'i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon (dim ond os ydynt yn sefyll i gael eu hethol yng Ngogledd Iwerddon)
- y rhan fwyaf o gwmnïau sydd wedi’u cofrestru yn y DU
- undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas gyfeillgar sydd wedi'i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig sydd wedi'i lleoli yn y DU ac sy'n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn y DU
Mae rhagor o wybodaeth ar roddion a rheolau gwariant ar gael yn ein canllawiau.
Cyn derbyn unrhyw rodd o fwy na £50 at ddiben bodloni gwariant ymgeisydd, rhaid i’r asiant etholiadol gymryd pob cam rhesymol i:
- gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod hunaniaeth y gwir ffynhonnell
- cadarnhau bod y ffynhonnell yn un a ganiateir
Mae ganddynt 30 diwrnod i wneud hyn, a dychwelyd y rhodd os na allant ei dderbyn. Os ydynt yn cadw rhodd am fwy na 30 diwrnod, tybir eu bod wedi eu derbyn.
Ar ôl yr etholiad, rhaid i'r asiant sicrhau'r canlynol:
- • bod pob anfoneb yn dod i law o fewn 21 diwrnod ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan
- • bod pob anfoneb yn cael ei thalu o fewn 28 diwrnod ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan
- • rhaid rhoi gwybod i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) am fanylion gwariant a rhoddion yr ymgeisydd o fewn 35 diwrnod ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan, ynghyd â datganiad bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir.
Rhaid i'r ymgeisydd hefyd gyflwyno datganiad yn cadarnhau bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Mae'n rhaid gwneud hyn o fewn saith diwrnod o gyflwyno'r cofnod.
Mae rheolau ar gael ar ein tudalen canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid. Maent yn cwmpasu'r holl wybodaeth y mae'n rhaid iddynt ei chynnwys.
Cofrestru i bleidleisio
Gall person bleidleisio mewn isetholiad os ydynt ar y gofrestr etholiadol mewn ardal lle mae etholiadau’n cael eu cynnal, ac os ydynt:
yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
• yn ddinesydd Prydeinig
• yn ddinesydd Gwyddelig, neu'n ddinesydd cymwys yn un o wledydd y Gymanwlad
Gall dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor sydd wedi'u cofrestru fel pleidleiswyr tramor bleidleisio mewn is-etholiadau seneddol. Mae pleidleiswyr yn y Lluoedd Arfog sydd wedi'u lleoli dramor yn gymwys i bleidleisio mewn is-etholiadau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymhwysedd ar gael ar ein gwefan yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
Mewn rhai achosion, gall pleidleiswyr fod yn gymwys i gofrestru mewn dau gyfeiriad gwahanol. Fodd bynnag, ni all person bleidleisio mewn mwy nag un man mewn is-etholiad seneddol.
ID Pleidleisiwr
Oes. Ers mis Mai 2023, mae'n ofynnol i bleidleiswyr ledled Prydain Fawr sy’n pleidleisio yn is-etholiad neu etholiad cyffredinol Senedd y DU ddod ag ID ffotograffig gyda nhw i bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, yn dilyn gofynion newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau. Mae ffurf newydd o ID rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ar gael i’r rheiny nad oes ganddynt fath arall o ID ffotograffig a dderbynnir.
Mae mathau o ID ffotograffig a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru'r DU neu’r AEE; a rhai pasys teithio rhatach, megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Mae’r rhestr lawn ar gael yma. Gall y rhai nad oes ganddynt fath o ID a dderbynnir wneud cais am ID pleidleisiwr rhad ac am ddim.
Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffoto o hyd.
Gall unrhyw un heb fath o ID a dderbynnir wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr rad ac am ddim yn cymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk, neu drwy ofyn am ffurflen bapur gan eu cyngor lleol.
Pleidleisio
Y system bleidleisio a ddefnyddir i ethol AS mewn is-etholiad yw 'y cyntaf i'r felin'.
- Gall pleidleiswyr ddewis o blith rhestr o ymgeiswyr ar y papur pleidleisio a fydd naill ai'n rhan o blaid wleidyddol neu'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Er mwyn bwrw pleidlais, dylai pleidleisiwr roi X (croes) wrth ymyl yr un ymgeisydd y maent am bleidleisio drosto.
- O dan y system hon, mae’r ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ethol.
Mae nifer o opsiynau ar gael ar gyfer pleidleisio. Gall pleidleiswyr bleidleisio yn bersonol, trwy’r post, neu drwy ddirprwy.
Er mwyn pleidleisio'n bersonol, bydd angen i bleidleiswyr gyrraedd eu gorsaf bleidleisio ddynodedig rhwng 7am a 10pm ar y diwrnod pleidleisio. Cyn y diwrnod pleidleisio, anfonir cerdyn pleidleisio at bleidleiswyr, sy'n cynnwys manylion ble mae eu gorsaf bleidleisio. Gall pleidleiswyr bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar y cerdyn hwn yn unig.
Os na all bleidleiswyr fynd i orsaf bleidleisio, neu os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, gallant wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais trwy ddirprwy.
Pleidleisio trwy ddirprwy yw pan fydd pleidleisiwr yn gofyn i rywun y maen nhw'n ymddiried ynddynt bleidleisio ar eu rhan. Mae angen iddynt gwblhau a llofnodi ffurflen cais trwy ddirprwy a'i dychwelyd i'w swyddfa gofrestru etholiadol leol erbyn y dyddiad cau. Bydd angen i'w dirprwy ddangos math o ID a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio cyn iddynt allu pleidleisio.
Gall pleidleiswyr wneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol, cyfnod penodol o amser, neu ar gyfer pob etholiad. Mae angen iddynt gwblhau a llofnodi ffurflen gais pleidlais bost a'i dychwelyd i'w swyddfa gofrestru etholiadol leol erbyn y dyddiad cau.
Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm. Bydd unrhyw bleidleisiwr sydd mewn ciw yn yr orsaf bleidleisio sy'n aros i bleidleisio am 10pm yn gallu pleidleisio.
Bydd angen i bleidleiswyr ddod â math o ID a dderbynnir gyda nhw er mwyn pleidleisio.
Cyn y diwrnod pleidleisio, anfonir cerdyn pleidleisio at bleidleiswyr, sy'n cynnwys manylion ble mae eu gorsaf bleidleisio. Gall pleidleiswyr bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar y cerdyn hwn yn unig.
Dim ond pleidleiswyr dienw sydd angen dod â'u cerdyn pleidleisio i'r orsaf bleidleisio, er y gallai dod ag ef gyflymu'r broses ar gyfer pob pleidleisiwr. Nid oes angen i bleidleiswyr dienw ddod ag ID ffotograffig gyda nhw ond mae’n rhaid iddynt gael Dogfen Etholwr Dienw.
Bydd staff yr orsaf bleidleisio wrth law i esbonio'r papur pleidleisio a sut i bleidleisio.
Y cyfrif
Y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) sy'n gyfrifol am gyfrif y pleidleisiau a fwriwyd yn eu hetholaeth. Bydd yr awdurdod lleol perthnasol yn gallu darparu amseroedd cyfrif rhagamcanol.
Er mwyn cefnogi gweinyddwyr etholiadol gyda'r broses gyfrif, rydym wedi cyhoeddi canllawiau.
Mae pedwar cam i'r broses gyfrif.
- Mae'r blychau pleidleisio trwy'r post a'r blychau pleidleisio o'r gorsafoedd pleidleisio yn cyrraedd y lleoliad cyfrif.
- Mae staff yn cynnal proses ddilysu ac yn sicrhau bod nifer y papurau pleidleisio post a’r papurau pleidleisio yn cyfateb i'r niferoedd a gofnodwyd mewn sesiynau agor pleidleisiau post, a chan y Llywydd yn yr orsaf bleidleisio yn y drefn honno.
- Mae'r pleidleisiau'n cael eu cyfrif a chyhoeddir y canlyniadau gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
- Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cyhoeddi enw'r ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau wedi'u hethol yn briodol.